Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddoe, arwyddais Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017.  Dyma’r ail Orchymyn Cyflogau o dan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 a’r gorchymyn cyflogau cyntaf i fod yn seiliedig ar argymhellion y Panel Cynghori annibynnol ar Amaethyddiaeth, a sefydlwyd yn Ebrill 2016.

(gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/agricultural-sector-wales-act-2014).

Roedd y penderfyniad ar ôl dileu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr i gadw’r isafswm cyflog amaethyddol yn gam pwysig am iddo ddangos bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cymunedau gwledig a gweithwyr amaethyddol ar gyflogau isel yng Nghymru.

Roedd benderfyniad y Llywodraeth hon i gadw’r drefn yn adlewyrchu ein hamcanion polisi ehangach o fewn yr agenda Trechu Tlodi a phrif nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r drefn statudol ar gyfer diogelu isafswm cyflogau yn seiliedig ar strwythur tâl a gyrfaoedd chwe gradd gyda’r gallu i wella amodau cyflogaeth, annog cyfleoedd i wella sgiliau a helpu i ddenu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant. Mae'r drefn yn sicrhau diwydiant amaethyddol effeithiol, modern a phroffesiynol yng Nghymru.

Cafodd y cyfraddau newydd eu cynnig gan aelodau’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth a bydd yn cynyddu cyflogau pob gradd a chategori o weithiwr.  Bydd Graddau 3 i 6 yn cael 1.2% o godiad o’i gymharu â’u cyflogau yn 2016, a chaiff gweithwyr Gradd 2 gyfradd fesul awr o £7.54.  Caiff cyflogau gweithwyr Gradd 1 eu pennu’n uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol, gan ddibynnu ar oedran y gweithiwr.

Daw darpariaethau’r Gorchymyn newydd i rym heddiw a’u cymhwyso o 1 Ebrill 2017. Wrth ôl-ddyddio darpariaethau Gorchymyn 2017, bydd codiad cyflog a lwfansau rhai gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill, y dyddiad dod i rym sydd wedi ei gynnig gan y Panel fel rhan o’i ymgynghoriad ffurfiol.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Panel a’i Gadeirydd, Lionel Walford, am eu hymdrechion sylweddol i gael y gorchymyn cyflogau newydd yn barod.

Mae helpu cymunedau gwledig a gwneud yn siŵr bod gweithwyr yn y sector amaethyddol yn cael cyflog teg sy'n adlewyrchu pwysigrwydd cyfraniad amaethyddiaeth at ein heconomi, ein hamgylchedd a’n cymunedau gwledig yn un o brif amcanion y Llywodraeth hon ac mae'n hanfodol i ddatblygu hyn ymhellach er mwyn sicrhau Cymru ffyniannus, cydnerth a mwy cyfartal. Mae’r gorchymyn hon yn cefnogi fy ymrwymiad at hyfywedd a llwyddiant tymor hir y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.