Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddwyd gwerthusiad o Rwydwaith Seren. Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybodaeth ategol ichi, ac i nodi fy ymateb cychwynnol i argymhellion y gwerthusiad.

Mae'r gwerthusiad ffurfiannol o Rwydwaith Seren wedi rhoi inni set o bymtheg argymhelliad. Mae Llywodraeth Cymru'n croesawu'r argymhellion hyn, a chânt eu defnyddio i lywio datblygiad y rhaglen at y dyfodol. Mae cynnydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â nifer o'r argymhellion; eir i'r afael â’r materion eraill mewn partneriaeth a chydlynwyr Rhwydwaith Seren a sefydliadau partner.

Nod Rhwydwaith Seren yw cefnogi pobl ifanc sydd â'r dyheadau a'r rhagoriaeth academaidd angenrheidiol i fynd ati i ddilyn cyrsiau addysg uwch cystadleuol iawn. Mae angen cyrraedd y safonau uchaf oll i fodloni gofynion mynediad cyrsiau Addysg Uwch y prifysgolion gorau. At hynny, wrth benderfynu pa bobl ifanc ddylid eu derbyn ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol, mae adrannau mynediad Prifysgolion hefyd yn edrych am dystiolaeth bod ymgeiswyr yn angerddol am y pwnc dan sylw, a'u bod yn ddigon penderfynol a brwdfrydig i sicrhau y bydd eu profiad yn y brifysgol yn llwyddiant.

Mae llawer o gyrsiau o safon a chyrsiau cystadleuol i'w cael mewn gwahanol brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig, a thu hwnt. O'r herwydd, nid yw Rhwydwaith Seren yn cyfyngu ei wasanaeth i'r bobl ifanc hynny sydd am astudio mewn rhestr benodol o sefydliadau (megis Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, neu'r 30 prifysgol sy'n rhan o Ymddiriedolaeth Sutton, neu brifysgolion Grŵp Russell er enghraifft).

Yn hytrach, mae Rhwydwaith Seren yn dechrau gyda'r dysgwr; mae'n ysgogi ac yn annog y dyhead i wneud cais i gyrsiau tariff uchel a/neu gyrsiau cystadleuol iawn, ac mae'n canolbwyntio ar gefnogi'r dyhead hwnnw, heb ystyried yn union pa gwrs ym mha brifysgol y bydd y myfyriwr dan sylw yn gwneud cais amdano yn y pen draw. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, mae disgwyl i waith Rhwydwaith Seren gael effaith ar gyfran y dysgwyr yng Nghymru sy'n mynd i'r sefydliadau gorau, a chredwn fod annog dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial o fudd i'r wlad a'i heconomi yn y tymor hir. Gyda hynny mewn cof, yn fuan byddaf yn nodi fy nghynigion ar gyfer pennu a meithrin ein dysgwyr mwyaf galluog, gan gynnwys ystyriaeth o rôl bwysig Seren mewn rhwydwaith ehangach o gymorth a heriau.

Mewn marchnad addysg uwch fyd-eang sy'n newid yn gyflym iawn, ni fyddai'n briodol dechrau gyda rhestr gaeedig o gyrsiau neu brifysgolion, hyd yn oed os bydd rhestrau o'r fath yn siŵr o chwarae rôl o ran ein helpu ni i ddeall effaith ehangach y prosiect.

Mae tair prif elfen i waith y rhwydwaith y bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i'w mireinio a'u gwella:

1. Nod Seren yw hybu ymroddiad pobl ifanc i weithgareddau sydd y tu hwnt i'r cwricwlwm - hynny yw, gweithgareddau ychwanegol. I berson ifanc sy'n ceisio cael lle yn un o'r prifysgolion gorau neu ar gwrs cystadleuol iawn, mae dangos ei fod yn ymwneud â'r pwnc mewn ffordd ehangach, ac yn darllen yn eang am y pwnc, yn fantais fawr. Mae Rhwydwaith Seren yn darparu dosbarthiadau meistr a chyfleoedd eraill sydd â'r nod o ysgogi dysgwyr i fynd ati i astudio ac ymgysylltu ymhellach, a hynny y tu hwnt i'r hyn a gynigir yn y cwricwlwm. Yn hollol fwriadol, nid yw Seren yn ceisio darparu ystod gyflawn o weithgareddau y tu hwnt i'r cwricwlwm; mae angen i bobl ifanc ddatblygu eu hangerdd eu hunain am eu meysydd - cefnogi hyn yw rôl Seren.

2. Nod Seren yw darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc ac i bobl broffesiynol mewn ysgolion a cholegau, a hynny drwy gydweithio. O ran pobl ifanc, golyga hyn eu helpu gyda gweithdrefnau ymgeisio - gweithdrefnau sy'n gallu bod yn gymhleth ac anodd. Hefyd, golyga hyn helpu pobl ifanc i ddeall beth sy'n gwneud cais cryf, a deall sut i gyflwyno'u hunain i'r sefydliadau addysg uwch. Mae rhai cyrsiau a sefydliadau yn cynnal arholiadau, cyfweliadau ac asesiadau penodol ychwanegol. Drwy waith Rhwydwaith Seren, ein nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymorth, anogaeth a chyngor amserol mewn perthynas â'r prosesau hyn. O ran staff ysgolion a cholegau, golyga hyn feithrin dealltwriaeth o sut i lywio a thywys pobl ifanc a sicrhau'r effaith fwyaf posibl o'u gwaith (ee. drwy roi geirdaon). Mae cydweithio rhanbarthol, ar draws canolfannau, wedi bod yn ffordd effeithiol o recriwtio myfyrwyr ar gyfer dosbarthiadau meistr penodol i bwnc, a sesiynau paratoi ar gyfer cyfweliadau ac arholiadau mynediad. Mae hyn wedi arwain at fwy o fyfyrwyr yn mynd i’r sesiynau, sydd wedi'i groesawu gan ein prifysgolion partner, sy'n aml yn darparu'r sesiynau.

3. Nod Seren yw codi dyheadau ac ehangu gorwelion. Mae gwaith Rhwydwaith Seren eisoes wedi cynyddu hyder pobl ifanc a newid sut maent yn teimlo am wneud cais am gyrsiau cystadleuol mewn ystod o brifysgolion, ac am eu gallu a'u haddasrwydd i wneud cyrsiau o'r fath. Mae hyn wedi arwain at gyfleoedd gwych iddynt ar draws y byd.

Gallwch ddod o hyd i'r gwerthusiad o Rwydwaith Seren yma:

http://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-seren-network/?lang=en

http://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-seren-network/?skip=1&lang=cy

Rwy'n croesawu'r adroddiad gwerthuso - y cynnydd a'r cyflawniadau a nodir ynddo - yn ogystal â'r heriau y mae'n eu gosod. Bydd y partneriaid sy'n rhan o Rwydwaith Seren yn awr yn mynd ati i ystyried sut orau i ymateb i'r materion a godir. Fodd bynnag, gallaf i roi peth gwybodaeth bellach ar unwaith, ynghyd â sôn am y trywydd y bwriedir ei gymryd.

I ddechrau, mae'n bwysig nodi mai dim ond ers mis Tachwedd 2016 y mae Rhwydwaith Seren wedi bod yn rhedeg yn genedlaethol. Yn wir, 2017/18 yw'r flwyddyn academaidd lawn gyntaf y mae cohort o fyfyrwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cefnogi'n llawn o ddechrau blwyddyn 12. Dymunaf ganmol y partneriaid sy'n rhan o Rwydwaith Seren am yr hyn y maent wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr.

Mae'r adroddiad gwerthuso yn nodi bod Seren yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i godi dyheadau, hybu hyder ac annog disgyblion i feddwl yn fwy uchelgeisiol am eu dewisiadau. Mae'r diolch am hynny i'r bartneriaeth gydweithiol rhwng ysgolion, colegau, awdurdodau unedol a phrifysgolion ledled Cymru, y Deyrnas Unedig, a thu hwnt. At hynny, er bod y gwerthusiad yn nodi meysydd y gellir eu gwella at y dyfodol, rhaid nodi a chofio bod y gwerthusiad hwn yn dod i'r casgliad bod gwerth i Seren o ran helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwell am gyrsiau ac o ran eu helpu i ddeall pwysigrwydd darllen yn eang am eu pynciau.

Mae mwy a mwy o brifysgolion o'r farn bod Rhwydwaith Seren yn ffordd wych o dargedu ac ymgysylltu â myfyrwyr galluog yn uniongyrchol. Hefyd, mae'n cyd-fynd â llawer o'u targedau o ran ehangu cyfranogiad. Mae Rhwydwaith Seren yn ysgogi cyfleoedd newydd a chyffrous i lawer iawn mwy o bobl ifanc allu ymgysylltu â sefydliadau addysg uwch ac mae hyn i'w groesawu, a'i gryfhau ymhellach os yn bosibl. Mae sefydliadau addysg uwch Cymru, yn enwedig, yn gwneud cyfraniad hollbwysig i waith Seren. Fel a argymhellir yn y gwerthusiad, credaf fod angen gwneud mwy i gydnabod y cyfraniad hwn. At y diben hwn, byddaf yn ysgrifennu at Is-gangellorion y sefydliadau hynny sy'n gweithio'n ddiwyd i gyfrannu at lwyddiant Seren i gydnabod eu cyfraniad fel partneriaid cyflawni pwysig.

Hyd yma, mae'r 11 o ganolfannau Seren wedi nodi eu meini prawf eu hunain ar gyfer cymryd rhan yng ngweithgareddau'r rhwydwaith. Mae'r hyblygrwydd hwn wedi bod yn gryfder, ac mae wedi caniatáu datblygu a threialu ystod o ffyrdd o weithio. Wrth i waith Rhwydwaith Seren ddatblygu a dod yn fwy sefydledig, rwy'n cydnabod bod angen mwy o gysondeb. I'r perwyl hwnnw, rwyf wedi gofyn am sefydlu un ymagwedd gyson i'w defnyddio o fis Medi 2018 ymlaen. Yn yr un modd, mae'n dda gen i nodi bod y gwahanol ganolfannau eu hunain wedi cyflwyno cynigion am 'gynnig sylfaenol' i bobl ifanc. Credaf y bydd hyn yn ddefnyddiol ar gyfer llunio rhaglenni effeithiol a diddorol ar gyfer pawb sy'n cael eu gwahodd i fod yn rhan o Rwydwaith Seren,  lle bynnag y bônt.

Wrth ddatblygu Seren, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol bod peth o'r wybodaeth a'r cyngor a roddir yn berthnasol i grŵp ehangach o ddysgwyr. Credaf y gall ac y dylai gwasanaethau digidol chwarae rôl bwysig o ran sicrhau mynediad at yr wybodaeth a'r cyngor a roddir drwy Rwydwaith Seren. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gofyn i Gyrfa Cymru ymgysylltu â Rhwydwaith Seren er mwyn, yn y pen draw, ddarparu mynediad i bawb at adnoddau, gwybodaeth a chyngor allweddol.

Un o gonglfeini Rhwydwaith Seren yw ymagwedd o gydweithio a phartneriaeth. Mae hyn wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu'r rhaglen ac o ran datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr fynychu sesiynau ymestyn a herio, ynghyd â'r gynhadledd genedlaethol, ymweliadau â phrifysgolion, ysgolion haf a llawer mwy. Mae safon, gallu a photensial myfyrwyr Cymru yn cael ei gydnabod ar draws y byd drwy Rwydwaith Seren. Fel enghraifft o hyn, rwyf yn falch iawn o gefnogi partneriaeth newydd rhwng Seren a Phrifysgol Yale. Drwy hyn, yr haf hwn, bydd nifer o fyfyrwyr o Gymru yn cymryd rhan yn Rhaglen Haf y Brifysgol ar gyfer Ysgolorion Ifanc Byd-eang - profiad a allai newid byd i’r myfyrwyr dan sylw.

Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn gan Rwydwaith Seren yn fy llenwi â hyder y dylem barhau â'r rhaglen a'i hannog i ddatblygu, arloesi a chryfhau, gan feithrin cysylltiadau gyda'n rhaglenni a'n polisïau ehangach.  

Mae Seren yn datblygu'n rhan fwyfwy gwerthfawr a phwysig o'r tirlun cymorth addysgol yng Nghymru. Credaf fod y gwerthusiad hwn yn rhoi her amserol i'r Rhwydwaith. Bydd hefyd yn ddefnyddiol iawn o ran llywio polisi yn y dyfodol ac o ran gwerthuso gweithgareddau a phartneriaethau Rhwydwaith Seren. Hyderaf y bydd y datganiad hwn yn eich helpu gyda’ch dealltwriaeth o waith Rhwydwaith Seren. Hyderaf, hefyd, y byddwch yn dymuno ymuno â mi i ddathlu'r hyn y mae'r bobl ifanc, yr ysgolion, y colegau, yr awdurdodau unedol, y prifysgolion a phartneriaid eraill oll wedi'i gyflawni drwy Fframwaith Seren hyd yma.