Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae lleihau'r bwlch rhwng cyrhaeddiad y disgyblion hynny sy'n dod o gefndiroedd tlotach a'u cyfoedion yn greiddiol i'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau.
Rydym wedi cyhoeddi heddiw adroddiad gan Ipsos Mori ac WISERD sy'n gwerthuso trydedd flwyddyn y Grant Datblygu Disgyblion, neu'r Grant Amddifadedd Disgyblion fel y'i gelwid pan wnaed y gwerthusia. Mae'r adroddiad yn edrych ar sut y mae ysgolion yn gwario'r Grant Amddifadedd Disgyblion, a barn athrawon ynghylch effaith y grant.
Mae casgliadau'r adroddiad yn bositif iawn. Mae'n dangos ein bod yn gwneud cynnydd pellach o ran nodi anghenion dysgwyr difreintiedig a mynd i'r afael â'r anghenion hynny.
Mae'r adroddiad yn nodi bod nifer o effeithiau cadarnhaol a dymunol wedi dod i'r amlwg dros amser. Mae ysgolion yn gweld cyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion yn beth gwerthfawr tu hwnt. Roedd llawer o ysgolion yn credu nad oedd modd rhoi gwerth arno. Roedd llawer o ysgolion wedi cydnabod bod y Grant Amddifadedd Disgyblion wedi bod o gymorth o ran canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o fynd i'r afael ag anfantais ar draws yr ysgolion, drwy newid agweddau a diwylliant.
Mae'r gallu i gadw cofnod o ddysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgolion am ddim wedi gwella ers cyflwyno'r Grant Amddifadedd Disgyblion. Dengys tystiolaeth o'r ysgolion y gwnaed astudiaeth achos arnynt, bod ysgolion yn defnyddio systemau tracio soffistigedig law yn llaw â'u gwybodaeth bersonol o amgylchiadau dysgwyr er mwyn gweld pa ddysgwyr sydd o dan anfantais. Mae hyn yn galluogi iddynt roi cefnogaeth ychwanegol sydd wedi ei thargedu i'r disgyblion hynny. Roedd cyflwyno systemau tracio yn un o brif ganfyddiadau adroddiadau gwerthuso blaenorol. Rwy'n croesawu bod ysgolion yn datblygu'r systemau hyn fel rhan o'r gwaith bob dydd, sydd yn ffordd benigamp o fynd i'r afael a'r broblem hon.
Rydym yn cydnabod bod tystiolaeth feintiol o effaith yn rhywbeth tymor hir a ddaw i'r amlwg gydag amser ond mae'n galonogol bod gwelliannau sylweddol mewn deilliannau mwy meddal wedi dod i'r amlwg, fel:
- Llesiant disgyblion
- Hyder a hunanwerthuso
- Gwell parodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth gref o'r newid parhaus mewn diwylliant o fewn ysgolion. Mae anghenion unigol dysgwyr wrth wraidd yr holl waith cynllunio a phob disgybl yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
Mae llawer i'w wneud o hyd, fodd bynnag, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y meysydd y mae angen i ni barhau i roi sylw iddynt. Wrth gydweithio â'n Heiriolwr Codi Cyrhaeddiad - Syr Alasdair MacDonald - rydym eisoes wedi cychwyn ar y gwaith o gryfhau'r trefniadau yn y meysydd hyn. Bydd hynny yn ein galluogi i wneud hyd yn oed rhagor o gynnydd o ran goresgyn y rhwystrau sy'n cael eu creu gan anfantais.
Mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth bellach bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn allweddol o ran helpu disgyblion i gyrraedd eu potensial llawn. Dyma pam, fel y nodwyd yn y cytundeb rhwng y Prif Weinidog a minnau, ein bod wedi dyblu cyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion i'n dysgwyr ieuengaf.
Er mwyn sicrhau bod modd i ysgolion gynllunio a manteisio i'r eithaf ar y cyllid, rydym fel Llywodraeth wedi ymrwymo i gadw'r Grant Amddifadedd Disgyblion dros gyfnod y Cynulliad presennol.
Dylid cymeradwyo ysgolion a sefydliadau addysgol am wneud cynnydd mor amlwg. Gallwn fod yn falch o'r ffaith bod y bwlch wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf. Wedi dweud hynny, nid yw hyn yn rheswm i laesu dwylo; mae'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad wedi bod yn faen melin am wddf ein system addysg am ormod o amser o lawer.
Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i bwyso a mesur dulliau arloesol ac effeithiol ar gyfer cefnogi ysgolion - a'r gymuned ehangach - er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle gorau posibl i wireddu eu potensial yn llawn.