Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Cafodd Datganiad Polisi Caffael Cymru ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2012. Roedd hwnnw'n pennu naw egwyddor ar gyfer cynnal gwaith caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Er mwyn cefnogi Egwyddor 1, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig rhaglen wirio ffitrwydd i'r sector cyhoeddus, fel modd o fesur datblygiad arferion caffael yng Nghymru.
Rydym wedi bod yn monitro ar y cyd ganlyniadau'r cylch cyntaf o Wiriadau Ffitrwydd ar gyfer Llywodraeth Leol, ac rydym yn croesawu'r cynnydd amlwg a wnaed ers i John McCelland gynnal a'i adolygiad yn 2012.
Mae pob un o'r 22 o Awdurdodau Lleol wedi ymrwymo eu hamser a'u hadnoddau i gymryd rhan yn y rhaglen wirio ffitrwydd, ac erbyn hyn mae pob un wedi cytuno ar eu hadroddiadau a'u cynlluniau i wella caffael.
Mae deg cyngor wedi cyflawni lefel foddhaol, neu'n uwch, o ran aeddfedrwydd - ac mae hynny'n galonogol. Fodd bynnag, mae gwaith i'w wneud o hyd o ystyried bod 12 cyngor wedi derbyn asesiad o ran aeddfedrwydd a oedd yn is na'r lefel ar gyfer cydymffurfio â'r egwyddorion. Nodwyd bod un sefydliad yn anghydffurfio â'r egwyddorion. Mae copïau o bob un o'r 22 o adroddiadau ar gael yn at Rhaglen Wirio Ffitrwydd i Gaffael
Mae swyddogion Gwerth Cymru yn cydweithio â'r sector i weithredu'r argymhellion a wnaed yn eu cynlluniau i wella caffael - gan gynnig mynediad i Brosiect Doniau Cymru sy'n cael cymorth gan gyllid Ewropeaidd, a'n Gwasanaeth e-Gaffael.
Erbyn hyn, dylai'r Awdurdodau Lleol fod wrthi’n cymryd camau i ddatblygu eu cynlluniau i wella caffael cyn y cylch nesaf o wiriadau ffitrwydd. Bydd Prif Weithredwyr yn cael eu gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn gynnar yn yr hydref.