Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gall gofal lliniarol a gofal diwedd oes da wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd pobl â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd. Dyna pam rydym yn buddsoddi mwy na £11m bob blwyddyn yn y gwasanaethau hyn a pham y mae gwella gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
Gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Rydym yn credu y dylai pawb sydd ei angen gael mynediad at y gofal gorau posibl yng Nghymru.
Mae’r Rhaglen Genedlaethol Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac yn gweithredu fel fforwm i ysgogi newid a gwelliannau mewn gwasanaethau ledled Cymru. Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn gosod y cyfeiriad strategol a’r safonau uchelgeisiol sydd eu hangen i gyflawni’r canlyniadau a’r profiadau rydym yn eu disgwyl i bawb sy’n cael mynediad at ofal o’r fath.
Rydym wedi cyflawni llawer ers mis Mai 2021. Cafodd tîm craidd y rhaglen genedlaethol ei ehangu i gynnwys rhagor o arbenigwyr, sy’n cynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae arweinydd rhaglen strategol wedi cael ei benodi ac mae cyfres o grwpiau cynghori rhanddeiliaid wedi eu sefydlu i gefnogi’r rhaglen waith uchelgeisiol. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o blith pobl sydd â phrofiad bywyd ac o’n hosbisau gwirfoddol yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu hosbisau ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw a bwrdd y rhaglen genedlaethol i ddod o hyd i setliad cyllid cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys datblygu fframwaith comisiynu hosbisau i Gymru. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu gan fwrdd y rhaglen genedlaethol gyda chefnogaeth Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Rydym wedi cyflawni yn erbyn cam cyntaf ein hymrwymiad i adolygu’r cyllid ar gyfer hosbisau gwirfoddol ac rydym wedi darparu £2.2m ychwanegol ar gyfer hosbisau yn rheolaidd o fis Ebrill 2022. Mae argymhellion cam dau i gynyddu capasiti nyrsys ardal y tu allan i oriau a nyrsys clinigol arbenigol cymunedol dros y penwythnos ac ar wyliau banc yn cael eu gweithredu drwy ein rhaglen Ymhellach, Yn Gyflymach.
Derbyniwyd argymhellion interim cam tri ym mis Chwefror. Fel rhan o’n hymateb, darparwyd grant costau byw o £4m i’r 12 hosbis a gomisiynir gan y GIG i gefnogi’r gwaith o gyflenwi eu gwasanaethau hanfodol.
O dan arweiniad y grŵp cynllunio gofal ymlaen llaw ac at y dyfodol, rydym wedi cryfhau’r adnoddau cynllunio ar gyfer DNACPR (penderfyniadau ‘na cheisier dadebru cardio-anadlol’) a gofal ymlaen llaw. Rydym yn adolygu ac yn diweddaru Rhannu a Chynnwys – y polisi DNACPR ar gyfer oedolion yng Nghymru – bob dwy flynedd i adlewyrchu’r ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym hefyd wedi datblygu fframwaith cymhwysedd DNACPR Cymru Gyfan ar gyfer nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a thaflen wybodaeth i unigolion a gofalwyr i helpu i wneud penderfyniadau ynghylch adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn gliriach.
Mae gwasanaethau profedigaeth wedi cael buddsoddiad sylweddol, ac mae gwaith wedi ei wneud i wella gofal mewn profedigaeth. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi ein Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal Mewn Profedigaeth ym mis Hydref 2021 a lansio llwybr profedigaeth penodol i gefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn neu drawmatig person ifanc hyd at 25 oed. Mae cynnydd da yn cael ei wneud o ran datblygu llwybrau profedigaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ac ar gyfer colli babanod a cholli babi yn ystod beichiogrwydd. Rydym wedi ymestyn y grant cymorth profedigaeth gwerth £3m i sefydliadau’r trydydd sector am dair blynedd arall hyd at 2028, ac rydym hefyd wedi darparu £420k ychwanegol i fyrddau iechyd i gryfhau trefniadau cydgysylltu’r ddarpariaeth profedigaeth.
Recriwtio a chadw gweithlu gofal lliniarol a gofal diwedd oes medrus, llawn cymhelliant yw ein huchelgais. Mae gwaith modelu a dadansoddi data yn parhau i fynd rhagddo i ragfynegi costau ac anghenion y gweithlu yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, mae tîm y rhaglen genedlaethol yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu fframwaith cymhwysedd gofal lliniarol a gofal diwedd oes.
Mae’r gwaith yn parhau ar ddatblygu manyleb gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes i ddarparu canllawiau ar gyrraedd y safon uchaf o ofal yng Nghymru. Bydd y canllawiau hyn yn diffinio’r gwasanaeth y tu allan i oriau a’r gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol ac yn edrych yn fanylach ar y meini prawf atgyfeirio ar draws y gwahanol sectorau a byrddau iechyd. Mae gwaith ar y gweill hefyd i ddatblygu cynllun tymor canolig ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes a fydd yn canolbwyntio yn rhannol ar yr addysg a’r cymorth ehangach i ofalwyr di-dâl.
Er bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud, gwyddom fod heriau o’n blaenau o hyd. Mae’r heriau hyn yn cynnwys y gwahaniaethau o ran argaeledd gwasanaethau gofal lliniarol mewn amrywiol rannau o Gymru, a’r gwahaniaeth yn eu hansawdd, ynghyd â phrinder gweithlu a diffyg data cynhwysfawr am ganlyniadau a phrofiadau cleifion.
O dan arweinyddiaeth y bwrdd rhaglenni cenedlaethol, byddwn yn dal i roi pwyslais ar ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth inni barhau i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes.