Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi mynychu pedwaredd gynhadledd flynyddol Ystadau Cymru i ddathlu'r gwaith ar y cyd a wnaed gan reolwyr asedau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae dull un ystâd gyhoeddus yn ymwneud yn helaeth â sicrhau bod ein hasedau yn cyrraedd eu potensial llawn, p'un a yw hynny'n mynd i'r afael â digartrefedd, gan leihau’r argyfwng tai fforddiadwy, cefnogi ein cymunedau trwy drosglwyddo asedau neu ymateb i'r newid yn yr hinsawdd.

Thema'r gynhadledd eleni oedd Gwerth Cymdeithasol. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn ymdrechu i wella bywydau pobl - felly mae'r thema yn arbennig o berthnasol i'r cyfnod presennol. Mae buddsoddi yn ein hasedau economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn gwneud hynny.

Mae sector cyhoeddus Cymru yn wynebu rhagolygon ariannol heriol, sy'n ei gwneud hi'n bwysig i gydnabod a dathlu llwyddiant a'r arloesedd a'r gallu i addasu sy'n cael ei weld ar draws yr ystâd gyhoeddus er mwyn helpu i sicrhau a darparu gwasanaethau pwysig i bobl Cymru.

Dyma'r drydedd flwyddyn i wobrau blynyddol ymddangos yn y gynhadledd ac, fel erioed, cafwyd rhai ceisiadau rhagorol yn dangos ystod eang o ganlyniadau cadarnhaol iawn o'r prosiectau a gynhaliwyd gan ein cydweithwyr yn y sector cyhoeddus. Roedd y cofnodion yn cwmpasu ystod eang o fentrau, a farnwyd yn erbyn Twf Economaidd, Cynaliadwyedd Amgylcheddol, Gwerth Cymdeithasol ac Arloesedd.

Doedd beirniadu'r enillwyr ym mhob un o'r categorïau yma ddim yn hawdd, ond rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r enillwyr ym mhob un o'r categorïau fel a ganlyn:

Creu Twf Economaidd: Cyngor Dinas Casnewydd a'u partneriaid am adfer ac adfywio Marchnad Dan Do Gradd II Casnewydd.

Dangos Cynaliadwyedd Amgylcheddol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'u partneriaid am adnewyddu ac uwchraddio cyfleusterau yn Adeiladau'r Goron Wrecsam.

Arddangos Gwerth Cymdeithasol: Cymdeithas Pentref Bro Ogwr, Cyngor Bro Morgannwg a phartneriaid am ddatblygu cyfleusterau newydd yn Aberogwr.

Darparu Arloesedd: Cymoedd i Arfordir a'u partneriaid am gyflawni y tro cyntaf i Gymru gyda datblygiad tai Ffordd yr Eglwys.

Roedd dewis enillydd cyffredinol o faes mor gryf yn arbennig o heriol, ond fel cydnabyddiaeth o'r cyfraniad ar draws mwy nag un categori, gallaf gyhoeddi mai enillydd Gwobr Ystadau Cymru 2022 yw Adeilad y Goron Wrecsam.

Rwy’n llongyfarch yr holl brosiectau yn y gwobrau eleni ac edrychaf ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall yn 2023.