Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Clefydau Prin, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud gan Weithrediaeth y GIG a phartneriaid i wella'r gwasanaethau a'r gofal i bobl â chlefydau prin.
Gall clefydau prin fod yn wanychol a gallant gyfyngu ar fywyd, yn ogystal â bod yn fygythiad i fywyd yr unigolyn. Maent yn cael effaith ddofn ar fywydau pobl, ac felly hefyd fywydau'r rhai sy'n agos atynt. Amcangyfrifir bod mwy na 7,000 o glefydau prin, gyda chyflyrau newydd yn cael eu nodi'n barhaus wrth i waith ymchwil a thechnoleg ddatblygu.
Mae gan tua 80% o glefydau prin darddiad genetig wedi'i nodi, ac er eu bod yn brin yn unigol, bydd un o bob 17 o bobl yn cael eu heffeithio gan glefyd prin ar ryw adeg yn ystod eu hoes. Mae hyn yn cyfateb i tua 170,000 o bobl yng Nghymru.
Mae Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda gweddill y DU i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn Fframwaith Clefydau Prin y DU. Mae'r blaenoriaethau'n cynnwys helpu pobl i gael diagnosis terfynol yn gyflymach, cynyddu ymwybyddiaeth o glefydau prin ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cydlynu gofal yn well, a gwella mynediad at ofal arbenigol, triniaeth, a meddyginiaethau.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Clefydau Prin yn amlinellu ein dull o gyflawni'r nodau hyn. Mae'n cael ei gydlynu gan y Rhwydwaith Gweithredu Clefydau Prin, sef rhan o Weithrediaeth y GIG, ac mae'n nodi'r newidiadau y byddwn yn eu gwneud i wella canlyniadau a phrofiadau i bobl â chlefydau prin.
Cyhoeddodd y rhwydwaith ei adroddiad cynnydd diweddaraf fis diwethaf. Drwy gydweithio â phartneriaid cyflawni allweddol, gwnaed cynnydd parhaus dros y 12 mis diwethaf. Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys lansio Rhwydwaith Ymchwil Clefydau Prin Cymru, dechrau'r gwaith o ddatblygu llwybrau iechyd cymunedol ar gyfer nifer o glefydau prin, yn ogystal â chefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i sicrhau cefnogaeth Rhaglen Enghreifftiol Comisiwn Bevan. Mae'r rhwydwaith hefyd wedi cytuno ar drefniadau llywodraethu gwybodaeth ar gyfer Canolfan Gofal Prin Digidol Cymru.
Dyma'r sylfeini ar gyfer gwella ein dealltwriaeth o glefydau prin a'r gofal a'r cymorth a ddarperir gan y GIG yn barhaus. Dros y 12 mis nesaf, bydd y meysydd ffocws allweddol yn cynnwys parhau i ddarparu ffrydiau gwaith sy'n canolbwyntio ar well data, goruchwyliaeth ac ymchwil.
Rwy'n ddiolchgar am ymrwymiad parhaus yr holl bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chyflawni'r cynllun gweithredu. Byddwn yn parhau i gefnogi'r rhwydwaith wrth iddo ymdrechu i wella'r gwasanaethau i bobl â chlefydau prin yng Nghymru.