John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Yma yng Nghymru, nid ydym yn ystyried yr amgylchedd yn rhywbeth ar wahân, i’w gadw mewn amgueddfa. Yn hytrach, mae’n dirlun byw a gweithredol. Rydym bob amser wedi bod o ddifrif ynghylch ein cyfrifoldeb ni i lunio, meithrin a gofalu am yr amgylchedd hwn, ac mae hynny, yn ei dro, wedi dwyn ffrwyth.
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym yn ymrwymo i fyw o fewn terfynau amgylcheddol, mynd i’r afael â thlodi a gwella canlyniadau iechyd ac addysgol.
Ond yn y cyfnod economaidd anodd sydd ohoni, gall llywodraethau ac awdurdodau gael eu temtio i ganolbwyntio ar flaenoriaethau economaidd ac anghofio am ymrwymiadau amgylcheddol neu gymdeithasol. Rhaid inni gofio mai’r amgylchedd a chymdeithas yw’r sylfaen ar gyfer llwyddiant economaidd; dyna sydd wrth wraidd ein hymrwymiad ni i ddatblygu cynaliadwy. Yn ogystal â chynnal ein system fywyd, mae’r amgylchedd naturiol yn gwneud inni deimlo ein bod yn perthyn i’r byd o’n cwmpas ac yn ennyn teimladau llesol eraill; iechyd gwell; cymdeithas fwy cydlynol, rhagor o gyfleoedd am swyddi a llwyddiant hirdymor.
Ein her ni yw sicrhau bod ein ffyrdd o ddylanwadu a chefnogi’r amgylchedd, yr economi a chymdeithas yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau manteision hirdymor i Gymru.
Yn ein cymunedau tlotaf y gwelir yr amgylchedd gwaethaf, ac yno hefyd y ceir y lleiaf o gyfleoedd i gymryd rheolaeth dros y gymdogaeth, manteisio ar gynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol neu greu swyddi gwyrdd. Y cymunedau hyn sy’n dioddef yr effeithiau mwyaf negyddol ac yn manteisio leiaf ar eu hamgylchedd.
Tipio anghyfreithlon, sbwriel, ffyrdd peryglus, lefelau uchel o lygredd aer a sŵn, diffyg mannau gwyrdd a methu â mwynhau traethau lleol – dyma’r realiti beunyddiol.
Yn yr ardaloedd trefol lle mae’r rhan fwyaf ohonom yn byw y mae pobl dlawd yn wynebu’r anfanteision amgylcheddol gwaethaf. Mae’r cymunedau hyn yn wynebu mwy o sŵn a thraffig ac ansawdd aer salach heb sôn am droseddau amgylcheddol megis sbwriel a thipio anghyfreithlon. Bydd yno hefyd fwy o dlodi tanwydd, llai o fynediad at fannau gwyrdd a llai o ddefnydd ar adnoddau lleol megis ffermydd cymunedol neu randiroedd.
Rwy’n awyddus i weld cymunedau yn creu amgylchedd gwell a mwy diogel ac yn cynyddu’r manteision a ddaw yn sgil hynny er mwyn gwella lles pobl.
Rydym eisoes yn gweithio gyda nifer fawr o gymunedau i gefnogi camau gweithredu yn lleol. Drwy waith Trefi Taclus, arbed, Amgylchedd Cymru, y rhaglen Braenaru a thrwy sefydliadau yr ydym yn eu cyllido fel Cadwch Gymru’n Daclus, Groundwork a llawer o sefydliadau eraill, gallwn wneud ardal yn llawer brafiach byw ynddi ac ennyn balchder pobl yn eu hardal.
Mae angen inni ehangu ar waith Asiantaeth yr Amgylchedd i gefnogi cymunedau sy’n wynebu perygl llifogydd hefyd, yn ogystal ag ymdrechion y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i roi rhagor o fynediad at fannau gwyrdd.
Rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod pawb yn chwarae eu rhan, a’u bod, drwy wella’u hamgylchedd, yn gwella ansawdd eu bywydau eu hunain.
Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn fod yn fwy effeithiol a thyfu rhagor o fentrau sy’n dechrau gydag un syniad neu thema. Efallai y bydd cymunedau sy’n clirio sbwriel o un â diddordeb mewn datblygu gerddi lleol neu greu mynediad at fannau gwyrdd. Felly, yr wythnos hon, mae’n bleser gen i lansio dull gweithredu newydd a fydd yn ein galluogi ni i ddefnyddio ein gwasanaethau presennol yn fwy effeithlon a sicrhau bod y nifer fwyaf bosibl o bobl yn cael budd ohonynt. Mae angen inni ddatblygu gwaith mwy trylwyr a phellgyrhaeddol; gwaith a fydd yn sicrhau swyddi a chymwysterau ac yn lleihau tlodi. Drwy’r dull hwn, byddwn yn sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o amrywiaeth eang y gweithgareddau a chynlluniau sydd ar gael i grwpiau cymunedol ac unigolion.
Bydd y dull newydd hwn yn dwyn ynghyd bopeth a gynigir gan fy adran i greu ymdeimlad o falchder yn ein milltir sgwâr ein hunain; mae cynllun Ein Milltir Sgwâr yn rhywbeth yr wyf yn awyddus i’w weld ym mhob cymuned ar draws Cymru.
Bydd ardaloedd dethol o bob rhan o Gymru’n cymryd rhan yng ngham arbrofol y cynllun hwn - mae Wrecsam, Caergybi, Abertawe a Chaerdydd eisoes wedi mynegi diddordeb. Trwy greu rhai ardaloedd prawf, mewn ardaloedd trefol i ddechrau, byddwn yn dysgu sut gallwn ni a’n partneriaid gydweithio mewn ffordd fwy cydlynol, effeithiol ac effeithlon fel bod pob elfen yn dod ynghyd i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o ran gwella’r amgylchedd lleol. Rydym am sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cydgysylltu cymdeithas yn lleol ac yn esgor ar fwy o swyddi a sgiliau. Mae angen inni anelu’n uwch er mwyn cyflawni mwy.
Bydd swyddogion datblygu sy’n cefnogi rhaglenni yr ydym eisoes yn eu hariannu yn cwrdd â grwpiau cymunedol lleol i greu dull gweithredu ‘siop-un-stop’ a fydd yn darparu gwasanaeth mwy cydlynol a syml. Bydd yr arbedion a grëir yn sgil hyn yn ein galluogi ni i weithio gyda rhagor o gymunedau, gan ddyfnhau ac ehangu’r camau gweithredu sy’n bosibl.
Rwyf hefyd yn falch iawn o gyhoeddi cynllun grant gwerth £500,000 yr wythnos hon. Bydd awdurdodau lleol ar draws Cymru’n gallu bidio am gyfran o’r arian i brosiectau a fydd yn lleihau llygredd aer a sŵn ac yn datblygu mannau gwyrdd tawel.
Daw hyn yn sgil yn ein hymgynghoriad diweddar ynghylch amddiffyn y mannau tawel sydd gennym eisoes a’r canllawiau polisi a gyhoeddais i yn gynharach eleni a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymdrin ag ansawdd yr aer a sŵn traffig mewn modd integredig. Bydd y fenter newydd hon yn cydategu’r cynlluniau grant presennol fel eu bod, gyda’i gilydd yn darparu fframwaith mwy cyflawn i gefnogi cymunedau sy’n wynebu’r angen mwyaf.
Yn olaf, rwyf wedi gofyn i’r asiantaethau a ariennir gennym a’r partneriaid yr ydym yn gweithio â nhw i weithio mewn ffordd wahanol, er mwyn gweld a oes modd inni gydweithio mwy byth a chryfhau ein hymdrechion gyda defnyddwyr ein gwasanaethau i ddylanwadu a llunio’r canlyniadau y maent yn eu dymuno. Rydyn ni Gymry’n ffodus iawn i gael byw mewn gwlad mor hardd. Rhaid inni sicrhau amgylchedd o’r ansawdd gorau i holl drigolion ein gwlad, gan ddechrau drwy greu gwelliannau sylweddol yn ein cymunedau trefol mwyaf difreintiedig.