Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Ebrill 2013, cafodd cynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol yn y Gorllewin eu cyfeirio at Weinidogion Cymru gan y Cyngor Iechyd Cymuned, i wneud penderfyniad ffurfiol. Ym mis Ionawr 2014, gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw gennyf yn unol â gweithdrefnau sefydledig.
Yn dilyn cyngor gan banel o arbenigwyr annibynnol, cadarnheais y byddai gwasanaethau newyddenedigol yn cael eu canoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, lle byddai uned newyddenedigol leol newydd yn cael ei chreu; byddai gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorwyr hefyd yn cael eu canoli yn Ysbyty Glangwili a byddai uned newydd dan arweiniad bydwragedd yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd. Roedd yn ofynnol gennyf bod cyfres o fesurau cadarn yn cael eu rhoi ar waith fel rhwyd ddiogelwch yn Ysbyty Llwynhelyg, tra bod yr uned dan arweiniad bydwragedd yn cael ei sefydlu'n llawn.
Roedd y mesurau hyn yn cynnwys cerbyd a chriw ambiwlans penodedig ar gyfer trosglwyddo menywod beichiog a babanod newydd-anedig ar frys i Ysbyty Glangwili, ac ymgynghorydd ar alwad ar gyfer achosion obstetreg a gynecoleg brys y tu allan i oriau. Roedd yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gynnal gwerthusiad annibynnol o'r newidiadau ar ôl iddynt fod ar waith am 12 mis.
Cafodd y model gofal newydd ei gyflwyno ym mis Awst 2014. Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda newidiadau dilynol i wasanaethau pediatrig ym mis Hydref 2014 - cafodd gwasanaethau mewnol i blant eu canoli yn Ysbyty Glangwili ac agorwyd uned asesu pediatrig 12 awr newydd yn Ysbyty Llwynhelyg. Ni chafodd y newidiadau pediatrig eu cyfeirio at Weinidogion i wneud penderfyniad yn eu cylch.
Comisiynwyd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) i gynnal gwerthusiad o'r newidiadau ym mis Mehefin 2015. Bu tîm adolygu, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r RCPCH, Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, yn gwerthuso'r gwasanaethau, drwy ymgysylltu'n helaeth â staff, y cyhoedd a phobl sydd wedi bod yn defnyddio'r gwasanaethau dros y 18 mis diwethaf.
Trafodwyd crynodeb o adroddiad yr RCPCH yng nghyfarfod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw. Mae ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/opendoc/274532
Daeth yr adolygiad i'r casgliad nad oes tystiolaeth bod unrhyw niwed wedi'i achosi i unrhyw gleifion o ganlyniad i'r newidiadau, a'u bod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Dywedodd bod y gwasanaethau newydd yn ddiogel, eu bod yn darparu canlyniadau gwell, eu bod yn cydymffurfio'n well â safonau proffesiynol a bod mwy o fenywod yn cael gofal yn ardal Hywel Dda o gymharu â'r hen drefn.
Dyma brif ganfyddiadau'r adroddiad:
- Ni fyddai'n gwneud synnwyr clinigol o gwbl i wrthdroi'r penderfyniadau mawr am ad-drefnu a wnaed y llynedd.
- Mae angen symud ymlaen ag ail gam y gwelliannau i ystad Ysbyty Glangwili heb oedi. Bydd hyn yn gwella cyflwr ffisegol y ward geni sy’n rhy fach ar hyn o bryd, heb gyfleusterau digonol ac sy’n darparu amgylchedd gwael i fenywod a staff, yn ôl yr adroddiad;
- Mae'r tîm ambiwlans penodedig wedi darparu gwasanaeth gwych a rhaid iddo barhau yn ei le am 12 mis arall, pryd y dylid ei adolygu eto. Ar gyfartaledd, mae wedi gwneud dwy daith y diwrnod o gymharu â'r naw y cynlluniwyd ar eu cyfer. Mae criw yr ambiwlans wedi treulio eu hamser segur yn helpu timau eraill yn yr ysbyty, gan gynnwys yr adran frys ac uned y plant, darparu hyfforddiant i staff ar weithdrefnau brys a lle y bo'n briodol, helpu i gludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys;
- Dylai gwasanaeth yr ymgynghorydd obstetreg a gynecoleg sydd ar alwad yn Ysbyty Llwynhelyg gael ei leihau’n raddol gan nad oes galw wedi bod amdano a'i fod yn rhwystro datblygiad gwasanaethau eraill yn yr ysbyty. Gall yr adnoddau hyn gael eu defnyddio'n well i gynyddu gwasanaethau;
- Roedd ofnau'r cyhoedd ynghylch diogelwch y gwasanaeth yn ddi-sail ar y cyfan, ond roedd pryderon go iawn wedi deillio o'u profiadau a phrofiadau pobl eraill, ac effeithiodd hyn ar eu hyder yn y gwasanaethau;
- Mae angen i'r bwrdd iechyd roi blaenoriaeth i gynnal sgwrs weithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyda chleifion, grwpiau cynghori a staff clinigol i leihau'r "camddealltwriaeth a'r pryderon" sydd wedi codi yn y gorffennol.
Yn ogystal â hynny, mae'r tîm adolygu wedi dweud:
- Mae cynnydd graddol wedi bod yn y defnydd sy’n cael ei wneud o'r uned dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Llwynhelyg, sy'n gyson ag unedau mewn rhannau eraill o'r DU, ac mae'r menywod sy'n defnyddio'r cyfleusterau bron i gyd yn dweud eu bod wedi cael profiadau cadarnhaol;
- Mae lle i gynyddu'r gwaith yn yr uned dan arweiniad bydwragedd, gan alluogi mwy o fenywod i roi genedigaeth yn lleol yn Sir Benfro, ond mae eu hyder, a morâl y staff, yn cael eu niweidio yn rhannol gan negeseuon negyddol am y gwasanaeth ymhlith y cyhoedd yn seiliedig ar straeon a siarad, yn hytrach na thystiolaeth;
- Er gwaetha hyn, mae data a gasglwyd gan 500 o fenywod ar ôl iddynt roi genedigaeth ym mhob un o'r tri safle dros y flwyddyn ddiwethaf ers i’r newidiadau gael eu gwneud, wedi ymateb yn gadarnhaol ar y cyfan;
- Dylai rheolwyr meddygol ystyried cyfuno gwasanaeth meddygon obstetreg sydd ar alw yn Ysbyty Glangwili gyda mwy o waith yn ystod y dydd yn Ysbyty Llwynhelyg.
Rwy'n croesawu'r adolygiad, sy'n rhoi sicrwydd pellach i bobl Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin bod y gwasanaethau hyn yn ddiogel a'u bod wedi arwain at well canlyniadau i famau a babanod. Bydd y bwrdd iechyd yn trafod adroddiad manylach gan yr RCPCH yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd.
Rwy’n derbyn pob un o’r argymhellion gan y tîm adolygu mewn perthynas ag elfennau o'r rhwyd ddiogelwch y gofynnais iddynt gael eu rhoi ar waith ym mis Ionawr 2014. Mewn perthynas â'r argymhellion hynny sy'n gofyn am welliannau i ystad Ysbyty Glangwili, bydd y bwrdd iechyd yn cyflwyno achos busnes cyfalaf ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.