Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella iechyd a llesiant i bawb, neilltuwyd cyllid ychwanegol o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru eleni i wella’r ddarpariaeth gwasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.

I gyd-fynd â digwyddiad Pride Cymru y penwythnos hwn, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith manwl a wnaed mewn partneriaeth gyda defnyddwyr gwasanaethau a Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru ynghylch mynediad at wasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd. O'r hydref eleni ymlaen, bydd seiliau  llwybr gofal newydd dros dro yn ei le i wella mynediad at wasanaethau o'r fath i bobl Cymru. Mae'r llwybr gofal dros dro wedi'i gymeradwyo gan Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth o ran Rhywedd Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned drawsryweddol a defnyddwyr gwasanaethau.

Dan y model newydd hwn, bydd gwasanaeth amlddisgyblaethol - Tîm o ran Rhywedd Cymru - yn darparu cefnogaeth i rwydwaith o feddygon teulu trwy Gymru sydd â diddordeb arbenigol ym mhob maes gofal o ran rhywedd, gan gynnwys therapi hormonau. Byddant yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan feddygon teulu.

I ddechrau, bydd y gwasanaeth yn  hwyluso rhagnodi meddyginiaeth i unigolion sydd eisoes wedi bod yn mynychu Clinig Hunaniaeth Rywedd yn Llundain. O ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, bydd y Tîm yn derbyn atgyfeiriadau newydd ac yn symud unigolion priodol sydd ar restrau aros am driniaeth ar hyn o bryd. Bydd hyn yn digwydd mewn partneriaeth gyda'r Clinig, lle bydd y llwybrau gofal yn parhau i fod ar agor ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth neu'r rhai sy'n gofyn am lawdriniaeth ailbennu rhywedd. Gall unigolion barhau i gael eu trin gan eu darparwr presennol os byddai'n well ganddynt wneud hynny.

O ganlyniad i'r trefniadau newydd hyn, bydd llai o bellter i'w deithio, llai o amser i aros a gwell profiad i'r defnyddwyr. Bydd hefyd yn golygu bod y lleoedd presennol mewn clinig yn cael eu rhyddhau i'r rhai sydd angen gwasanaethau mwy arbenigol, ac yn helpu i fyrhau'r camau rhwng y cyfeiriad cychwynnol a dechrau triniaeth. Wrth i'r gwasanaeth newydd hwn gael ei roi ar waith, bydd y Grŵp Partneriaeth yn symud ymlaen gyda gweddill yr argymhellion i adeiladu ar y gwasanaeth dros dro a datblygu gwasanaeth a llwybr cyfeirio llawn.

Ar ben hynny, rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth o ran Rhywedd Cymru, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, Prif Weithredwr arweiniol y GIG ar rywedd, wedi penodi nifer o gynrychiolwyr ymroddedig o bob cwr o'r gymuned drawsryweddol. Mae'r aelodau newydd wedi bod yn rhan weithredol o'r gwaith o lunio llwybr gofal newydd, ac yn mynd i barhau i gymryd rhan yn y dyfodol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu gwaith hyd yma ac am eu hymroddiad a'u cyfraniad wrth ddatblygu gwell gwasanaeth i bobl drawsryweddol yng Nghymru.

Er mai llwybr ar gyfer oedolion yn benodol yw hwn, mae gwaith ar y gweill hefyd i ddatblygu llwybr gofal gwell ar gyfer plant. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall yn y flwyddyn newydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynnydd a wnaed.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd i bobl drawsryweddol. Rwy'n edrych ymlaen at weld gwelliannau mawr i'r gwasanaethau, gyda'r cyfan ond y rhai mwyaf arbenigol yn cael eu darparu yng Nghymru, mor agos i gartrefi'r defnyddwyr â phosib.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.