Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein trefniadau cenedlaethol i gefnogi gwella ysgolion yn dilyn yr adolygiad o gyfeiriad a rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae cryfderau i'r gefnogaeth a gynigir ar hyn o bryd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, y consortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol ac mae'r cyfraniad y maent wedi'i wneud i'r system yng Nghymru yn sylweddol.

Fodd bynnag, rydym wedi ystyried y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r adolygiad ochr yn ochr â sylfaen dystiolaeth ehangach ar ystod o faterion, megis yr adolygiad arweinyddiaeth gan Alma Harris, adroddiad Dysgu Proffesiynol Athrawon OECD, Adolygiad Sibieta o wariant ysgolion yng Nghymru, adroddiadau Estyn, ac Adolygiad o'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth ymhlith eraill.

Daw'r dystiolaeth i'r casgliad ei bod yn amlwg bod gormod o sefydliadau'n ymwneud â datblygu a darparu dysgu proffesiynol a chymorth arweinyddiaeth. Mae angen i drefniadau cenedlaethol sicrhau gwerth am arian a darparu cynnig cydlynol a chyson i'n cynorthwywyr dysgu, athrawon, arweinwyr ac ymgynghorwyr. Bydd hyn yn darparu'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ddatblygu, rhannu arfer da a dysgu oddi wrth ei gilydd i gael effaith gadarnhaol ar safonau addysgol yng Nghymru. 

Byddwn felly yn dwyn ynghyd swyddogaethau presennol yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a rhai o swyddogaethau'r consortia rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol i gorff cenedlaethol newydd. Bydd y corff cenedlaethol yn gyfrifol am lunio a darparu dysgu proffesiynol a chymorth arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol mewn ymateb anghenion a blaenoriaethau ymarferwyr a Llywodraeth Cymru. 

Bydd awdurdodau lleol yn cydweithio â'r corff i gefnogi'r ddarpariaeth ar lefel leol a byddant yn parhau i ddarparu'r dysgu proffesiynol mwy pwrpasol mewn ysgolion mewn ymateb i flaenoriaethau ac anghenion lleol. 

Mae'n anochel y bydd newidiadau sefydliadol. Rwy'n deall ei bod yn gyfnod anodd i staff yn y sefydliadau hyn wrth i ni roi trefn ar y newidiadau, a hoffwn ddiolch i'r holl staff am eu hymroddiad i gefnogi ein hysgolion, ymarferwyr ac arweinwyr. Rwyf am eu sicrhau y byddwn yn gweithio'n agos gyda phawb sy'n gysylltiedig i gyfyngu ar yr effaith.

Rwy'n cyhoeddi'r Datganiad Ysgrifenedig hwn i sicrhau bod y Senedd yn cael y manylion diweddaraf am y maes gwaith hwn yn llawn, a byddaf yn gwneud Datganiad Llafar yn ystod yr wythnosau nesaf i roi rhagor o fanylion ar sut y byddwn yn codi safonau yn ein hysgolion a’r rhaglen partneriaeth gwella ysgolion.