Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Rwy’n falch o gyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n nodi dechrau rhaglen genedlaethol newydd i gefnogi’r broses o bontio tuag at ffordd wyrddach o fyw. Mae Gweithredu ar Newid Hinsawdd – Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd (2023-26), ac wedi’i chynllunio er mwyn gwneud dewisiadau gwyrddach yn fwy fforddiadwy ac yn fwy hwylus, ac mae’n dilyn yr egwyddor graidd na ddylid gadael unrhyw un ar ôl.
Cafodd ei llunio gan waith ymgysylltu ac ymgynghori dwys â phartneriaid darparu cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â phobl a chymunedau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd. Mae adroddiad sy’n crynhoi canlyniadau’r ymgynghoriad, a digwyddiadau a gynhaliwyd i drafod y strategaeth yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 ar gael yma. Yn ogystal â nodi sut y bydd y rhaglen yn cael ei chyflawni ar y cyd ag eraill, mae’r strategaeth hon yn darparu sbardun ar gyfer cyfres o gamau gweithredu ac ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y strategaeth ei datblygu mewn ymateb i’r ymrwymiad (Polisi 16) yn Cymru Sero Net (ein cynllun lleihau allyriadau presennol) a amlygodd y ffaith y bydd cyflawni Sero Net erbyn 2050 yn golygu y bydd angen i’r cyhoedd chwarae mwy o ran er mwyn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau lleihau allyriadau. Croesawodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd y strategaeth newydd yn ei Adroddiad Cynnydd ar gyfer mis Mehefin 2023: Lleihau Allyriadau yng Nghymru, sydd yn cydnabod bod Cymru gam o flaen y DU o ran cynnydd yn y maes hwn.
Bydd y pwyslais ar ein helpu ni i gyd i wneud dewisiadau sy’n gallu lleihau allyriadau carbon, gan ddechrau gyda defnyddio llai, ail-ddefnyddio, trwsio, ac ailgylchu mwy; lleihau gwastraff bwyd, prynu’r hyn rydym ei angen yn unig, lleihau defnydd o ynni yn y cartref a phan fo modd, beicio a cherdded mwy.
Bydd y gwaith cyfathrebu hefyd yn canolbwyntio ar negeseuon mewn meysydd lle y gwyddom fod rhwystrau o ran gweithredu yn gyffredinol uwch oherwydd cost, cyfleustra neu argaeledd. Mae’r rhain yn cynnwys siopa’n gynaliadwy, bwyta’n iach a gwneud dewisiadau bwyta cynaliadwy, addasu’n cartrefi ar gyfer gwell effeithlonrwydd ynni, gyrru llai, teithio llesol a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu ddefnyddio cerbydau trydan.
Bydd ffocws hefyd ar addasu ein cartrefi a’n cymunedau i effeithiau newid hinsawdd, mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth, gwneud y defnydd mwyaf posibl o adnoddau a deunyddiau, hyrwyddo ansawdd aer, tir a dŵr glanach, rheoli sŵn, a hyrwyddo addysg, sgiliau a gyrfaoedd gwyrdd.
Bydd y rhaglen yn cynnwys dwy agwedd o ymgysylltu â’r cyhoedd:
- Cyfathrebu â phobl yn ystod y broses o wneud penderfyniadau (gan gynnwys llunio polisïau) ynglŷn â sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
- Cyfathrebu â phobl o ran y camau gweithredu sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy ymgyrch genedlaethol newydd a gwefan sydd i gael ei lansio’n fuan.
Bydd ymgyrch gyfathrebu genedlaethol yn darparu negeseuon er mwyn helpu i wrthdroi camwybodaeth ac arddangos sut y gall pob unigolyn a phob cymuned fod yn rhan o’r datrysiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ond nid cyfathrebu’n unig yw diben y rhaglen hon.
Os ydym am gyrraedd ein targedau lleihau allyriadau, mae’n rhaid i’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus a busnesau weithredu. Mae’n rhaid inni weithio hefyd gyda phobl a chymunedau er mwyn darparu atebion gwyrdd o ran y ffordd yr ydym yn teithio, yn cynhesu ein cartrefi, ein dietau a’n dewisiadau defnydd, a sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni polisïau a datrysiadau seilwaith yn gyflym er mwyn helpu’r cyhoedd i wneud eu dewisiadau eu hunain.
Mae’r rhaglen newydd hon yn darparu canolbwynt ar gyfer bwrw ati i weithredu ar y cyd sydd ei angen er mwyn helpu pawb i fyw bywydau mwy cynaliadwy.
Nid oes gan bawb yr un faint o adnoddau na chyfleoedd i wneud dewisiadau gwyrdd, felly rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn rhoi’r cymorth lle y mae ei angen fwyaf er mwyn helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach.