Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae angen dull tecach a gwell ar gyfer creu mynediad i'r cyhoedd at hamdden awyr agored sy'n llai beichus i’w weinyddu, yn darparu ar gyfer yr ystod eang o weithgareddau y mae pobl am gymryd rhan ynddynt, gyda mesurau diogelwch synhwyrol ar gyfer gweithgareddau rheoli tir. Yr wyf yn bwriadu datblygu cynigion ar gyfer ymgynghori ar sut y gallai’r cyfreithiau presennol gael eu gwella.

Yn dilyn adolygiad eang ei gwmpas o’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynediad a hamdden awyr agored ymgymerodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn 2015 ar wella cyfleoedd i gael mynediad at yr awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol. Archwiliodd y papur ymgynghori'r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer mynediad i'r awyr agored ac anogodd drafodaeth ar raddfa amrywiol o opsiynau posibl, gan gynnwys gwneud gwelliannau a dileu rhai o'r cyfyngiadau sy’n bodoli o dan y ddeddfwriaeth bresennol ynghylch mynediad, ymestyn y diffiniad o dir mynediad i gynnwys ardaloedd eraill, a gweithredu fframwaith deddfwriaethol newydd.

Derbyniwyd bron i 5800 o ymatebion i’r ymgynghoriad.  

Drwy gydol y broses gwahoddwyd rhanddeiliaid i roi eu barn ar fanteision a chyfyngiadau’r system gyfredol ac awgrymu sut y gellid ei gwella er mwyn creu mwy o gyfleoedd i'r cyhoedd gael mynediad i'r awyr agored, sefydlu dull cyson o hawliau a gorfodi, a lleihau beichiau ar Awdurdodau Lleol a rheolwyr tir.

Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn llawn gwybodaeth am y mathau o weithgareddau hamdden sy'n digwydd ledled Cymru, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig a threfol ymylol. Roeddent hefyd yn rhoi cipolwg o’r heriau y mae rheolwyr tir, defnyddwyr presennol a buddiannau masnachol yn eu hwynebu oherwydd cyfyngiadau’r fframwaith statudol presennol.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion o'r farn bod y system bresennol yn rhy gymhleth ac yn feichus. Roedd yno safbwyntiau cryf ac weithiau rhai cwbl wahanol ynghylch sut y gellid ei gwella.

Rwyf wedi ystyried yn ofalus y materion a godwyd gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae nifer o resymau pam y mae angen i ni ystyried sut y gallai’r cyfreithiau yn y maes hwn gael eu diwygio.

Mae angen i’r fframwaith deddfwriaethol fod yn fwy cydlynol. Mae gan lwybrau ac ardaloedd mynediad tir wahanol reolau a rheoliadau o ran pwy sy’n gallu mynd yno a pha weithgareddau a ganiateir, ac efallai nad oes unrhyw berthynas rhyngddynt â’r amodau gwirioneddol ar lawr gwlad.

Mae anghysondeb diangen o ran y modd y caiff llwybrau a mannau sy’n agored i'r cyhoedd eu cofnodi a’u newid a’r modd y cyfyngir ar y defnydd ohonynt ar hyn o bryd.

Mae angen i’r gyfraith adlewyrchu anghenion hamdden presennol a bod yn fwy hyblyg i newidiadau o ran galw a chyfranogiad. Mae'n rhy anodd ar hyn o bryd i newid mynediad i’r cyhoedd, naill ai o ran ei gynyddu neu o ran cyfyngu arno.

Ceir anghydfod parhaus dros hawliau'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden dŵr ar afonydd unigol a llynnoedd. Dylid dilyn penderfyniad i greu eglurder yn y maes hwn, ac i gael mwy o gysondeb o ran sut yr ymdrinnir ag ardaloedd mynediad a gweithgareddau eraill.

Am y rhesymau hyn byddaf yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer gwneud gwelliannau mewn tri maes allweddol:

  • Sicrhau cysondeb o ran y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, sut y cyfyngir ar weithgareddau a sut y cânt eu rheoleiddio;
  • Symleiddio a chysoni gweithdrefnau ar gyfer dynodi a chofnodi mynediad i'r cyhoedd; 
  • Gwella fforymau cynghori presennol a gwella sut y caiff hawliau a chyfrifoldebau mynediad eu cyfathrebu i bawb sydd â diddordeb. 

Byddai model addas i'r diben ar gyfer Cymru yn ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni nifer o ymrwymiadau allweddol a nodir yn Symud Cymru Ymlaen, gan gynnwys, helpu pobl i fyw bywydau mwy egnïol, hyrwyddo twf gwyrdd a datblygu dull 'Gwnaed yng Nghymru' sy'n adlewyrchu anghenion a dyheadau Cymru. Byddai hefyd yn helpu i gyflawni rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a’r Ddeddf Teithio Llesol.

Er y gallwn ddysgu oddi wrth ddulliau sydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn gwledydd eraill, mae angen cyfreithiau ar Gymru sy'n gweddu i’w thirwedd ddiwylliannol a naturiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod hyn yn helaeth â rhanddeiliaid ac felly yr ydym yn ymwybodol iawn o bryderon tirfeddianwyr a dyheadau defnyddwyr.

Mae hamdden awyr agored eisoes yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi ac yn ysgogi manteision iechyd a manteision cymdeithasol sylweddol ar gyfer y boblogaeth. Mae llwyddiant Llwybr Arfordir Cymru yn ddiweddar yn tystio i hyn. Mae’r llwybr hwn eisoes wedi codi proffil Cymru mewn perthynas â thwristiaeth gweithgareddau gartref a thramor. Mae gennym gyfle yn awr i adeiladu ar y llwyddiant hwn.