Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Ar 7 Chwefror, cyhoeddais adolygiad i'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i greu cymunedau mwy diogel yng Nghymru. Byddaf yn sefydlu Grŵp Goruchwylio i adolygu'r trefniadau presennol ac i ddatblygu gweledigaeth uchelgeisiol ar y cyd er mwyn i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol.
Diben y grŵp yw sicrhau bod adolygiad safonol yn seiliedig ar ymchwil yn cael ei gynnal yn dilyn cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Diogelwch Cymunedol yng Nghymru. Y bwriad yn rhannol fydd mynd i’r afael â materion a godwyd yn y ddogfen honno. Er hynny mae cylch gorchwyl yr adolygiad a’r grŵp yn ehangach na hynny a bydd yn edrych ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru weithio gyda’i gilydd i helpu i wneud ein cymunedau yn fwy diogel ac i ddatblygu gweledigaeth uchelgeisiol gytûn a fydd yn sail i sefydliadau weithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd.
Bydd y Grŵp Goruchwylio yn cynnwys y partneriaid a'r asiantaethau allweddol - rhai datganoledig a rhai nad ydynt wedi'u datganoli - sy'n gyfrifol am roi'r arweiniad gweledol ac effeithiol sydd ei angen i sicrhau bod partneriaid yn cydweithio mewn ffordd gynaliadwy ar draws Cymru i sicrhau diogelwch cymunedol.
Rwyf am i’r adolygiad gynnwys syniadau uchelgeisiol, a datblygu gweledigaeth glir ar gyfer diogelwch cymunedol a fydd yn gynaliadwy yn yr hirdymor, yn ogystal â bod yn gadarn, yn berthnasol ac yn ymatebol.
Mae bron i 20 mlynedd ers i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 gael ei chyflwyno, a oedd yn ddeddf arloesol ar y pryd. Ynddi, pennwyd gofyniad statudol i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth i wella diogelwch cymunedol. Nawr, mae gennym gyfle newydd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i bennu dull cynaliadwy o weithio mewn partneriaeth yng Nghymru, a fydd yn creu cymunedau mwy diogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd yr adolygiad yn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa well - drwy gydweithio ag asiantaethau a phartneriaid nad ydynt wedi'u datganoli a thrwy'r amcanion llesiant a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Rhaglen Lywodraethu Symud Cymru Ymlaen - i roi arweiniad effeithiol i'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru sy'n helpu i greu cymunedau mwy diogel.
Bydd yr adolygiad yn ceisio:
• Pennu gweledigaeth ar gyfer diogelwch cymunedol yng Nghymru y gall pawb sydd ynghlwm ei deall, ei rhannu ac adeiladu arni yn rhan o’u cynlluniau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol;
• Sicrhau bod dull cynaliadwy o weithio mewn partneriaeth yng Nghymru yn cael ei ddatblygu drwy gasglu a dadansoddi tystiolaeth gan gynnwys tystiolaeth ar lefel y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ynghylch yr hyn sy’n gweithio;
• Deall, diffinio ac egluro rolau arweiniol y rhanddeiliaid, gan gynnwys rôl Llywodraeth Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Awdurdodau Lleol ac Adrannau Whitehall;
• Creu arweinyddiaeth sy’n gryfach, yn fwy effeithiol ac yn fwy atebol ymhlith pob asiantaeth a sefydliad;
• Adlewyrchu’r eglurder newydd mewn perthynas ag arweinyddiaeth drwy symleiddio'r drefn lywodraethol bresennol er mwyn gwella atebolrwydd, gan roi ffocws newydd er mwyn osgoi dyblygu a drysu;
• Gwireddu’r amcanion llesiant a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Rhaglen Lywodraethu Symud Cymru Ymlaen; a
• Sicrhau bod y cyfan yn cael ei gyflawni yn unol â Rhaglen Lywodraethu Symud Cymru Ymlaen.
Bydd cwmpas yr adolygiad yn ystyried y cyd-destun gwleidyddol a pholisi ehangach gan gynnwys:
• Deddfwriaeth y DU a Chymru, a ph'un a oes angen diwygio pellach, gan gynnwys cyfleoedd sy'n deillio o Ddeddf Cymru 2017;
• Polisïau'r DU, er enghraifft diwygio carchardai a datblygiadau mewn cyfiawnder ieuenctid a chydlyniant cymunedol ac o gwmpas Comisiynwyr Heddlu a Throseddu etc;
• Y broses cynllunio sengl drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
• Yr agweddau sy’n dibynnu ar ei gilydd ymhlith cyfrifoldebau datganoledig a'r rhai nad ydynt wedi'u datganoli (gan gynnwys Comisiynwyr Heddlu a Throseddu) ac edrych ar y posibilrwydd o’u halinio’n well;
• Cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ac yn arbennig darparu gwasanaethau yn rhanbarthol.
Nid yw'n fwriad gen i i greu grŵp a fydd ddim ond yn trafod y materion, ond yn hytrach un a fydd yn cynnig arbenigedd go iawn yn y maes ac a fydd â'r hygrededd i wneud newidiadau go iawn. Bydd y Grŵp Goruchwylio yn cael ei symleiddio a bydd yn cynnwys nifer bach o gynrychiolwyr o'r gwasanaethau allweddol sef llywodraeth leol, gwasanaethau tân ac achub, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, penaethiaid yr heddlu, gwasanaethau prawf a charchardai, Cyfiawnder Cymunedol Cymru ac Adrannau Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, bydd yr adolygiad ei hun mor gynhwysol â phosibl.
Rwy'n rhagweld y bydd cyfarfod cyntaf y Grŵp Goruchwylio yn cael ei gynnal ddechrau mis Mawrth, gyda’r cylch gorchwyl a'r cwestiynau i'w holi i randdeiliaid yn cael eu cyhoeddi yn fuan wedi hynny yn ystod ymgynghoriad yn yr haf, pan fydd tystiolaeth, ymchwil a safbwyntiau hefyd yn cael eu casglu.
Tra bydd y Grŵp Goruchwylio yn gweithio ar ddatblygu gweledigaeth ar gyfer diogelwch cymunedol yng Nghymru, nid oes reswm dros laesu dwylo â’r gwaith yn lleol yn y cyfamser. Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi dangos awydd cryf i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’u partneriaid lleol i ailwampio’r modd y caiff diogelwch cymunedol ei sicrhau o fewn ardaloedd eu heddluoedd.
Mae’n dda gen i gefnogi ymrwymiad pob Comisiynydd i weithio gyda’r Prif Gwnstabl a’r awdurdodau lleol i adfywio gwaith diogelwch cymunedol yn eu hardaloedd. Byddwn yn annog pob sefydliad i fynd ati i weithio gyda hwy ar yr agenda yma. Bydd yr hyn a wneir ar lawr gwlad yn sail i waith y Grŵp Goruchwylio ac yn cyfrannu at y gwaith uchelgeisiol rydw i’n ei hyrwyddo.
Fy mwriad yw cyhoeddi'r canfyddiadau a'r argymhellion drafft ym mis Medi. Bydd hyn felly yn galluogi Llywodraeth Cymru i gynnal cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol, amlasiantaethol gyda rhanddeiliaid i brofi a chwblhau ein cydweledigaeth ar gyfer cymunedau mwy diogel i genedlaethau'r dyfodol cyn imi wneud Datganiad i'r Cynulliad yn yr Hydref, yn amlinellu'r ffordd ymlaen.
Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i ddatblygu cylch gorchwyl drafft ar gyfer y Grŵp Goruchwylio a'r adolygiad, ar y trywydd rwyf wedi'i amlinellu, ac i adnabod a chysylltu â'r ystod eang o randdeiliaid, rhwydweithiau a grwpiau, a fydd yn cael eu cynnwys mewn proses ymgynghori drwy raglen allgymorth helaeth yn ystod y misoedd nesaf.