Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“Deddf 2017”) yn disodli cyfyngiadau ar smygu mewn gweithleoedd a mannau cyhoeddus caeedig a sylweddol gaeedig, a gafwyd yn flaenorol yn Neddf Iechyd 2006 ac mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru  wneud rheoliadau i ymestyn y cyfyngiadau ar smygu i fangreoedd neu gerbydau ychwanegol. Mae Deddf 2017 yn gosod cyfyngiadau ar smygu ar diroedd ysgolion, tiroedd ysbytai, meysydd chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored i blant. Bydd Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 (“Rheoliadau 2020”) yn ategu darpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 3 i Ddeddf 2017 ac yn disodli Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007. Gyda’i gilydd, bydd darpariaethau Deddf 2017 a rheoliadau 2020 yn cyflwyno trefn ddi-fwg newydd yng Nghymru sy’n anelu at ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag niweidiau mwg ail-law. Byddant hefyd yn anelu at ddadnormaleiddio ymddygiad smygu ymhellach drwy gyfyngu ar smygu mewn mwy o fannau cyhoeddus, yn enwedig lle mae plant yn debygol o fod yn bresennol yn rheolaidd (megis tiroedd ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus).

Ar 23 Mehefin 2020 o dan Gyfarwyddeb Safonau Technegol 2015/1535/EU, hysbysodd Llywodraeth Cymru Gomisiwn yr UE a’r Aelod-wladwriaethau ynghylch Rheoliadau drafft 2020. Daeth y cyfnod segur gofynnol o dri mis i ben ar 24 Medi 2020 heb unrhyw wrthwynebiadau yn cael eu mynegi. Felly rwyf wedi llofnodi Gorchymyn Cychwyn, sy’n dod â darpariaethau galluogi a geir ym Mhennod 1 o Ran  3 o Ddeddf 2017 i rym at ddiben gosod Rheoliadau 2020 gerbron y Senedd heddiw. Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y Rheoliadau hyn, a drefnwyd ar gyfer 20 Hydref 2020.

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig i’r Cabinet a gyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2020, er fy mod yn awyddus i’r mesurau yn Neddf 2017 a Rheoliadau 2020 fod ar waith, esboniais fy mod yn deall bod eu llwyddiant yn dibynnu ar ymdrechion rhanddeiliaid allweddol. Mae swyddogion wedi cynnal cyfnod ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall eu safbwyntiau ar gyflwyno gofynion y ddeddfwriaeth a’r hyn y byddai ei angen arnynt i gefnogi eu gweithredu. Rwy’n ddiolchgar i’r holl randdeiliaid a gymerodd ran yn y broses hon. Rwyf wedi fy nghalonogi hefyd gan y gefnogaeth a fynegwyd a’r safbwyntiau a roddwyd ynghylch sut y gellir manteisio i’r eithaf ar y mesurau. Yn seiliedig ar yr adborth hwn ac er mwyn rhoi amser digonol i randdeiliaid baratoi ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth penderfynais ddod â’r drefn ddi-fwg newydd i rym ar 1 Mawrth 2021, yn amodol ar gytundeb y Senedd ar Reoliadau 2020. Mae fy swyddogion yn datblygu manylion y pecyn gweithredu, gan gynnwys dogfennau canllawiau, a byddant yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid yn ystod y broses hon. Os hoffai Aelodau neu randdeiliaid gael rhagor o wybodaeth am y broses hon neu ynghylch ei gweithredu, cysylltwch â: PolisiTybaco@llyw.cymru.

https://senedd.wales/laid%20documents/sub-ld13531-em/sub-ld13531-em-w.pdf

https://senedd.wales/laid%20documents/sub-ld13531/sub-ld13531-w.pdf