Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y gwaith o weithredu fesul cam Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (y Cod ADY) wedi’i gyhoeddi ym mis Mawrth, ynghyd â nifer o reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf. Ers hynny, ac mewn partneriaeth â’r Arweinwyr Trawsnewid a rhwydweithiau rhanddeiliaid eraill, rydym wedi parhau â gwaith i gefnogi dealltwriaeth a rennir o ddisgwyliadau a pharodrwydd ar gyfer gweithredu’r system ADY newydd.

Er y cydnabyddir bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud, a bod y cyllid ychwanegol gan y llywodraeth wedi’i groesawu, mae wedi dod yn amlwg drwy’r trafodaethau hyn na ellir anwybyddu effaith y pandemig. Y neges sy’n cael ei rhannu’n gyson yw’r angen am ragor o le ac amser i reoli a chynllunio ar gyfer agweddau ar y rhaglen ddiwygio bwysig hon, ochr yn ochr â’r gyfres newydd o ddisgwyliadau ar gyfer lleoliadau addysg o fis Medi ymlaen mewn perthynas â Covid.

Yn ei datganiad i’r Aelodau ar 2 Chwefror, nododd fy rhagflaenydd y byddem yn ystyried ailymweld â chynlluniau, pe byddai angen, i adlewyrchu effaith barhaus Covid-19 ac i leihau pwysau. Yn sgil trafodaeth â rhanddeiliaid, rwyf yn awr yn credu bod angen inni ailymweld â chynlluniau fel bod gan bob partner yr amser i gynllunio ar gyfer y trefniadau newydd a’u rhoi ar waith yn llwyddiannus er budd pennaf ein plant. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn.

Gyda hyn mewn cof, bydd y gwaith o weithredu’r system ADY ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn digwydd mewn trefn benodol. Mae hyn yn golygu y bydd plant sydd newydd gael eu hadnabod fel plant ag anghenion dysgu ychwanegol (hynny yw, y rhai sydd heb gael eu hadnabod eisoes fel plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA), neu rai nad ydynt yn aros am asesiad AAA nac wrthi’n ymgymryd ag asesiad o’r fath), yn parhau i symud i’r system ADY newydd o fis Medi 2021 ymlaen. Fodd bynnag, ar gyfer y plant hynny sy’n mynychu ysgol a gynhelir (gan gynnwys Uned Cyfeirio Disgyblion) ac sydd eisoes wedi’u hadnabod fel plant ag AAA drwy brosesau Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, bydd y system newydd yn gymwys o 1 Ionawr 2022 ymlaen, yn hytrach nag o 1 Medi 2021 ymlaen.

Rwy’n disgwyl y bydd y sector yn defnyddio’r cyfnod rhwng mis Medi a mis Ionawr er mwyn meddwl am y canllawiau, dechrau gwaith paratoi, a chyflwyno’r broses o drosglwyddo i’r trefniadau newydd i’r rhai sydd eisoes wedi’u hadnabod fel plant ag AAA drwy brosesau Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.

I gefnogi eu hymdrechion, byddwn yn cyhoeddi fersiwn dechnegol a fersiwn i ymarferwyr o’r canllawiau gweithredu, a fydd yn eu helpu i ddeall y prosesau a’r gofynion ar gyfer trosglwyddo i’r system newydd.

Bydd y deunyddiau hyn yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn ystod Tymor yr Hydref, ynghyd â chanllawiau ychwanegol ar gyfer rhieni a theuluoedd.