Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf heddiw wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Lefarydd ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol yn Nhŷ’r Arglwyddi i annog eu cefnogaeth nhw i set o welliannau i Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sydd, yn y drafft cyfredol, yn cynrychioli ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli.

Gellir darllen fy llythyr i’r Arglwydd Lefarydd yn Atodiad 1. Mae cyflwyniad i’r set o welliannau yn Atodiad 2 ac mae gwelliannau Llywodraeth Cymru yn Atodiad 3.