Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Neithiwr bu gwrthdrawiad ar gyflymder araf rhwng dau drên Trafnidiaeth Cymru ger Llanbrynmair ym Mhowys.  Yn anffodus, mae dyn wedi marw yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae 15 o bobl eraill wedi dioddef anafiadau na chredir eu bod yn peryglu bywydau nac yn newid bywydau. Rydym yn meddwl am bawb yr effeithiwyd arnynt. 

Bydd Rheilffordd y Cambrian i'r dwyrain o Fachynlleth ar gau tra bod timau arbenigol yn parhau â'u hymchwiliadau, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i beidio â theithio i'r rhan hon o'r rhwydwaith.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau brys a fynychodd leoliad y ddamwain, ac a fu'n cynorthwyo ein teithwyr a'n staff.

Diogelwch ein teithwyr a'n staff yw'n prif flaenoriaeth bob amser. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau, gan gynnwys y gwasanaethau brys a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB), i ddeall sut digwyddodd y digwyddiad hwn a byddant yn cael fy nghefnogaeth lawn.