Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Gofynnod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol i Stephen Palmer, a oedd yn Athro Empidemioleg a Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd bryd hynny, gynnal adolygiad annibynnol o'r defnydd a wneir o'r Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) i asesu ansawdd gofal yn ysbytai Cymru. Yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014, daeth yr Athro Palmer i'r casgliad nad yw data RAMI yn ddull mesur dibynadwy ac y gallai dynnu sylw oddi wrth ddulliau mwy ystyrlon o fesur a gwella gofal mewn ysbytai. Argymhellodd yr Athro Palmer y dylai byrddau iechyd ddefnyddio ystod ehangach o ddangosyddion perfformiad a metrigau ac, yn benodol, y dylent ddefnyddio canfyddiadau archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygiadau nodiadau achosion marwolaethau.
Cyhoeddodd y Llywodraeth flaenorol Cymru ddatganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill. Roedd y datganiad yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran ymgorffori argymhellion adolygiad Palmer. Roedd pob bwrdd iechyd yn dangos lefel dda o gyfranogiad mewn archwiliadau clinigol cenedlaethol. Mae ganddynt systemau ar waith i adolygu pob marwolaeth mewn ysbytai aciwt ac maent yn defnyddio'r wybodaeth hon fel mater o drefn ochr yn ochr â set o fetrigau ansawdd a diogelwch, gan gynnwys dangosyddion marwolaethau ar gyfer cyflyrau penodol. Byddant yn adrodd yr wybodaeth hon yn ôl i'w Byrddau fel mater o drefn.
Gall y GIG ddangos yn glir ei fod wedi gweithredu'r ystod o gamau a argymhellodd yr Athro Palmer a bod y rhain bellach wedi'u hymgorffori yn fframwaith cyflawni a fframwaith canlyniadau cyffredinol y GIG. O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu ei bod nawr yn briodol rhoi'r gorau i gyhoeddi dangosyddion RAMI ar gyfer ysbytai Cymru yn chwarterol. Bydd hyn yn cael effaith ar unwaith.