Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd cynllun strategol y GIG i gyflwyno gwasanaeth 111 cenedlaethol ei gytuno, ac rwyf wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2018-19 a 2019-20. Mae hyn yn dilyn llwyddiant cyflwyno'r gwasanaeth braenaru hwn yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin.
Mae'r gwasanaeth 111 yn cynnig rhif ffôn hawdd ei gofio sydd ar gael am ddim i gyfeirio pobl at y driniaeth gywir yn y lle iawn gan dîm o wahanol weithwyr proffesiynol. Mae'r gwasanaeth yn cyfuno'r wybodaeth a ddarperir gan Galw Iechyd Cymru â chyngor gan y gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae'r model hwn yn ganlyniad y rhaglen fraenaru, a fydd yn dod yn rhan o fodel ar gyfer mynediad at ofal sylfaenol bedair awr ar hugain.
Mae’r gwerthusiad, a gafodd ei gynnal ar y cyd gan Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol (PACEC) a Phrifysgol Sheffield, bellach ar gael, ac mae'n cynnwys tystiolaeth gadarnhaol ynghylch cyflwyno'r gwasanaeth braenaru 111 a'i effaith o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae'r gwerthusiad o'r gwasanaeth hwn yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o gyflwyno gwasanaeth 111 ar draws Cymru. Treialwyd y gwasanaeth i weld pa mor ymarferol fyddai sefydlu gwasanaeth a fyddai'n cyfuno Galw Iechyd Cymru a gwasanaeth y tu allan i oriau y meddygon teulu. Mae'r adroddiad gwerthuso yn cynnwys tystiolaeth ynghylch profiad staff a chleifion o’r gwasanaeth, ac mae'n dadansoddi'r data a gasglwyd ynghylch ei berfformiad.
Mae casgliadau allweddol yr adroddiad gwerthuso yn cynnwys y canlynol:
- Cafodd y gwasanaeth braenaru 111 ei roi ar waith yn llwyddiannus ym mis Hydref 2016, a derbyniodd dros 71,000 o alwadau yn ei chwe mis cyntaf. Cafodd 94% o'r rhain eu hateb gan staff a oedd wedi eu hyfforddi’n benodol i gymryd galwadau;
- Blaenoriaethu galwadau: yn ystod y cyfnod adolygu, cafodd 32,000 o alwadau eu brysbennu, ac o'r rhain roedd 36% yn alwadau brys;
- Tri munud oedd yr amser brysbennu cyfartalog ar gyfer galwadau blaenoriaeth un, o gymharu â'r 20 munud arferol;
- Roedd lefel boddhad defnyddwyr y gwasanaeth yn uchel, gyda 95% o'r ymatebwyr i'r arolwg yn dweud eu bod yn fodlon neu'n fodlon iawn ar holl broses y gwasanaeth 111.
- Mae'r rhanddeiliaid allweddol sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu'r gwasanaeth yn frwdfrydig yn ei gylch ac yn credu y gallai mwy o fanteision ac arbedion gael eu sicrhau o'i gyflwyno'r ofalus ledled Cymru;
- Cafodd y gwasanaeth 111 effaith ar wasanaeth y tu allan i oriau meddygon teulu, drwy ddefnyddio model sy'n seiliedig ar ddarparu gwasanaeth mwy clinigol. Mae hynny’n rhoi mwy o gyfle i gleifion fanteisio ar gael asesiadau a thriniaethau (presgripsiynau etc) clinigol dros y ffôn, yn enwedig pan fydd y gwasanaeth yn gweithredu (ar nosweithiau a phenwythnosau) heb yr angen i gleifion gael apwyntiad wyneb yn wyneb gyda meddyg teulu.
- Er ei bod yn anodd bod yn hollol bendant ynghylch yr effaith a gafwyd ar nifer yr achosion sy'n mynd i Adrannau Argyfwng, gwelodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ostyngiad o 1% yn y nifer hwnnw o gymharu â'r flwyddyn flaenorol yn ystod y chwe mis cyntaf y bu'r gwasanaeth ar waith. Amcangyfrifir fod y gwasanaeth 111 wedi helpu i arbed £218,000 drwy leihau nifer yr achosion sy'n mynd i Adrannau Argyfwng;
- Yn ystod y cyfnod adolygu, bu ostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd eu cludo i Adrannau Argyfwng mewn ambiwlans. Yn bennaf, gwelwyd y newid hwn yn nifer y teithiau cludo nad oeddent yn rhai brys (Gwyrdd) a oedd wedi gostwng ychydig dros 25%. Er na ellir dweud mai'r gwasanaeth 111 fu'n hollol gyfrifol am y newid hwn, mae'r gwasanaeth yn sicr wedi helpu i arbed £205,000 o ran teithiau cludo pobl mewn ambiwlans.
Mae'r gwerthusiad i'w weld drwy glicio ar y ddolen ganlynol:-
https://www.ambulance.wales.nhs.uk/Default.aspx?pageId=315&lan=cy
Mae cynllun strategol y GIG ar gyfer cyflwyno gwasanaeth 111 yng Nghymru wedi manteisio ar y gwerthusiad hwn o'r gwasanaeth braenaru a roddwyd ar waith, a'r bwriad nawr yw cyflwyno'r gwasanaeth mewn ardaloedd eraill yng Nghymru yn ystod y 2-3 blynedd nesaf.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.