Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym heddiw wedi cyhoeddi ymgyngoriad ar gynnig y dylai gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl Pen-y-bont ar Ogwr gael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn hytrach na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac y dylid symud y ffin rhwng y byrddau iechyd yn unol â hynny.

Diben y newid arfaethedig yw sicrhau proses fwy effeithiol o weithio mewn partneriaeth ac o wneud penderfyniadau drwy ardal y De, fel rhan o’r uchelgais ehangach ar gyfer diwygio llwyodraeth leol a’r partneriaethau iechyd rhanbarthol sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Y nod wrth ddiwygio llywodraeth leol yw gwneud llywodraeth leol yn fwy effeithiol a chadarn drwy weithio’n agosach yn rhanbarthol ac yn strategol. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r un awdurdodau lleol ar weithgarwch economaidd, gwasanaethau iechyd a swyddogaethau eraill awdurdodau lleol. Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn y De-ddwyrain wrth hybu gweithgarwch economaidd, ond yn gorfod gweithio gydag awdurdodau lleol yn y De-orllewin yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd.  

Pe bai’r newid yn cael ei roi ar waith, byddai’n sicrhau na fyddai Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr o dan anfantais o orfod gweithio ar draws dau batrwm daearyddol strategol. Byddai’n golygu bod trefniadau’r cyngor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn cyfateb yn fras i drefniadau partneriaeth holl awdurdodau lleol eraill Cymru.

Disgwylir y bydd trefniadau mwy cydlynus ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a gweithio’n rhanbarthol yn sicrhau canlyniadau gwell i bobl a chymunedau ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a’r awdurdodau sy’n bartneriaid iddo.

Mae’r ymgynghoriad ar gael yn: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/newid-arfaethedig-i-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr a bydd yn cau ar 7 Mawrth 2018.