Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi ‘Datganiad Polisi Caffael Cymru’.

Ym mis Medi, rhoddais dderbyniad gwresog i adolygiad McClelland, Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru a gyhoeddwyd yn fuan ar ôl adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes, Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop, ym mis Mai. Roedd yr adroddiadau hyn yn cyfleu negeseuon pwysig ac adeiladol ynglŷn â nifer o bolisïau ac arferion Llywodraeth Cymru, gan amlinellu rhai meysydd y dylid eu gwella.

Mae’r Datganiad Polisi Caffael Cymru’n nodi’n glir yr arferion caffael a’r camau penodol y mae angen i bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru eu cymryd.

Heb os, mae proses gaffael da yn gallu sicrhau arbedion a chreu manteision lleol. Hyderaf y bydd y Datganiad Polisi hwn o gymorth i sicrhau lefelau uwch mewn perthynas â’r ddau yn y dyfodol. Mae dadl wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn newydd sef “Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru”.

Atodir Datganiad Polisi Caffael Cymru yn y datganiadau isod.

**Mae’r fersiwn wreiddiol o Ddatganiad Polisi Caffael Cymru wedi’i atodi isod fel cofnod hanesyddol yn unig ac nid dyma’r fersiwn gyfredol. Mae modd gweld y fersiwn ddiweddaraf yn y Canllaw Cynllunio Caffael (dolen alllanol)**