Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant o adsefydlu o fewn y System Cyfiawnder Troseddol. Yn aml, mae pobl yn y system gyfiawnder ymhlith y mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Rwy am sicrhau bod y cyfleoedd dysgu a'r sgiliau yr ydym yn eu darparu mewn carchardai yn gynhwysol ac yn gefnogol, gan ganiatáu i'r rheini sydd yn yr ystâd ddiogel yng Nghymru feithrin yr hyder sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i waith a'i gadw, neu barhau â'u dysgu pan gânt eu rhyddhau.

Felly, rwy'n falch o gyhoeddi polisi Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd: darpariaeth dysgu a sgiliau carchardai yng Nghymru sy'n ein galluogi i amlinellu, am y tro cyntaf, ein gweledigaeth ar gyfer amgylchedd dysgu diogel a chynhwysol yn ystâd carchardai Cymru. Trwy fuddsoddi yn narpariaeth dysgu a sgiliau carchardai, gallwn wella cyfleoedd unigolyn i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy ar ôl ei ryddhau. A chyhoeddi'r polisi hwn yw'r argymhelliad olaf sydd heb ei gyflawni yn dilyn yr adolygiad Diwygio Canlyniadau: Adolygiad o Addysg Troseddwyr yng Nghymru, sy'n adolygiad annibynnol o'r cymorth addysg a’r cymorth i ddod o hyd i waith sy'n cael eu darparu mewn carchardai ac i garcharorion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau i'r gymuned. Gan hynny, mae'r holl argymhellion wedi'u cyflawni erbyn hyn. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, dysgwyr mewn carchardai a'r rhai sy'n gadael y carchar, darparwyr addysg a sefydliadau'r trydydd sector i gyd-greu'r polisi hwn ar ddysgu ac ennill sgiliau yn y carchar. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod y cwricwlwm a'r cyrsiau galwedigaethol sydd ar gael mewn carchardai yn adlewyrchu anghenion y farchnad lafur yng Nghymru ac yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, gan wella cyfleoedd unigolion sy'n cael eu rhyddhau i gael gwaith. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.