Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod gwelliant i'r Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) (y Bil). Dyma'r gwelliant arfaethedig:
After Clause 2, insert the following new Clause
“2A Application of public sector equality duty
In Part 1 of Schedule 19 to the Equality Act 2010 (authorities subject to public sector equality duty), at the appropriate place under the heading “Transport”, insert—
“A public sector company providing services for the carriage of passengers by railway under a public service contract awarded under section 30 of the Railways Act 1993 (public sector provision of services).””
Byddai'r gwelliant yn ychwanegu cwmnïau sector cyhoeddus a ddiffinnir yn y Bil at y rhestr o gyrff y nodir yn Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 eu bod yn rhai sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn na fyddai'n cael unrhyw effaith gyfreithiol nac ymarferol sylweddol gan fod unrhyw un neu rai o is-gwmnïau Gweinidogion Cymru yn awdurdod cyhoeddus eisoes at ddibenion dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, o dan adran 149(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Rwy'n sylweddoli bod y gwelliant hwn yn dod ar fyr rybudd, cyn y ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y bwriedir ei chynnal ar 5 Tachwedd. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio'n gyflym ar y ddeddfwriaeth hon, a chafodd y Datganiad Ysgrifenedig hwn ei ryddhau cyn gynted ag yr oedd modd.