Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Bydd yr Aelodau am fod yn ymwybodol y gwnaeth y Cyfrin Gyngor Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 ar 15 Gorffennaf 2015. Mae’r Gorchymyn yn rhestru pa swyddi ac aelodaeth o gyrff sy’n anghymhwyso eu deiliaid rhag bod yn Aelodau Cynulliad. Mae’r Gorchymyn i’w weld yma:
http://www.legislation.gov.uk/uksi/2015/1536/contents/made
Daw’r Gorchymyn i rym ar 1 Medi, pan fydd yn cymryd lle Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010, a bydd yr holl swyddi a restrir yng Ngorchymyn 2015 yn anghymhwyso eu deiliaid rhag bod yn Aelodau Cynulliad.
Bydd y dyddiad dod i rym ar 1 Medi yn caniatáu i’r Comisiwn Etholiadol ystyried Gorchymyn Anghymhwyso 2015 yn ei gyfarwyddyd i ymgeiswyr cyn etholiadau’r Cynulliad 2016. Fodd bynnag, bydd hefyd yn bwysig bod pob plaid wleidyddol yn cymryd camau i sicrhau bod eu darpar ymgeiswyr yn llwyr ymwybodol o’r Gorchymyn.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r diweddaraf i’r aelodau. Byddaf yn ddigon bodlon gwneud datganiad pellach neu ateb cwestiwn ar y mater pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd os yw’r aelodau am i mi wneud hynny.