Neidio i'r prif gynnwy

Ken States AS, Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae data gwrthdrawiadau ffyrdd newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod anafiadau wedi lleihau ar ffyrdd ers cyflwyno'r terfynau cyflymder newydd o 20mya ym mis Medi y llynedd. 

Mae'r data, sy'n darparu cyfanswm nifer y rhai a anafwyd mewn gwrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, yn dangos bod nifer yr anafiadau ar y ffyrdd 20mya a 30mya yn chwarter olaf 2023 (Hydref - Rhagfyr) wedi gostwng 218, o 681 yn 2022 i 463 yn 2023. 

Cyfanswm nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya yn Ch4 oedd y ffigwr chwarterol isaf a gofnodwyd y tu allan i gyfnod pandemig Covid. 

Yn gyffredinol, yn 2023 adroddodd yr heddlu yng Nghymru gyfanswm o 3,262 o wrthdrawiadau ffordd, gostyngiad o 1.6% o'i gymharu â 2022 a 24.7% yn is nag yn 2019 (cyn pandemig Covid). 

Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos yn glir bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi lleihau ers cyflwyno 20mya - yr isaf erioed y tu allan i gyfnod pandemig Covid.

Mae llawer o waith i'w wneud, ac rydym yn disgwyl i'r niferoedd amrywio dros y blynyddoedd nesaf wrth i yrwyr addasu i'r cyflymder newydd, ond mae'n galonogol gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae pob gostyngiad mewn dioddefwyr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Prif amcan y polisi erioed oedd lleihau nifer y bobl oedd yn cael eu hanafu a helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau ac mae data heddiw yn atgyfnerthu’r ffaith ein bod ar y ffordd i gyflawni hyn.

Ond, wrth i mi barhau ar fy rhaglen wrando, rwy'n ymwybodol bod angen i ni fireinio'r polisi o hyd i sicrhau bod gennym y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir a chydnabod y gallai fod angen i rai ffyrdd ddychwelyd i 30mya. Fel rhan o'n rhaglen wrando, byddwn yn annog pobl i gysylltu â'u cyngor lleol i ddweud ble yn eu barn nhw y dylai'r 20mya gael ei dargedu.