Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Eleni, mae pob un ohonom wedi wynebu heriau sylweddol yn sgil pandemig byd-eang y Coronafeirws (COVID-19). Nawr, yn fwy nag erioed, rydym yn dibynnu ar dechnoleg i gadw mewn cysylltiad ac, yn ddiau, mae'r defnydd helaethach hwn o dechnoleg yn ein bywydau bob dydd yn peri mwy o risg.

Mae sicrhau bod gan ein plant a'n pobl ifanc yr wybodaeth, y sgiliau a'r cadernid i ddelio â'r byd ar-lein yn bwysicach nag erioed. Mae ddiogelu plant a phobl ifanc rhag gweithgarwch niweidiol ar-lein o'r pwys pennaf, felly mae'n hanfodol ein bod yn darparu system addysg sy'n galluogi ein dysgwyr i ddefnyddio technoleg a chyfrannu'n gadarnhaol ar-lein.

Ers sawl blwyddyn bellach, rydym wedi cydnabod pwysigrwydd diogelwch ar-lein. Fodd bynnag, yn y trydydd degawd hwn o'r unfed ganrif ar hugain, mae dysgu sut i fod yn ddiogel rhag niwed ar-lein yn fwy cymhleth ac nid yw'r term ‘diogel’ yn ddigonol mwyach. Mae'n rhaid inni helpu ein dysgwyr i fod yn ddiogel ac ymddwyn yn gyfrifol ar-lein ac, yn y pen draw, fod yn ddigidol-gadarn.

Rydym yn byw mewn byd lle mae camwybodaeth, twyllwybodaeth a botiau yn peri risg sylweddol nid yn unig i'n diogelwch ond hefyd ein prosesau gwneud penderfyniadau sylfaenol. Mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn cael dylanwad enfawr ac mae gwaith ymchwil wedi dangos bod twyllwybodaeth yn lledaenu'n llawer cyflymach, yn ddyfnach ac yn ehangach na gwybodaeth wir. Mae'n hanfodol ein bod yn addysgu ein plant a'n pobl ifanc i fod yn feddylwyr beirniadol a gwerthuso a gwirio gwybodaeth bob amser cyn iddynt ymddiried ynddi, gweithredu arni neu ei rhannu ag eraill. 

Mae hefyd yn ffaith ddiymwad mai nwydd mwyaf gwerthfawr yr unfed ganrif ar hugain yw data. Nid mater i gwmnïau corfforaethol mawr yn unig yw seiberddiogelwch mwyach. Mae'n hanfodol bod pob un ohonom yn diogelu ein dyfeisiau a'n data er mwyn lleihau'r posibilrwydd y byddwn yn dioddef seiberdrosedd. Mae'r arferion hyn yn dechrau'n ifanc ac maent yn seiliedig ar arferion sylfaenol iawn seiberhylendid megis cyfrineiriau cryf a deall y mathau o risgiau i'w hosgoi.

Rydym yn hynod ffodus bod gennym sector seiber yng Nghymru sy’n cyflogi dros 3000 o bobl. Fel un o’r sectorau technoleg sy’n tyfu gyflymaf, mae Cymru yn cael ei chydnabod am ei harbenigedd yn y diwydiant ac mae’n gartref i nifer o’r prif sefydliadau seiberddiogelwch rhyngwladol. Gan gydweithio â phartneriaid cydnabyddedig yn y diwydiant, megis y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, rydym yn awyddus i adeiladu cronfa dalent, sy’n cyflwyno ystod o gyfleoedd hyfforddiant a chyfleoedd gyrfa llewyrchus. 

Mae'r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu llawer o bethau a gyflawnwyd hyd yma, o'r defnydd helaethach o adnodd hunanadolygu 360 degree safe Cymru i'r gyfres heb ei hail o adnoddau addysgol dwyieithog sydd ar gael i ddysgwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, teuluoedd a llywodraethwyr. Rydym wedi gweithio gyda sawl partner megis yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr NSPCC a SWGfL er mwyn darparu'r adnoddau gwych hyn sy'n mynd i'r afael â chryn nifer o broblemau ar-lein a chynnig amrywiaeth eang o ffynonellau o wybodaeth a chymorth. Rydym hefyd wedi ail-lansio'r adran benodedig ar Hwb – Cadw'n ddiogel ar-lein – y bwriedir iddi gefnogi cadernid digidol plant a phobl ifanc, eu teuluoedd, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol a'r gymuned ysgol ehangach.  

Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi'r diweddariad blynyddol cyntaf i'n Gwella cadernid digidol mewn addysg: Cynllun gweithredu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein. Rhoddodd cynllun gweithredu 2019 yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a oedd yn cael ei wneud ac roedd hefyd yn cynnwys 15 o gamau gweithredu newydd.

Yn 2020, mae'r cynllun gweithredu hwn bellach wedi ymestyn ei gwmpas er mwyn adlewyrchu'r rôl bwysig y mae seibergadernid a diogelwch data yn ei chwarae wrth sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Gan ychwanegu 26 o gamau gweithredu newydd yn 2020, mae'r cynllun bellach yn amlinellu 71 o ffrydiau gwaith sydd ar y gweill  i lywio'r maes gwaith pwysig hwn. 

Mae Gwella cadernid digidol mewn addysg: Gwella cadernid digidol mewn addysg: Cynllun gweithredu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein yn parhau i ddarparu ffocws ar gyfer ein gwaith ym maes diogelwch ar-lein ac yn cefnogi ein cenhadaeth i gynyddu cadernid digidol ein pobl ifanc ac addysg yng Nghymru.

Gwella cadernid digidol mewn addysg: Cynllun gweithredu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein