Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwyf fi, ynghyd â’m Gweinidogion cyfatebol ar draws pedair gwlad y DU, wedi cytuno i dderbyn a gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SaBTO) mewn perthynas â chyflwyno sgrinio serolegol cyffredinol i ganfod y feirws herpes sy’n gysylltiedig â sarcoma Kaposi (KSHV) mewn rhoddwyr organau sydd wedi marw.
Ers 2015, mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG wedi ymchwilio i nifer o ddigwyddiadau wedi i glefyd KSHV ddatblygu yn y rhai a oedd wedi cael trawsblaniadau organau solet yn y DU. Gelwir KSHV hefyd yn haint y feirws herpes dynol math 8 (HHV-8). Haint asymptomatig yw hwn gan mwyaf, sy’n gallu datblygu’n heintiau a chlefydau amrywiol eraill mewn cleifion.
Er nad yw nifer gwirioneddol yr achosion o haint KSHV sy’n deillio o roddwyr organau neu a gafwyd yn fuan ar ôl trawsblannu yn hysbys, mae difrifoldeb y clefyd a ddisgrifiwyd dros y blynyddoedd wedi dangos bod angen gweithredu.
Rwyf wedi cyfarwyddo Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG i weithredu profion HHV-8 ar bob rhoddwr organau sydd wedi marw. Bydd y costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r profion hyn yn cael eu talu o’i ddyraniad cyllid. Rwy’n disgwyl i brofion gael eu cyflwyno cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl, ac rwy’n deall bod gwaith paratoi wedi dechrau eisoes yn y cyswllt hwnnw.
Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar osgoi marwolaethau ymysg y rhai sydd wedi cael trawsblaniad a gaiff eu hachosi gan heintiau KSHV neu HHV-8 cychwynnol sy’n deillio o roddwyr organau; a gwella diogelwch trawsblannu organau yng Nghymru a gweddill y DU.
Mae’r gwelliannau hyn hefyd yn cyd-fynd â’r nodau a amlinellir yn Organ Donation and Transplantation 2030: Meeting the Need (Saesneg yn Unig), sy’n cyflwyno gweledigaeth 10 mlynedd ynghylch rhoi a thrawsblannu organau yn y DU.