Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi ail gam ein hymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol a fydd yn cyfrannu at gyflawni ein hymrwymiad i "gymryd camau i ddenu a hyfforddi rhagor o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ledled Cymru".

Bydd y cam hwn yn canolbwyntio'n benodol ar nyrsys yn y sectorau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a chartrefi gofal; gan hyrwyddo manteision hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru.

Bydd yr ymgyrch yn targedu nyrsys sydd newydd gymhwyso a nyrsys cofrestredig profiadol, yn ogystal â'r rhai sy'n ystyried dychwelyd i'r proffesiwn.  

Rydym yn gwybod bod nifer y nyrsys a'r bydwragedd sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn parhau i gynyddu o un flwyddyn i'r llall. Mae hyn yn galonogol iawn.  Fodd bynnag, ni fyddwn yn llaesu dwylo ac rydym yn cydnabod yr heriau mawr a wynebwn wrth geisio recriwtio nyrsys i leoliadau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a chartrefi gofal.

Dyma pam rydym wedi bod yn cydweithio â'n partneriaid i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r heriau hyn a datblygu cam nesaf yr ymgyrch farchnata i roi Cymru ar y map rhyngwladol.

Bydd yr ymgyrch yn hyrwyddo'r gwerth yr ydym yn ei weld yn ein nyrsys a'r cyfraniad pwysig y maent yn ei wneud i iechyd pobl ac i'n Gwasanaeth Iechyd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes i nyrsys. Mae hynny'n cynnwys cyfleoedd i nyrsys sydd newydd gymhwyso ddysgu fel rhan o'u swyddi mewn amgylchedd cefnogol dros ben, yn ogystal â chymorth i nyrsys profiadol ddatblygu eu gyrfa drwy ddysgu yn y gweithle, rhaglenni ymarfer uwch a chyfleoedd ymchwil.
Ar ben hyn, mae amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg ar gael i helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Yn ogystal â cheisio recriwtio nyrsys cymwys, rydym wedi buddsoddi er mwyn hyfforddi a datblygu nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, ac yn parhau i wneud hynny.

Ar 9 Rhagfyr 2016, cyhoeddais set o drefniadau interim ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Bryd hynny, dywedais yn glir fod Cymru ar agor i fusnes ac ein bod yn croesawu unrhyw unigolion sydd â diddordeb mewn dilyn rhaglenni addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rwyf wedi cytuno i estyn y trefniadau ar gyfer 2017/18 fel eu bod ar gael i fyfyrwyr sy'n dewis astudio rhaglen iechyd gymwys sy'n dechrau yn 2018/19. Drwy wneud hyn, bydd modd gwneud gwaith manylach er mwyn gallu rhoi rhagor o ystyriaeth i'r trefniadau tymor hir yn sgil canfyddiadau Adolygiad Diamond. Bydd hyn yn cynnwys proses ymgynghori lawn i sicrhau bod gennym set newydd o drefniadau erbyn 2019/20 a bod y newidiadau hyn yn gynaliadwy.

Yn ogystal â'r ymgyrch farchnata, byddwn yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd â diddordeb mewn gyrfa nyrsio yng Nghymru drwy ddarparu un pwynt cyswllt ar gyfer pob ymholiad dros y ffôn a thrwy'r wefan, sef www.trainworklive.wales/?lang=cy

Bydd y cam hwn o'r ymgyrch yn cynnwys mynychu digwyddiadau gofal iechyd, cyfres o astudiaethau achos i dynnu sylw at brofiadau cadarnhaol nyrsys, yn ogystal â ffilm  a hysbysebion digidol wedi'u targedu - a fu'n llwyddiannus iawn yng ngham cyntaf yr ymgyrch, a oedd yn targedu meddygon teulu.  

Yn dilyn y digwyddiad cyhoeddi ym Mharc Iechyd Keir Hardie ym Merthyr Tudful, bydd gan GIG Cymru arddangosfa yng Nghyngres y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl yr wythnos nesaf. Yno, byddwn yn hyrwyddo'r cyfleoedd hyfforddi, llwybrau gyrfa a dewisiadau o ran ffordd o fyw sydd ar gael i bobl sy'n dewis dilyn gyrfa nyrsio yng Nghymru.

Mae'r ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol hon yn rhan o ymdrech hirdymor, a bydd yn ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan y byrddau iechyd i recriwtio staff.