Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae'r cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn bolisi uchelgeisiol ac arloesol. Gwyddom fod gormod o bobl ifanc sy'n gadael gofal yn wynebu anfantais wrth iddynt bontio o fod dan ofal i fod yn oedolion. Mae'r cynllun peilot hwn yn fuddsoddiad uniongyrchol yn y bobl ifanc hyn a'u dyfodol. Ei fwriad yw rhoi'r cyfle iddynt ffynnu gan sicrhau eu hanghenion sylfaenol.
Heddiw rydym yn cyhoeddi Gwerthusiad Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru, Adroddiad Blynyddol 2024-2025. Dyma'r ail adroddiad o'r gwerthusiad, sy'n rhan o gyfres o adroddiadau blynyddol.
Mae'r ail adroddiad blynyddol yn nodi ac yn dadansoddi profiadau cynnar pobl ifanc ar y cynllun peilot, y daith gychwynnol i weithredu'r cynllun, a'r ffactorau sydd wedi peri'r llwyddiannau a'r heriau ar hyd y ffordd. Mae hefyd yn darparu diweddariad gan grŵp cyd-gynhyrchu'r peilot, grŵp o oedolion ifanc â phrofiad o ofal sy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r ymchwilwyr i roi cyngor ar werthuso'r peilot.
Mae'r gwerthusiad, a gomisiynwyd ym mis Tachwedd 2022 ac a fydd yn dod i ben yn 2027, bellach ar ei drydydd blwyddyn. Fe'i harweinir gan ganolfan ymchwil CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â chydweithwyr yng Ngholeg y Brenin Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Efrog a Phrifysgol Northumbria.
Rydym hefyd yn cyhoeddi crynodeb hygyrch o ganfyddiadau'r gwerthusiad. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o'r hyn y mae'r gwerthusiad yn edrych arno, pa waith y mae ymchwilwyr wedi'i wneud hyd yma, a'r hyn y mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym hyd yn hyn.
Bydd adroddiadau pellach, i'w cyhoeddi yn 2026 ac yn 2027, yn rhoi cipolwg ar yr hyn y mae pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn ei ddweud ar ddiwedd y cynllun peilot incwm sylfaenol, y gwahaniaeth rhwng pobl ifanc a gafodd yr incwm sylfaenol a'r rhai na'i chawsant, a gwerth am arian. Bydd fframwaith gwerthuso mwy hirdymor sy’n defnyddio data gweinyddol yn cael ei ddatblygu i’n galluogi i ddeall effaith y cynllun peilot ar fywydau’r rhai sy’n cymryd rhan y tu hwnt i 2027.