Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ddiweddar roeddwn ar ymweliad â Tsieina a Hong Kong i gefnogi taith fasnach aml-sector ac i hyrwyddo Cymru fel partner busnes byd-eang. Roeddwn hefyd yn falch o fod mewn perfformiad arbennig gan Opera Cenedlaethol Cymru yn Hong Kong, a'r lle dan ei sang - enghraifft wych o ddiwylliant Cymru ar y lefel uchaf.  

Yn Shanghai cynhelais dderbyniad busnes i hyrwyddo partneriaethau gyda'r 24 aelod o'r daith fasnach o Gymru.  Anerchais seminar ar gyfer cwmnïau Shanghai sydd â diddordeb cynnal busnes yng Nghymru.  Bu imi hefyd gyfarfod ac amrywiol fusnesau eraill sydd â diddordeb posibl mewn buddsoddi.  

Roedd y ddirprwyaeth o Gymru yn cynnwys elfen ddiwylliannol gref oedd yn hyrwyddo cyfoeth yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.  Roeddwn yn arbennig o falch o fod yn dyst i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Shanghai, sy'n gosod sylfaen ar gyfer cydweithredu fydd o fudd i'r ddau sefydliad.  

Yn Hong Kong cynhelais dderbyniad busnes arall, gyda pherfformiad gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, i hyrwyddo'r cysylltiadau rhwng ein taith fasnach a Chymru fel partner busnes yn fwy cyffredinol. Defnyddais fy ymweliad i greu cysylltiadau rhwng cymuned fusnes Hong Kong a'r llywodraeth, yn ogystal â sefydliadau ym Mhrydain allai ein helpu - Prif Gonswl Prydain, yr Adran Masnach Ryngwladol, y Cyngor Prydeinig a'r Siambr Fasnach.  
 
Mae'n galonogol iawn gweld nifer o gwmnïau gwych o Gymru sydd â'r uchelgais a'r awydd i ddatblygu marchnadoedd allforio newydd neu eu cynyddu.  Mae'r economi yn Tsieina yn ddeinamig ac yn parhau i ddatblygu.  Mae Cymru yn agored i fusnes ledled y Byd a byddwn yn parhau i fynd ati i ddarparu amgylchedd agored a chefnogol i fuddsoddwyr. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau i gefnogi uchelgeisiau allforio newydd a chyfredol yn Tsieina ac mewn mannau eraill.  Ni fu erioed yn bwysicach i fusnesau a llywodraeth gydweithio i ehangu ein gorwelion a chreu mwy o gyfoeth.

Noder: ymunodd y cwmnïau canlynol daith fasnach Tsieina / Hong Kong:

  • 4Pi Productions UK
  • Abartech 
  • Air Covers 
  • Ballet Cymru
  • Bombastic 
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Christine Bird-Jones 
  • Coleg y Cymoedd
  • Cradocs Savoury Biscuits
  • Yr Ymddiriedolaeth FAW
  • GTW Developments Group 
  • Julia Brooker Paintings
  • Cwmni Dŵr
  • Manutech Europe
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • NPTC Group of Colleges
  • Adeiladu Busnesau
  • Ruth Lee
  • Silverlining Furniture 
  • Teddington Engineered Solutions
  • Ty Nant Spring Water
  • Volcano Theatre Company
  • Wagtail UK
  • Opera Cenedlaethol Cymru

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.