Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y tymor hwn byddwn yn dechrau ar flwyddyn olaf y cyfnod o weithredu'r system y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gam wrth gam. Dros y tair blynedd diwethaf mae partneriaid cyflenwi wedi gweithio'n anhygoel o galed i sefydlu systemau cymorth i ddysgwyr ag ADY a chreu cynlluniau datblygu unigol. Dyma fydd blwyddyn olaf y system Anghenion Addysgol Arbennig yr ydym yn gweithio'n galed i'w disodli, yn dilyn blynyddoedd lawer o ddatblygu a chydgynhyrchu.

Rwyf wedi clywed am yr heriau sy'n parhau i fodoli rwy'n benderfynol bod angen i ni gael system sy'n gweithio i bob dysgwr. Dyma'r amser i edrych yn ôl a chymryd camau pendant i ymgorffori'r gwelliannau angenrheidiol.

Rydym eisoes wedi cryfhau'r prosesau monitro a'r gefnogaeth ar gyfer gweithredu er mwyn deall yr heriau sy'n codi, gwella cysondeb wrth weithredu a chyd-gynhyrchu atebion gyda phartneriaid cyflawni a rhieni. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd gydag awdurdodau lleol bob tymor, yn ogystal â datblygu setiau data cenedlaethol newydd a systemau casglu data ym maes addysg, awdurdodau lleol ac iechyd. Bydd ail adolygiad thematig Estyn o weithredu'r diwygiadau ADY yn cyflwyno adroddiad yn ystod y gaeaf ac mae rhaglen werthuso gynhwysfawr eisoes ar y gweill. 

Rwyf am i'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ADY fod yn glir, yn gyson ac yn ddealladwy. Felly, mewn ymateb i dystiolaeth a phryderon bod rhai rhannau yn gymhleth ac yn aneglur, rydym bellach yn edrych yn fanwl ar y fframwaith deddfwriaethol ac mewn trafodaeth â phartneriaid cyflawni. Mae'r adolygiad yn ystyried eglurder a hygyrchedd y fframwaith deddfwriaethol ac yn casglu tystiolaeth o'r heriau ymarferol wrth weithredu'r system ADY.  Bydd hyn yn nodi'r camau nesaf i ddarparu mwy o eglurder er mwyn sicrhau cysondeb cynyddol yn y gwaith o gyflwyno'r system newydd. Yn y cyfamser, mae gwaith ar y gweill gydag awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i wella dealltwriaeth a sicrhau bod y rolau, y cyfrifoldebau a'r prosesau sydd yn y ddeddfwriaeth yn cael eu cymhwyso'n gyson. 

Rydym hefyd yn gwella gwaith amlasiantaethol mewn perthynas ag iechyd ac addysg. Mae'r heriau rhag cael mynediad at wasanaethau iechyd i bob dysgwyr yn rhai hirsefydlog ond mae gennym bellach y strwythurau ar waith i wneud newid go iawn. Mae grŵp cydweithio amlasiantaethol ADY yn ceisio gwella'r cydweithrediad rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg a darparu eglurder ynghylch beth yw darpariaeth ddysgu ychwanegol y GIG a datblygu dangosyddion perfformiad allweddol i fonitro amserlenni statudol a thynnu sylw at arferion effeithiol. 

Rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y gwaith o diwygio ADY; Yn ogystal â dros £107 miliwn o fuddsoddiad refeniw i helpu i weithredu diwygiadau ADY ers 2020, mae buddsoddiad cyfalaf o fwy na £170 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf wedi gwella cyfleusterau i ddysgwyr ag ADY. Dros y naw mlynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi dros £750 miliwn i wella cyfleusterau presennol a chreu darpariaeth arbenigol newydd, drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Mae rôl statudol newydd Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y broses o ddiwygio ADY mewn lleoliadau addysg ledled Cymru. Rwyf wedi croesawu argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r argymhellion sy'n ymwneud â chyflog CADY, gan gynnwys darparu £5 miliwn ychwanegol i'w fuddsoddi yn ein gweithlu CADY.

Rwyf wedi gweld cynnydd ac ymrwymiad anhygoel gan y gweithlu addysg, ac enghreifftiau o ysgolion yn rhoi anghenion pob plentyn yn gyntaf. Rydym yn rhannu arferion effeithiol drwy astudiaethau achos a fforymau cenedlaethol a byddwn yn cynnal digwyddiad cendlaethol ar arferion ADY effeithiol ym mis Chwefror. Bydd hyn yn meithrin cydweithio a rhannu gwybodaeth ymhlith partneriaid cyflawni allweddol, ac yn tynnu sylw at strategaethau llwyddiannus sy'n cael eu gweithredu gan ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol ledled Cymru. 

Rydym hefyd yn gweithio gyda grwpiau rhieni a'r trydydd sector i wella a darparu cyfathrebu clir a chyson, ac adolygu pa wybodaeth a chyfeirio sydd ar gael i rieni, plant a phobl ifanc.

Rwy'n benderfynol o sicrhau bod diwallu anghenion dysgwyr yn parhau i fod wrth wraidd ein diwygiadau addysg. Byddaf yn rhoi gwybod i'r Senedd am unrhyw ddatblygiadau.