Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch cynnydd y gwelliannau i'r gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. Mae'r gwaith yn parhau i sefydlu Tîm Rhywedd amlddisgyblaethol Cymru a fydd yn dechrau gweld cleifion ddiwedd mis Hydref os bydd staff arbenigol wedi'u recriwtio. Mae'r clinigydd arweiniol a rheolwr y gwasanaeth wedi'u penodi, ac mae'r gwaith o recriwtio Uwch-ymarferydd Nyrsio yn mynd rhagddo.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau y bydd trefniadau yn eu lle erbyn mis Medi i gleifion sydd wedi'u gweld a'u hasesu gan Glinig Hunaniaeth Rhywedd Llundain allu parhau â'u triniaeth yma yng Nghymru. Ar ôl bod yn trafod â'r gymuned draws, rwy'n sylweddoli pa mor bwysig yw cael mynediad at wasanaethau presgripsiynu yn lleol. Mae'r datblygiad hwn felly wedi'i dargedu tuag at yr ardal lle mae mwyafrif y cleifion yn aros am therapi adfer hormonau, sef yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae byrddau iechyd eraill hefyd wedi rhoi trefniadau tebyg ar waith.
Daw'r gwelliannau hyn yn dilyn ein buddsoddiad ychwanegol o £500,000 y flwyddyn i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd yng Nghymru a bydd yr arian hwn yn sylfaen ar gyfer gweithredu gwasanaeth cwbl integredig sydd yn yr arfaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Fel sy'n wir am holl gleifion ein gwasanaeth iechyd, rwy’n teimlo'n gryf y dylai anghenion gofal iechyd pobl drawsryweddol gael eu diwallu mor agos at y cartref â phosibl ac rwy'n gobeithio mai dechrau'r broses o sicrhau gwelliannau go iawn a phendant yw hyn i'r gymuned draws.