Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi, dywedais wrth yr Aelodau fod yr amserlen ar gyfer gosod y cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r rheoliadau gweithredu, sy’n parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth hon, wedi’i diwygio. Caiff y rhain eu gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror 2021 i ategu cychwyn a chyflwyno’n raddol y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg o fis Medi 2021. Cadarnheais hefyd y bydd rolau statudol y Ddeddf yn cychwyn, fel ag a gynlluniwyd, ym mis Ionawr 2021, ac i gyd-fynd â hyn, fy mod yn bwriadu gosod rheoliadau ar rôl y Cydlynydd ADY eleni; a chyhoeddi canllawiau i ategu’r rolau statudol cyn eu cychwyn.

Diben y datganiad hwn yw rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod, ar 29 Hydref, wedi gwneud Gorchymyn i gychwyn pwerau amrywiol sydd yn y Ddeddf, gan gynnwys y pŵer i wneud y rheoliadau Cydlynydd ADY, o 2 Tachwedd. Mae’r Gorchymyn hefyd yn cychwyn y gofynion i ysgolion a sefydliadau addysg bellach; byrddau iechyd; ac awdurdodau lleol ddynodi Cydlynydd ADY yn yr achos cyntaf; Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg yn yr ail, a Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar yn yr achos olaf ar 4 Ionawr 2021. Yn ogystal, rwyf wedi gosod gerbron y Senedd heddiw ‘Reoliadau Drafft Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020’ (“y rheoliadau Cydlynydd ADY”). Mae’r rheoliadau hyn yn rhagnodi cymwysterau a swyddogaethau rôl y cydlynydd ADY.

Mae’r rôl hon yn rhan sylfaenol o’r system ADY sydd wedi’i chynllunio i sicrhau mwy o gysondeb wrth ddynodi cydlynwyr ADY ac wrth gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol. I gefnogi datblygiad y rôl hon, rydym wedi dyrannu cyllid i ddatblygu Rhaglen Dysgu Proffesiynol Genedlaethol ADY. Bydd hon yn rhaglen hyfforddi a datblygu amserol, wedi’i theilwra i’r unigolyn, er mwyn adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd ganddo eisoes. Ei nod yw galluogi’r cydlynydd ADY i gyflawni ei gyfrifoldebau yn effeithiol. 

Mae cychwyn y gofynion i ddynodi pob un o’r rolau statudol a gosod y rheoliadau Cydlynydd ADY yn garreg filltir bwysig ar ein taith i wneud y diwygiadau hanfodol hyn i’r system ADY, er budd holl blant a phobl ifanc Cymru.

Mae’r Gorchymyn hefyd yn cychwyn darpariaeth ar gyfer sefydlu rhestr o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol fel yr amlinellir yn y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, ac rwy’n bwriadu gosod rheoliadau ynghylch hyn maes o law.