Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â chanfyddiadau cadarnhaol y Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2022.

Y gwerthusiad hwn, sy’n cwmpasu cyfnod o bum mlynedd rhwng 2015 a 2020 yw un o’r gwerthusiadau mwyaf cynhwysfawr gan unrhyw wasanaeth ambiwlans awyr unrhyw le yn y byd. Mae’n cynnig tystiolaeth sylweddol bod EMRTS Cymru yn cyflawni’r nodau a osodwyd yn ei Achos Cyfiawnhad Busnes.

Mae’r gwerthusiad yn nodi canfyddiadau ail gam y gwerthusiad o wasanaeth EMRTS. Mae hyn yn dilyn yr adroddiad cyntaf a oedd yn rhoi trosolwg cynnar o weithgarwch y flwyddyn gyntaf. Mae’r gwerthusiad yn dangos yn glir y rôl gynyddol bwysig sydd gan y gwasanaeth o ran sicrhau ymateb brys i’r rhai hynny sydd angen triniaeth ar unwaith. Dangosir hefyd yr effeithiau cadarnhaol y mae’r gwasanaeth wedi ei gael ar y broses o ddatblygu a chyflawni ymarfer gofal brys arbenigol yng Nghymru.

Mae argymhellion yr adroddiad cychwynnol wedi’u cyflawni, gan gynnwys ehangu’r gwasanaeth i’r gogledd-orllewin. Arweiniodd gwerthusiad pellach o’r anghenion nas diwallwyd y tu hwnt i oriau gweithredu cychwynnol yn ystod y dydd at ehangu’r gwasanaeth i fod yn weithredol yn yr awyr 24/7 o fis Rhagfyr 2020.

Mae prif ganfyddiadau’r gwerthusiad yn cynnwys:

  • Roedd cyflwyno EMRTS yn gysylltiedig â gostyngiad sylweddol (37%) yn nifer y marwolaethau o fewn 30 diwrnod mewn cleifion oedd wedi dioddef anafiadau trawmatig cyflym.
  • Gwelwyd gostyngiad o 41% mewn trosglwyddiadau brys rhwng ysbytai.
  • Gwelwyd bod nifer cynyddol o gleifion yn cael eu cludo i’r ysbyty cywir y tro cyntaf: gwelwyd bod 42% o gleifion wedi’u dargyfeirio o ysbytai lleol er mwyn eu cludo yn uniongyrchol i ofal mwy arbenigol.
  • Roedd ymyriadau critigol ar gael y tu allan i’r ysbyty lle bo angen:
  • Cafodd 63% (6,018) o gleifion ymyriadau a oedd y tu allan i ymarfer arferol y gwasanaeth ambiwlans.
  • Cafodd 313 o gleifion drallwysiadau cynnyrch gwaed
  • Cafodd 790 o gleifion anesthesia cyn mynd i’r ysbyty
  • Yn arwyddocaol, mae 12 ymgynghorydd newydd wedi'u penodi i weithio yng Nghymru o ganlyniad i’r cadarnhad o swyddi, sy'n cynnwys sesiynau ffurfiol gofal cyn mynd i’r ysbyty gyda EMRTS. Cyflogir 32 o ymgynghorwyr rhan-amser sydd hefyd yn gweithio mewn arbenigeddau allweddol yn ysbytai'r GIG i ddarparu’r gwasanaeth clinigol. Yn ogystal, ceir rhaglenni sydd wedi’u sefydlu’n dda sy’n datblygu’r gweithlu meddygol ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant is-arbenigedd Meddyginiaeth a Gofal Brys cyn mynd i’r Ysbyty, cynlluniau cymrawd clinigol a’r cynlluniau ar gyfer clinigwyr.

Rwy’n croesawu canfyddiadau’r gwerthusiad sy’n dangos bod y gwasanaeth yn galluogi i fwy o gleifion gael eu cludo i’r man iawn ar gyfer eu hanghenion, y tro cyntaf. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod mwy o gleifion yn cael y triniaethau critigol ar y pwynt cynharaf posibl er mwyn gwella’u siawns o oroesi.

Rwy’n falch o weld cynnydd y gwasanaeth EMRTS ers iddo gael ei lansio ym mis Ebrill 2015, yn ogystal â gweld y gwasanaeth yn cyflawni’r uchelgais o ddod yn wasanaeth 24/7 mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

Ers lansiad y gwasanaeth EMRTS, mae yna nifer o ddatblygiadau allweddol o ran gwasanaethau clinigol yn GIG Cymru. Un o’r datblygiadau hynny yw lansio Rhwydwaith Trawma De Cymru ym mis Medi 2020. Lansiwyd y rhwydwaith er mwyn rhoi gofal i oedolion a phlant sy’n dioddef trawma mawr yn ne a gorllewin Cymru a de Powys. Roedd lansio’r rhwydwaith yn ddigwyddiad arwyddocaol ar gyfer y GIG yn ne a gorllewin Cymru. Hyd nes y llynedd, nid oedd gan yr ardaloedd hynny eu trefniadau trawma mawr eu hunain. Ar 6 Ionawr, rhoddais ddatganiad ynghylch y buddiannau cynnar sy’n dod i’r amlwg yn sgil Rhwydwaith Trawma De Cymru:

Datganiad Ysgrifenedig: Rhwydwaith Trawma De Cymru – blwyddyn yn ddiweddarach (6 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU

Mae datblygu Gwasanaeth EMRTS dros y saith mlynedd diwethaf wedi cefnogi newidiadau cyflym mewn gofal critigol er mwyn sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir yn y lle cywir ar gyfer pobl sy'n ddifrifol wael. Mae’r gwasanaeth penodedig newydd, Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol Oedolion Cymru (ACCTS), a ddechreuodd yn y de ym mis Awst 2021 ac yn y gogledd ym mis Hydref 2021 yn rhan bwysig arall o’r cynlluniau i wella gwasanaethau gofal critigol i oedolion.

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid o oddeutu £3m i Fyrddau Iechyd Lleol er mwyn rhoi cefnogaeth tuag at y costau sydd ynghlwm ag ymgynghorwyr a pharafeddygon sy’n gweithio ar yr ambiwlansys awyr ac sy’n rhan o’r gwasanaeth EMRTS gwerthfawr hwn.

Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, mae gwaith y gwasanaeth EMRTS a'i staff gweithgar wedi helpu Cymru i arwain y ffordd o ran arferion gorau, rhagoriaeth glinigol ac arloesi.

Roedd cyhoeddi’r canfyddiadau cadarnhaol hyn ar 1 Mawrth yn cyd-daro â phen-blwydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn 21 oed. Ers ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001, mae wedi bod yn bleser gweld gwaith yr elusen yn mynd o nerth i nerth. Mae gwaith yr elusen a’i staff a’i gwirfoddolwyr gweithgar wedi cyfrannu at sicrhau ei bod wedi dod yn un o’r gwasanaethau ambiwlans awyr mwyaf yn y DU.

Bydd y gwerthusiad hwn yn cefnogi’r gwaith parhaus o wella gwasanaeth a chynnal gweithgareddau ehangu. Edrychaf ymlaen at weld y gwasanaeth yn parhau i ddatblygu a pharhau i wella profiadau a chanlyniadau i gleifion.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.