Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Aelodau’r Cynulliad, mae’n bleser gennyf rannau gyda chi dystiolaeth wirioneddol o’r gwelliannau mewn gofal canser sy’n digwydd yma yng Nghymru. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i rannu’r newyddion da gyda chi, yn ogystal ag egluro sut rwyf yn bwriadu adeiladu ar hyn yn y misoedd sy’n dod i sicrhau fod y gofal canser a gynigir yng Nghymru yn parhau i wneud gwelliannau pendant.
Mae canser yn fwy nag “amseroedd aros”, mae’n ymwneud â phobl, am eu gofal ac yn ein Harolwg diweddar o Brofiad Cleifion Canser, roeddwn yn falch o weld fod cynifer o bobl yn canmol eu gofal.
Roedd canlyniadau’r Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru, a drefnwyd mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan, ac a gyhoeddwyd ar 27 Ionawr yn gofyn i bobl oedd wedi cael diagnosis o ganser i roi adborth ar y gofal a’r driniaeth a gawsant. Drwyddi draw, roedd y gofal a gafodd cleifion canser yng Nghymru naill ai yn ‘rhagorol’ neu’n ‘dda iawn’ yn ôl yr 89 y cant o gleifion a ymatebodd. Cododd y ffigwr hwnnw i 97 y cant o gleifion a oedd yn credu fod eu gofal yn ‘dda’. Mae’n galonogol gweld fod cynifer o gleifion wedi cael profiad cadarnhaol o’u gofal canser ac mae’r dystiolaeth fod systemau effeithiol yn eu lle ochr yn ochr â chymorth i unigolion yn amlwg iawn.
Roedd yr arolwg yn adrodd barn 7,352 o gleifion canser. Gyda chyfradd ymateb o 69%, mae’r canlyniadau’n cynnig dadansoddiad cadarn a chynhwysfawr o brofiadau pobl o ganser. Neges glir yr arolwg hwn yw bod mwyafrif y bobl yn derbyn gofal a chymorth ardderchog mewn ystod eang o feysydd.
Nid oedd yr arolwg yn canolbwyntio ar feddyginiaeth a gweithredoedd meddygol yn unig. Roedd yn ystyried y siwrne gyfan y mae rhywun yn ei hwynebu, gan ddechrau o’r diagnosis cyntaf o ganser. Mae’n falch gen i adrodd fod 85% o bobl yn dweud eu bod bob amser yn cael eu trin â pharch ac urddas gan staff; roedd gan 87% ffydd ac ymddiriedaeth yn y meddygon a’r nyrsys oedd yn gofalu amdanynt a dywedodd 94% eu bod yn cael digon o breifatrwydd wrth gael eu trin.
Mae’n bwysig hefyd fod yr arolwg wedi tynnu sylw at elfennau gofal sydd angen eu gwella. Mae yna amrywiad rhwng safleoedd ysbyty a rhai mathau o ganser ac mae angen gwneud ymdrech i leihau’r amrywiad hwn. Er enghraifft roedd y rheiny â chanser y fron yn fwy cadarnhaol eu hymatebion na’r rheiny â sarcoma neu ganser yr ysgyfaint neu wrolegol. Er bod dwy ran o dair o’r cleifion wedi cael enw gweithiwr allweddol, ac yn adrodd am fanteision cael gweithwyr allweddol a nyrsys canser arbenigol, mae’n amlwg fod angen mwy o waith i wella cysondeb mynediad. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r rhwydweithiau canser yng Nghymru ynghylch pa ddyletswyddau y dylai arbenigwyr nyrsio clinigol eu darparu. Er bod 68% o gleifion yn dweud eu bod wedi trafod neu wedi cael gwybodaeth am effaith canser ar waith neu addysg, dim ond 51% a ddywedodd eu bod wedi cael gwybodaeth am sut i gael cymorth neu fudd-daliadau ariannol gan staff yr ysbyty. Bydd angen gwneud mwy i fodloni anghenion holistig y claf.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r arolwg hwn gael ei gynnal yng Nghymru a bydd angen i’r GIG yn gyffredinol wrando ar leisiau’r cleifion a gweithredu arnynt. Mae’r arolwg hwn yn ein helpu i gasglu’r math cywir o dystiolaeth fel y gallwn ddeall yn well anghenion gwahanol y bobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau. Mae’n cynnig darlun pwysig i ni o’r hyn sy’n bwysig i unigolion, nid dim ond amseroedd aros. Gyda’r dystiolaeth a roesant i ni, gallwn barhau i wella’n gwasanaethau a sicrhau profiadau cleifion, yn awr ac yn y dyfodol.
Ar 31 Ionawr, fe gyhoeddasom ein hail Adroddiad Canser Blynyddol. Roeddwn yn falch iawn o ddarllen mai yng Nghymru y mae’r cynnydd mwyaf mewn cyfraddau goroesi canser yn y DU. Mae’r adroddiad hwn yn dangos gwelliannau gwirioneddol mewn gofal canser yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn deyrnged i bawb sy’n ymwneud â chynllunio a darparu’r gofal.
Tynnir sylw hefyd yn yr adroddiad at y llwyddiant o ran y cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael y brechlyn Feirws Paipiloma Dynol (HPV), o 85.5% yn 2011/12 i 86.6% yn 2012/13. Mae’r brechiad hwn yn atal canser serfigol, sef yr ail ganser mwyaf cyffredin ymhlith menywod dan 35 oed.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y meysydd y dylid canolbwyntio arnynt yn y flwyddyn i ddod. Mae’r rhain yn cynnwys gwrthdroi’r dirywiad yn nifer y bobl sy’n mynd i gael eu sgrinio am ganser y coluddyn. Ac er bod yr adroddiad yn dweud wrthym ein bod yn gyson wedi cyrraedd y targed 31 diwrnod ers mis Gorffennaf 2013, ein nod yw adeiladu ar welliannau diweddar yn erbyn y targed 62 diwrnod i’r rhai sydd newydd gael diagnosis o ganser.
Er mai’r gwelliant yn ein cyfraddau goroesi canser yw’r gorau yn y DU, rydym eto i gyrraedd y lefelau sydd mewn nifer o wledydd eraill yn Ewrop, felly mae angen inni barhau i wneud cynnydd.
Mae’n bwysig nad ydym yn beirniadu gwasanaethau ar amseroedd mynediad yn unig. Yn yr arolwg mewn ymateb i’r cwestiwn am aros cyn mynd i’r ysbyty, dywedodd 78% eu bod wedi cael eu gweld cyn gynted ag y teimlent fod angen. Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn ein galluogi i edrych ar amryw o fesurau sy’n effeithio ar ganlyniadau cyfraddau goroesi yn gyffredinol.
Mae’r oncolegwyr mwyaf blaenllaw yng Nghymru yn parhau i ddweud wrthyf nad yw’r gwahaniaeth rhwng achosion 31 a 62 diwrnod yn un sy’n adlewyrchu’r safonau uwch o ofal cleifion sy’n bodoli heddiw.
Rwyf newydd dderbyn cyngor gan uwch glinigwyr ynglŷn â thargedau mynediad i wasanaethau canser. Roedden nhw’n argymell datblygu un llwybr i’r claf gydag amseroedd aros yn cael eu hadrodd o’r atgyfeiriad gan y Meddyg Teulu neu o’r diagnosis, yn dibynnu ar y llwybr i ddiagnosis. Byddai hyn yn arwain at symud i ffwrdd o ddefnyddio adroddiadau unigol fel prif ddisgrifydd ansawdd y gofal a dderbynnir gan y mwyafrif o gleifion canser tuag at system sy’n cynrychioli’r boblogaeth gyfan yn well a chymhlethdod cynyddol gofal canser. Gofynnais am gael symud tuag at dreialu’r system hon yn weddol gyflym.
Byddaf yn gwerthuso canlyniadau’r cynllun peilot ac os argymhellir newidiadau yn syth, byddaf yn rhoi ystyriaeth fuan iddynt. Bydd y gwaith ehangach yn mynd yn ei flaen drwy ymgysylltiad clinigol rhwng nawr a mis Ebrill 2014.
Mae pob claf yn haeddu’r gofal gorau. Er bod canlyniadau’r Adroddiad Blynyddol a’r adroddiad arolwg cleifion yn dangos ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir, byddwn yn dal ati i wneud gwelliannau ymhob agwedd ar ofal a thriniaeth canser.
Rwyf yn sicr, fod y polisïau a’r broses yr ydym ni a’r byrddau iechyd wedi gweithio’n galed i’w datblygu i gefnogi gofal canser, bellach yn cael effaith go iawn ar ofal canser ac rwyf yn benderfynol o sicrhau fod y gwelliannau hyn yn parhau.