Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet Dros Dai a Llywodraeth Leol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rydym wedi lansio ymgynghoriad ar y cyd â Llywodraeth y DU ar sut y dylid arfer pwerau i fynd i'r afael â'r defnydd o gomisiynau wrth drefnu yswiriant adeiladau ar gyfer adeiladau amlfeddiannaeth, y mae lesddeiliaid yn talu amdano.  Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o weithredu Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024.

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn cynnwys pwerau i fynd i'r afael â phryderon bod rhai lesddeiliaid yn gorfod talu costau trefnu yswiriant gan eu landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantau rheoli eiddo sy'n anhryloyw ac nad oes cyfiawnhad drostynt. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â'r mater hwn i sicrhau bod unrhyw gostau o'r fath yn deg ac yn dryloyw. Mae'r dull hwn ar y cyd yn unol â'r dull gweithredu a gymerwyd wrth ddatblygu'r Ddeddf ei hun. 

Mae'r ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos a bydd yn rhedeg tan 24 Chwefror 2025. Hoffwn annog lesddeiliaid sydd â diddordeb a rhanddeiliaid eraill i gymryd yr amser i drafod y cynigion pwysig hyn.