Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddoe, cyhoeddais fframwaith newydd – 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', sy'n disodli'r ddogfen flaenorol 'Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol', a gyhoeddwyd yn 2013.

Lluniwyd y fframwaith newydd hwn yn dilyn proses ymgysylltu â phobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli.  Atgyfnerthwyd y fframwaith ymhellach gan waith ymgynghori a wnaed ar ddiwedd 2018.

Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb fel rhan o'm portffolio, rwy'n ymrwymedig i weld pobl anabl yn cyflawni eu potensial i byw'r bywydau y maent am eu byw. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni weithio er mwyn dileu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud hynny, nid yn unig y rhwystrau ffisegol mewn adeiladau, trefi ac ardaloedd o gefn gwlad, ond hefyd yr anawsterau a'r problemau sy'n deillio o strwythurau, polisïau sefydliadau, ac agweddau pobl.

Mae'r fframwaith hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau gwell cydraddoldeb yng Nghymru. Mae pobl anabl wedi dweud wrthym ei bod yn hanfodol gweithredu ar lefel leol, felly cynlluniwyd y fframwaith i annog gwasanaethau cyhoeddus, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel yng Nghymru i ystyried yr ymrwymiadau ac i weithredu.

Mae strwythur y fframwaith hwn yn newydd. Mae'r brif ddogfen yn nodi'r egwyddorion, y cyd-destun cyfreithiol a'r ymrwymiadau sy'n sail i'n holl waith gyda phobl anabl ac i bobl anabl. Mae'n nodi sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, a hefyd yn tynnu sylw at rôl deddfwriaeth allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Mae'r 'Model Cymdeithasol o Anabledd', sy'n cydnabod yr angen i drawsnewid cymdeithas, gan ddileu rhwystrau er mwyn sicrhau y gall pobl anabl gymryd rhan lawn yn y gymdeithas honno, yn sail i'r fframwaith cyfan.   Ategir y fframwaith gan Gynllun Gweithredu sy'n nodi'r prif gamau gweithredu sydd ar waith neu a gaiff eu harwain gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac fe'i dyluniwyd er mwyn gallu ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn adlewyrchu amgylchiadau newidiol a datblygiadau newydd.

Helpu pobl i fyw eu bywyd fel y mynnont yw'r peth iawn i'w wneud. Cymeradwyaf y fframwaith hwn er mwyn annog camau gweithredu o dan arweiniad pobl anabl ledled Cymru gyfan.

Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw’n annibynnol – fframwaith a chynllun gweithredu