Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi eleni, mewn Datganiad Llafar ger bron y Cyfarfod Llawn am y Metro yng Nglannau Dyfrdwy, ymrwymais y byddwn yn gwneud datganiadau pellach dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod i esbonio fy nghynigion ar gyfer yr hybiau eraill sy'n cael eu hystyried fel rhan o'm gweledigaeth ar gyfer y Gogledd a Metro'r Gogledd Ddwyrain.

Heddiw, rwyf am siarad am y gwaith rydym yn ei wneud i ddatblygu hybiau Glannau Dyfrdwy a Wrecsam gan eu bod wedi'u datblygu ymhellach na'r lleill yn y Gogledd. Yn gynnar flwyddyn nesaf, byddaf yn canolbwyntio ar ein buddsoddiadau yn y Gogledd-orllewin.

Hanfod fy ngweledigaeth yw rhannu ffyniant a helpu'r economi ym mhob rhan o'r Rhanbarth i ddatblygu. Mae'n weledigaeth o system drafnidiaeth integredig fydd wedi'i gweddnewid ac a fydd yn symbylu twf economaidd a dod â buddiannau cymdeithasol, amgylcheddol, iechyd a diwylliannol i'r Gogledd. Mae'n golygu gwella'r seilwaith a'r gwasanaethau trafnidiaeth er mwyn lleihau tagfeydd a byrhau amserau teithiau - dau beth sy'n hanfodol i economi lewyrchus ac amgylchedd cynaliadwy bob ochr y ffin. 

Rydym yn troi'r weledigaeth yn nifer o gynlluniau fydd yn:

  • Sicrhau'r cysylltedd trafnidiol sydd ei angen i sicrhau'r twf economaidd mwyaf posib yn y Gogledd a'r cyfleoedd o'r Northern Powerhouse. 
  • Cysylltu cymunedau â chyfleusterau, swyddi a gwasanaethau, gan gynnwys rhai dros y ffin. 
  • Annog dulliau teithio mwy cynaliadwy i leihau tagfeydd a dod â buddiannau o ran iechyd a'r amgylchedd. 
Mae'r cynlluniau trafnidiaeth yn cael eu datblygu gan ddefnyddio pecyn Arweiniad newydd Trafnidiaeth Cymru 2017 ar Arfarnu a Chynllunio sy'n adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r nodau Llesiant. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu hefyd ar y cyd ag awdurdodau lleol, busnesau a gweithredwyr bysiau a threnau, a byddant yn canolbwyntio ar dargedu'n buddsoddiadau yn y system drafnidiaeth all ddod â budd i lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y Gogledd a'r rhanbarthau cyffiniol. Gall prosiectau trafnidiaeth gynnig amrywiaeth o fuddiannau os  ydyn nhw'n cael eu cynllunio a'u cynnal mewn ffordd sy'n ystyried ffactorau ehangach na seilwaith neu systemau trafnidiaeth yn unig.

Ein prif ffocws o hyd fydd creu hybiau trafnidiaeth integredig ar safleoedd cyflogaeth allweddol ledled y Gogledd ac ardal Dyfrdwy-Mersi. Bydd hynny'n ymwneud â gwella'r cysylltedd o fewn, i ac o a rhwng hybiau. Yn y Gogledd, Bangor, Abergele, y Rhyl, Llanelwy, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy fydd yr hybiau hyn.

Fel rhan o'r gwaith o wella'r cysylltiadau rhwng hybiau cyflogaeth yn Swydd Gaer, Wirral a'r Gogledd-ddwyrain, rydym yn gweithio gydag awdurdodau a gwleidyddion bob ochr y ffin i ddatblygu cynllun fydd yn lleihau'r tagfeydd i'r gorllewin a'r de o Gaer, yn gwella'r cysylltiadau â Brychdyn ac yn lleihau effeithiau'r traffig yn yr ardal. Mae'n golygu hefyd gwella'r A483/A5 i'r de o Wrecsam. Hefyd, rydym yn camu tuag at ail gymal y datblygiad fydd yn dewis yr atebion a ffefrir i leihau'r tagfeydd presennol yng Nghylchfan Halton ar yr A483.

Yn Wrecsam ei hun, rydym yn gweithio gyda'r Cyngor i greu hyb trafnidiaeth integredig amlfoddol yng nghanol y dref fydd yn cysylltu â moddau teithio cynaliadwy i, o ac o fewn y dref. Bydd hyn yn cyfrannu at ddarparu'r cyfleusterau a'r gwasanaethau trafnidiaeth sydd eu hangen i roi uchelgeisiau Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor ar waith.  Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli bod angen mynd i'r afael â'r problemau tagfeydd ar gefnffordd yr A483 er mwyn gallu gwireddu'r cynlluniau datblygu economaidd a thai yn llawn. Rwyf wedi ymrwymo felly i fwrw ymlaen â datblygu mentrau i wella Cyffyrdd 3 i 6 ar yr A483 a bydd hynny'n golygu cynnwys y cynllun hwn yn fersiwn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddir yn ddiweddarach yn y mis.

I ddarparu'r hyb trafnidiaeth integredig ar y cyd â'r Cyngor a phartneriaid eraill gan gynnwys Network Rail, rwy'n darparu arian ar gyfer
  • Gwella'r orsaf a'r cyfleusterau yng ngorsaf Drenau Gyffredinol Wrecsam. 
  • Gwella'r cysylltiadau rhwng yr orsaf bysiau, y llwybrau teithio llesol a'r cyfleusterau parcio a theithio a gorsaf Drenau Gyffredinol Wrecsam. 
  • Gwella'r cyfleusterau, gwybodaeth a diogelwch i deithwyr a mesurau i wella llif traffig a hygyrchedd yng ngorsaf fysiau Wrecsam. 
  • Gwella'r cysylltedd rhwng gorsaf drenau a bysiau Wrecsam ar fws a'r llwybrau teithio llesol 
  • Adolygu'r rhwydwaith bysiau i wella'r cysylltiadau â lleoedd allweddol yng nghanol y dref a thu hwnt iddo. 
Yng Nglannau Dyfrdwy, rydym yn parhau i weithio ar y cynlluniau a ddisgrifiais yn fy natganiad llafar ar 26 Medi. Rwyf wedi neilltuo arian i ddatblygu cynlluniau ar gyfer integreiddio gorsafoedd Isaf/Uchaf Shotton a datblygu gorsaf Parkway Glannau Dyfrdwy newydd hyd at Gymal 3 GRIP. Bydd arian Llywodraeth Cymru i Gyngor Sir y Fflint yn cael ei wario yn gynnar yn 2018 i wella seilwaith Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, fydd yn cynnwys gwella'r ddarpariaeth Teithio Llesol.  Bydd yr awdurdod yn ymgynghori hefyd ar ei gynigion ar gyfer gwella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus , gan gynnwys amserau teithiau a'u dibynadwyedd. Amcan ein buddsoddiadau yng Nglannau Dyfrdwy yw cynnig opsiwn teithio carbon isel, amlfoddol i bawb yn yr ardal a fydd yn rhoi hwb i economi'r rhanbarth a thu hwnt.

Lawn cyn bwysiced, mae'r gwelliannau'n cefnogi Cynllun Glannau Dyfrdwy a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan Gyngor Sir y Fflint.

Mae'r ffordd yr ydym yn caffael gwasanaethau Cymru a'r Gororau ar gyfer y dyfodol yn gwella'n ffordd o ehangu gwasanaethau ar draws y Gogledd, a'm blaenoriaethau cyntaf yw gwella gwasanaethau rhwng y Gogledd a Lerpwl trwy Halton Curve yn ogystal â gwasanaethau cyflymach rhwng y de a'r gogledd yn y bore a chyda'r nos. Yn ogystal, cymhellir y rheini sy'n cynnig tendrau i wella lefelau gwasanaeth yn ardal Metro'r Gogledd-ddwyrain gan gynnwys gwelliannau i wasanaethau dydd Sul. Bydd Trafnidiaeth Cymru'n derbyn tendrau terfynol cyn hir.  Byddaf yn darparu mwy o wybodaeth am hyn dros y misoedd i ddod. 

A ninnau wedi sicrhau arian gan Lywodraeth y DU i ddatblygu achos busnes i gyfiawnhau buddsoddi arian i wella amserau teithiau a chapasiti ar hyd prif lein y Gogledd a lein Wrecsam-Bidston, byddwn yn awr yn bwrw ymlaen â'r astudiaethau hynny. Caiff y gwaith ei wneud mewn cydweithrediad â'r Adran Drafnidiaeth a Growth Track 360.

Gan fod ein ffocws bellach yn newid o gynllunio a datblygu i ddarparu ac o brosiectau hawdd byr dymor i rai mwy cymhleth y bydd angen mwy o amser i'w paratoi ac sydd angen cymorth cyrff ariannu statudol ac anstatudol o'r tu hwnt i'r ffin arnynt, rwyf am i Trafnidiaeth Cymru sefydlu uned fusnes yn y Gogledd. Bydd yr uned fusnes hon yn helpu gwaith Grŵp Llywio Metro'r Gogledd a'r Gogledd-ddwyrain sydd eisoes wedi'i sefydlu. Trefniant interim yw hwn a byddaf yn gwneud Datganiad arall pan fydd y trefniadau terfynol wedi'u cadarnhau. 

Bydd y Grŵp Llywio ac uned fusnes Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd a chyda phartneriaid allweddol eraill i ddarparu seilwaith modern a chysylltiedig, i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, i annog mwy o deithio llesol er lles iechyd a'r amgylchedd ac i roi hwb i gydgynllunio seilwaith, tai, cyflogaeth a gwasanaethau.