Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Prif Weinidog gynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru "Symud Cymru Ymlaen" yn ddiweddar. Roedd y cynllun yn cynnwys dau ymrwymiad pwysig mewn perthynas ag awdurdodau lleol sy'n codi tâl am ofal cymdeithasol.Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn i roi gwybod i’r Aelodau sut y bydd yr ymrwymiadau  hyn yn cael eu rhoi ar waith.

Yr ymrwymiad cyntaf oedd cynyddu'r terfyn cyfalaf gaiff ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol sy'n codi tâl am ofal preswyl o £24,000 i £50,000. Diben y terfyn cyfalaf yw pennu p'un a fydd unigolyn yn talu am gost lawn ei ofal preswyl eu hun, neu a fydd yn cael cymorth ariannol tuag at y gost gan ei awdurdod lleol. Drwy godi'r terfyn, bydd pobl mewn gofal preswyl yn cael cadw mwy o'u harian i'w ddefnyddio fel y mynnan nhw. Mae hyd at 4,000 o breswylwyr mewn cartrefi gofal yn talu am gost lawn eu gofal. Gallai hyd at 1,000 ohonyn nhw elwa ar y penderfyniad hwn i godi'r terfyn i £50,000, a hynny'n ddibynnol ar faint o gyfalaf sydd ganddyn nhw.

Yr ail ymrwymiad oedd diystyru'r Pensiwn Anabledd Rhyfel yn gyfan gwbl wrth wneud asesiadau ariannol i godi tâl am ofal cymdeithasol. Ar hyn o bryd, dim ond y £25 cyntaf o'r Pensiwn Anabledd Rhyfel bob wythnos gaiff ei ddiystyru. Bydd y newid hwn yn sicrhau na fydd cyn-filwyr y lluoedd arfog yn gorfod defnyddio'r arian hwn i dalu am gost eu gofal. Mae tua 6,500 o unigolion yn cael y pensiwn hwn yng Nghymru, a tua 150 o'r rhain yn cael gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.

I wneud yn siŵr ein bod yn mabwysiadu'r dull mwyaf priodol o roi'r ymrwymiadau hyn ar waith, rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â rhai sy’n cynrychioli rhanddeiliaid dros yr wythnosau diwethaf. Prif ddiben hyn oedd sicrhau ein bod yn gwbl ymwybodol o'r agweddau ymarferol ar roi'r ymrwymiadau hyn ar waith ynghyd â sut y byddai’r rhanddeiliaid yn hoffi eu gweld yn cael eu cyflwyno. Yn ogystal â hyn, fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil annibynnol i asesu cost y gwahanol ffyrdd posib o roi'r ymrwymiadau ar waith.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, gallaf gadarnhau y bydd y terfyn yn cael ei godi i £30,000 o'r flwyddyn ariannol nesaf ymlaen. Dyma gam cyntaf cadarnhaol ymlaen yn y daith i gyrraedd y terfyn o £50,000. Mae'r penderfyniad hwn yn rhoi ystyriaeth i farn y rhanddeiliaid, sef y byddai'n well ganddyn nhw weld y cynnydd yn digwydd fesul tipyn fel y gellid mesur yr effaith o ddydd i ddydd ar yr awdurdodau lleol a'r darparwyr cartrefi gofal yn y flwyddyn gyntaf o roi'r ymrwymiad ar waith. Bydd y swm yn cael ei godi eto’n nes at y terfyn cyfalaf o £50,000 yn y dyfodol yn ddibynnol ar y profiad o'r cynnydd cyntaf hwn. Ar ben hyn, o'r flwyddyn ariannol nesaf ymlaen bydd y Pensiwn Anableddau Rhyfel yn cael ei ddiystyru'n llwyr ym mhob asesiad ariannol a wneir gan awdurdodau lleol i godi tâl am ofal cymdeithasol, felly byddwn yn rhoi’r ymrwymiad hwn ar waith yn llawn. Nid oedd y rhanddeiliaid yn gweld rheswm dros beidio â chyflwyno'r newid yn llawn o'r dyddiad hwn ymlaen.

I gefnogi'r newidiadau hyn, rydyn ni’n bwriadu ymdrin â’r costau perthnasol yng nghyllideb ddrafft 2017-18 fydd yn cael ei chyhoeddi cyn hir. Y costau hyn yw'r rhai a nodwyd gan y prosiect ymchwil annibynnol y cyfeirir ato uchod. Dylai'r Aelodau nodi y bydd copi o'r ymchwil hwn i’w weld ar adran talu am ofal gwefan Llywodraeth Cymru maes o law.

Bydd swyddogion nawr yn cynnal trafodaethau manylach â rhanddeiliaid er mwyn strwythuro'r rheoliadau diwygio sydd eu hangen o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i roi'r newidiadau ar waith o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.