Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn dilyn fy natganiad llafar i Aelodau ar 5 a'r 12 Tachwedd, rwy'n rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch purfa MURCO a'r gwaith sy'n cael ei gydlynu gan weithlu MURCO.
Ar 4 Tachwedd, yn dilyn ymdrechion gan Murphy Oil Corporation i werthu'r burfa yn Aberdaugleddau, cymerodd Fwrdd Murphy y penderfyniad i gau'r burfa a newid y safle'n storfa olew wrth geisio gwerthu'r storfa i drydydd parti. Mae fy swyddogion yn parhau i gynorthwyo'r cwmni i ddod o hyd i brynwr ar gyfer y safle a cheisio diogelu swyddi yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â chyfleusterau'r storfa.
Yn gynharach heddiw, roeddwn yn cadeirio'r cyfarfod wythnosol o weithlu MURCO. Mae gan y gweithlu uwch o dan Gadeiryddiaeth Roger Evans MBE, un nod amlwg, sef canolbwyntio ar gymorth i'r rhai yr effeithir arnynt o ganlyniad i gau'r burfa, ac i ddarparu cyfres o ymyriadau i gefnogi twf economaidd yr ardal.
Roedd cyfarfod heddiw yn gynhyrchiol iawn, a dros yr wythnosau nesaf, mae'r tasglu wedi canolbwyntio ar yr ymateb cynnar: cydlynu rhaglen o gymorth i unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol oherwydd cau'r safle.
Daw'r cymorth ar gyfer yr unigolion hyn drwy Ganolfan Adnoddau MURCO ar y safle, a agorodd ar 10 Tachwedd, ac sy'n cynnig cyfleuster galw i mewn i weithwyr i gael cyngor a chefnogaeth i ddod o hyd i swydd arall.
Cynhaliwyd digwyddiadau gwybodaeth i weithwyr a chontractwyr hefyd yng Nghanolfan Arloesedd y Bont dros yr wythnosau nesaf, gyda chynrychiolaeth gan nifer fawr o sefydliadau, ble y mae ymwelwyr wedi elwa o gyngor am yrfaoedd, cyfleoedd i hyfforddi, hunangyflogaeth, cyllidebu a rheoli dyled. Byddwn yn parhau i roi cyngor a chymorth i'r gweithlu drwy ein partneriaid cyflenwi, ac yn ymestyn y cymorth hwnnw i rwydwaith y contractwr.
Ar 9 Rhagfyr, byddwn yn cynnal y cyntaf mewn rhaglen o ddigwyddiadau i roi cyngor a chymorth busnes i'r rhwydwaith ehangach o gontractwyr. Cynhelir y digwyddiad yn y Ganolfan Arloesedd, a bydd yn sicrhau fod gan bawb yr effeithir arnynt yn Sir Benfro yr hyn sydd ei angen arnynt i sefydlu, datblygu neu arallgyfeirio eu busnes.
Ar 10 Rhagfyr, cynhelir ffair swyddi yn y Ganolfan Arloesedd, fydd yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr lleol a chyflogwyr ledled Cymru sydd am recriwtio o'r gweithlu dawnus. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r busnesau a'r sefydliadau hynny sydd wedi gweithio gyda'r tasglu i nodi oddeutu 1000+ o swyddi gwag â sgiliau, ac sy'n cymeryd rhan yn y ffair swyddi yr wythnos nesaf.
Bydd y tasglu yn cydlynu rhaglen arall o ddigwyddiadau sydd wedi'u teilwra'n arbennig yn y Flwyddyn Newydd, wedi'u llywio gan y profiad a'r adborth o ddigwyddiadau Rhagfyr.
Cyn y digwyddiadau hyn, mae'r £3 miliwn yr wyf wedi sicrhau sydd ar gael drwy Gronfa Twf Economaidd Cymru i unigolion a busnesau yn Sir Benfro a'r ardal gyfagos i greu a diogelu swyddi yn Sir Benfro yn cael ei lansio, i sicrhau fod cyngor a chymorth i bawb cyn agor am ddatganiadau o ddiddordeb ar 15 Rhagfyr. Bydd y gronfa yn cau am geisiadau ar 23 Chwefror. Mae'r gronfa honno ochr yn ochr â'r gronfa grant cyfalaf o £500,000 yr wyf wedi'i chyhoeddi i gefnogi cwmnïau bach a bach iawn i sicrhau fod cymaint â phosib o gyfleoedd am waith a thwf yn yr ardal, ac sydd ar agor ac a fydd yn parhau ar agor hyd ddiwedd Ionawr. Bydd llinell gymorth yn cael ei sefydlu i roi cyngor a chefnogaeth i fusnesau ar gael mynediad i Gronfa Twf Economaidd Cymru, a bydd Busnes Cymru yn parhau i ddarparu rhagor o gyngor a chymorth drwy gael mwy o bresenoldeb yn lleol.
Rydym yn parhau i roi cymorth i'r rhai hynny sy'n wynebu diswyddiadau, gyda chymorth drwy ein rhaglenni React, ac mae is-grŵp y tasglu wedi'i sefydlu i roi cyngor i mi ar ddefnyddio cynlluniau eraill megis Proact, sydd wedi'i ddefnyddio'n effeithiol iawn yn y gorffennol, a byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau yn ei gylch.
Rwyf wedi cyhoeddi mesurau penodol i wella seilwaith yn yr ardal, gan gynnwys sicrhau gwelliannau i'r A40 ac i'r band eang Cyflym iawn, a byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y gweithgareddau hynny maes o law.
Mae Mr Stan McIlvenny OBE, fel Cadeirydd newydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Daugleddau a Roger Evans hefyd wedi cael trafodaethau cynnar ar gwmpas yr Ardal Fenter a'r cyfleoedd y gall eu cynnig yng ngoleuni'r cyhoeddiad, a byddaf hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau maes o law, unwaith y byddaf wedi ystyried eu cyngor.
Fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r gweithlu a'r rhai sy'n rhan o'r economi leol yn Sir Benfro, ac rwy'n ddiolchgar am y cymorth trawsbleidiol ar gyfer ein mesurau. Gallaf sicrhau Aelodau ein bod yn parhau i weithio'n ddi-flino i edrych ar bob ffordd o wneud y gorau o gyfleoedd economaidd.