Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Archwilio Cymru ei adroddiad 'Gwasanaethau Canser yng Nghymru', a ddaw yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru o arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer gwella gwasanaethau canser. Mae'r datganiad hwn yn nodi'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud i drefniadau arwain a llywodraethu er mwyn gwella gofal canser yng Nghymru.
Rwy'n croesawu canfyddiad Archwilio Cymru bod ymrwymiad clir i wella gwasanaethau canser yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl staff hynny yn y GIG sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru. Fel y mae'r adroddiad yn ei gydnabod, mae gwariant ar ofal canser wedi cynyddu'n sylweddol dros y degawd diwethaf ac mae canlyniadau wedi gwella. Wrth i'n poblogaeth heneiddio, ac wrth i alluoedd y GIG barhau i esblygu, bydd cynaliadwyedd gwasanaethau yn dibynnu ar sut y gallwn greu'r capasiti i archwilio a thrin pobl mewn modd amserol. Dyma her sy'n wynebu'r GIG ledled y DU.
O ystyried ehangder a chymhlethdod y gwaith i wella gofal a chanlyniadau canser, rwy'n derbyn barn yr Archwilydd Cyffredinol bod angen mwy o eglurder ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn arwain y gwelliannau hyn. Felly, rwy'n sefydlu fforwm cenedlaethol newydd, o dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, i gydlynu'r gweithgarwch hwn yn well ac i sicrhau mwy o gyflymder drwy'r amrywiol raglenni sy'n ymwneud â gwella gwasanaethau.
Mae’r camau hyn yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi’i wneud i gryfhau gwasanaethau canser yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn 2021, fe wnaethom nodi ein disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau canser yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser. Mae'r datganiad yn cynnwys 22 o ddisgwyliadau cynllunio a chyfres o lwybrau a manylebau gwasanaeth manwl y cytunwyd arnynt yn genedlaethol i'r GIG eu gweithredu drwy ei brosesau cynllunio lleol.
Mae Fframwaith Cynllunio blynyddol y GIG yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG weithredu'r Datganiad Ansawdd. Caiff hyn ei atgyfnerthu bob blwyddyn drwy uwchgynhadledd ganser genedlaethol. Y flaenoriaeth i'r GIG yw gwella perfformiad yn erbyn y targed cenedlaethol, sef y dylai o leiaf 75% o bobl ddechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser o fewn 62 diwrnod; lleihau'r ôl-groniad o bobl sy'n aros mwy na 62 diwrnod; a gweithredu'r llwybrau gofal y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Er mwyn rhoi eglurder ynghylch sut y mae'r GIG yn ymateb i ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru, cyhoeddwyd Cynllun Gwella Canser y GIG ym mis Ionawr 2023.
Ers y pandemig, rydym wedi canolbwyntio'n ddigynsail ar wella mynediad at ofal canser. Bob mis, mae uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth arbenigwyr o Weithrediaeth y GIG, yn cwrdd â phob bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar berfformiad gwasanaethau canser a gwella'r perfformiad hwnnw. Mae hyn yn ychwanegol at y cyfarfodydd atebolrwydd safonol, a gynhelir bob mis a bob chwe mis. Mae rheolwyr y GIG ac uwch-glinigwyr canser hefyd yn dod ynghyd mewn cyfarfodydd cenedlaethol i rannu gwybodaeth ac arferion da a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Mae'r perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod wedi sefydlogi ac mae ychydig o arwyddion o gynnydd mewn rhai ardaloedd o Gymru, gan gynnwys ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a wnaeth sicrhau perfformiad o fwy na 70% ym mis Hydref. Wedi dweud hynny, mae perfformiad rhwng y byrddau iechyd a rhwng mathau o ganser yn amrywio gormod o hyd. Mae fy nhrafodaethau gyda Chadeiryddion y Byrddau Iechyd yn canolbwyntio’n rheolaidd ar berfformiad canser.
Rydym wedi dyrannu £2m i Weithrediaeth y GIG ddarparu pecyn o gymorth i'r byrddau iechyd. Mae hyn yn cynnwys clinigwyr arbenigol a rheolwyr rhaglenni yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i newid sut y mae llwybrau canser a modelau gwasanaeth yn gweithio. Mae'r cam cychwynnol yn canolbwyntio ar ganser y fron, canser y croen, canser gynaecolegol, canser y bibell gastroberfeddol isaf, a chanser wrolegol i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd o ran sut y mae'r byrddau iechyd yn darparu gofal, megis anfon pobl yn syth am brawf heb apwyntiad claf allanol.
Rydym hefyd yn gwella cyflymder arloesi ac wedi sefydlu'r rhaglen 'Gwneud Iddo Ddigwydd' i ddwyn y llywodraeth, y GIG a'r diwydiant ynghyd, o dan arweiniad yr Hwb Gwyddorau Bywyd. Rydym hefyd wedi cyhoeddi dull cenedlaethol cyntaf Cymru o ymdrin ag ymchwil canser, sy'n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru.
Mae ystod ehangach o welliannau i wasanaethau ar y gweill, a fydd hefyd yn helpu i wella canlyniadau, gwasanaethau, neu ofal canser – o leihau cyfraddau smygu a mynd i'r afael â gordewdra i frechu rhag y Feirws Papiloma Dynol (HPV) a'n strategaethau diagnosteg a genomeg.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bennu'r blaenoriaethau a'r disgwyliadau ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae'r GIG yn gyfrifol am gyflawni'r blaenoriaethau canser hynny, gyda chefnogaeth ar lefel genedlaethol gan Weithrediaeth y GIG. Mae Gweinidogion Cymru yn dwyn y GIG i gyfrif am ddarparu gwasanaethau, ac mae'r Gweinidogion, yn eu tro, yn atebol i'r Senedd a'r cyhoedd.
Byddaf yn diweddaru'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser 2021 er mwyn rhoi mwy o eglurder ynghylch rolau perthnasol, y berthynas rhwng gwahanol raglenni cenedlaethol, a'r metrigau a ddefnyddir i oruchwylio'r ddarpariaeth.
Byddaf hefyd yn gwneud nifer o benderfyniadau allweddol dros y misoedd nesaf, dwi wedi gofyn am gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch gweithredu rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint i gael ei gyflwyno erbyn y gwanwyn, chwe mis yn gynt na’r bwriad gwreiddiol, a byddaf yn cyflymu map trywydd datblygu data ar gyfer canser.
Er gwaethaf y camau rydym wedi'u cymryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein dadansoddiad ein hunain a dadansoddiad Archwilio Cymru yn dweud wrthym fod mwy i'w wneud a byddaf yn parhau i sicrhau bod sefydliadau'r GIG yn canolbwyntio ar wella mynediad at ofal canser o ansawdd uchel fel y gallwn gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ein poblogaeth.