Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Bydd yr Aelodau am fod yn ymwybodol bod Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 wedi'i wneud gan y Cyfrin Gyngor ar 11 Tachwedd 2020 a'i fod wedi dod i rym wedyn.
Mae'r Gorchymyn i'w weld drwy ddilyn y ddolen a ganlyn:
https://www.legislation.gov.uk/uksi/2020/1255/made/welsh
Mae Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yn rhestru swyddi ac aelodaeth o gyrff sy'n anghymhwyso eu deiliaid rhag bod yn Aelod o'r Senedd (ond nid o fod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd). Disgrifir y swyddi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn.
Mae swyddi anghymhwyso ychwanegol, ynghyd â chategorïau o bersonau sydd wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd, wedi'u rhagnodi gan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 1A iddi. Dylid darllen y Gorchymyn gyda'r darpariaethau hynny.
Bydd y Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015, gan gael effaith adeg etholiad pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
Bydd y Comisiwn Etholiadol yn ystyried Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yn ei ganllawiau i ymgeiswyr cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021. Fodd bynnag, bydd hefyd yn bwysig bod pob plaid wleidyddol yn cymryd camau i sicrhau bod eu darpar ymgeiswyr yn gwbl ymwybodol o'r Gorchymyn.