Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.  Mae'r fframwaith statudol sy'n sail i'r Ddeddf, sy'n cynnwys Rheoliadau, Codau Ymarfer a Chanllawiau Statudol, bellach wedi'i wneud.

Wrth inni symud y pwyslais o ddatblygu'r fframwaith hwn i gyflawni ei ymrwymiadau, mae'n bwysig bod gennym drefniadau gwerthuso digonol ar waith i allu asesu llwyddiant y cyflawniad hwn. Rwy'n falch o gyhoeddi manylion y gwerthusiad fel a ganlyn.

Bydd y gwerthusiad yn rhoi trosolwg ynghylch a yw'r Ddeddf yn cyflawni ein nodau gwreiddiol ar gyfer pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth yng Nghymru. Bydd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar bolisïau allweddol, megis asesu a chymhwysedd er mwyn darparu'r sail ar gyfer gwella a datblygu polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Cynhelir y gwerthusiad mewn tri cham:

  • Bydd y cam cychwynnol yn ymwneud â monitro polisïau o dan y Ddeddf yn ystod y flwyddyn gyntaf i ddeall a oes polisi yn cael ei roi ar waith yn ôl y bwriad ac i gefnogi gwella polisi.
  • Bydd yr ail gam yn cynnwys gwerthusiad parhaus, drwy'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol a fframwaith mesur perfformiad yr awdurdodau lleol. Bydd adroddiad blynyddol yn darparu gwybodaeth ynghylch a yw llesiant yn gwella'n genedlaethol. Bydd adroddiad cyntaf y fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi yn 2016/17, a bydd adroddiad cyntaf y fframwaith mesur perfformiad yn cael ei gyhoeddi yn 2017/18.
  • Y trydydd cam fydd gwerthusiad annibynnol hirdymor untro a fydd yn dechrau yn y drydedd flwyddyn o roi'r Ddeddf ar waith.

I lywio'r gwerthusiad rwyf wedi gofyn i'm swyddogion sefydlu grŵp rhanddeiliaid i sicrhau bod y sector yn parhau i gymryd rhan a darparu arweiniad ynglŷn â'r gwaith pwysig hwn.