Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar
Heddiw, rwy'n cyhoeddi buddsoddiad pellach o £13.7 miliwn i barhau i drawsnewid gwasanaethau niwrowahaniaeth ar gyfer oedolion a phlant yng Nghymru ac i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau.
Bydd y cyllid yn ymestyn gwaith y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth a chefnogaeth i'r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol, i weithio gyda'r GIG i ysgogi gwelliannau ledled Cymru am ddwy flynedd arall hyd at fis Mawrth 2027.
Mae hyn yn adeiladu ar y £12 miliwn sydd eisoes wedi'i fuddsoddi yn y gwaith hwn dros y tair blynedd diwethaf hyd at fis Mawrth 2025 a'r £3 miliwn a dargedwyd i leihau'r amseroedd aros hiraf ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant ym mis Tachwedd 2024.
Wrth i ymwybyddiaeth o niwrowahaniaeth gynyddu, mae'r galw am wasanaethau asesu a chymorth wedi tyfu'n gyflym, gan olygu ei fod yn fwy na'r gallu i ymateb.
Mae'r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau cynaliadwy ac integredig. Mae'r Rhaglen hefyd wedi profi ffyrdd newydd o weithio, rhannu arferion da ledled Cymru, ymestyn hyfforddiant i'r gweithlu, treialu offer sgrinio digidol, gwella'r gwaith o gasglu data a meithrin perthnasoedd cryf rhwng sefydliadau er mwyn hybu cydweithio.
Un enghraifft yw prosiect Cysylltwyr Cymunedol Caerdydd a'r Fro. Nod y prosiect yw rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr plant hyd at 11 oed am eu taith ar y rhestr aros a'u cyfeirio at wasanaethau lleol y gallant eu defnyddio heb orfod cael diagnosis ffurfiol. Mae'n cynnig sesiynau cysylltu, sesiynau galw heibio mewn ysgolion, a gweithdai ar bynciau a awgrymir gan rieni. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn codi ymwybyddiaeth o ddulliau a arweinir gan anghenion ac yn gweithredu fel cysylltiadau i wasanaethau eraill.
Mae'r prosiect Chwalu Mythau a gaiff ei gynnal gan Fwrdd Niwroamrywiol Gorllewin Morgannwg yn hybu dull a arweinir gan anghenion, sy'n canolbwyntio ar gryfderau unigol yn hytrach na labeli diagnostig. Mae hyn yn sicrhau bod ysgolion yn darparu cymorth hanfodol heb aros am ddiagnosis. Mae sesiynau 'Amser i Siarad' yn cynnig sicrwydd a chefnogaeth i rieni a gofalwyr, tra mae llyfr o adnoddau cyfathrebu cymdeithasol a blychau synhwyraidd yn helpu ysgolion. Mae canllawiau'n cael eu datblygu ar gyfer dull sy'n canolbwyntio ar y disgybl, ac mae arferion gorau yn cael eu harddangos drwy straeon digidol. Mae cyfres o bodlediadau a fideo animeiddiedig yn darparu strategaethau ymarferol ar gyfer addysgwyr a rhieni. Mae'r prosiect yn cael effaith barhaol drwy sicrhau bod gan ysgolion yr offer ar gyfer dull cynhwysol, sy'n seiliedig ar gryfderau.
Mae cyllid ar gyfer niwrowahaniaeth wedi cynyddu capasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol plant a'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i helpu i leihau rhestrau aros hir.
Ym mis Tachwedd 2024, cynhaliwyd digwyddiad dylunio carlam deuddydd gyda Gweithrediaeth y GIG, gan ddod â 170 o randdeiliaid ynghyd i ddatblygu dull cenedlaethol o ymdrin â gwasanaethau niwrowahaniaeth plant yng Nghymru. Bydd hyn yn llywio datblygiad model cyflenwi gwasanaethau integredig newydd.
Mae'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi'i ail-lansio fel y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol. Rydym yn gwerthuso effaith y Cod Ymarfer Statudol, a chafodd yr adroddiad canlyniadau cyntaf ei gyhoeddi yn 2024. Bwriedir cwblhau cod ymarfer wedi'i ddiweddaru erbyn mis Mawrth 2026.
Er mwyn sicrhau bod ein buddsoddiadau yn gwneud gwahaniaeth, rydym yn datblygu mesurau canlyniadau newydd, a fydd yn canolbwyntio i ddechrau ar wasanaethau plant. Bydd y data hwn yn rhoi darlun cynhwysfawr o'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud i wasanaethau a'r canlyniadau sy'n cael eu cyflawni, gan gynnwys profiadau defnyddwyr, er mwyn nodi meysydd ar gyfer canolbwyntio arnynt yn y dyfodol.
Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'n gwaith i wella gwasanaethau fynd yn ei flaen.