Skip to main content

Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Wrth baratoi at gyfres o gyllidebau a fydd yn lleihau mewn termau real, aethom o’i chwmpas hi mewn modd sy’n unigryw i Gymru. Profwyd gwerth ein paratoadau yn barod. Credwn fod y toriadau sy’n deillio o lefel y DU yn mynd yn rhy bell a hynny’n rhy gyflym, ond rydym yn cyfrannu at leihau’r diffyg yng nghyllideb y DU. Mae ein cynlluniau cyllidebol yn adlewyrchu’r penderfyniadau anodd rydym wedi’u cymryd ac fe’u cefnogwyd gan amrywiaeth eang o bobl. Maent yn hyrwyddo blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad sef amddiffyn gwasanaethau rheng flaen ym meysydd iechyd, ysgolion a sgiliau, gwasanaethau cymdeithasol, swyddi a hyrwyddo’r adfywiad economaidd. Yn sail i’r cynlluniau hynny hefyd mae pwyslais cryf ar dystiolaeth ac ymrwymiad i gydweithio. 

Mae’r penderfyniadau a wnaethom yn ystod y flwyddyn bresennol hefyd wedi bod o gymorth i’n gosod ar seiliau cadarn. Er enghraifft, rwyf eisoes wedi cyhoeddi inni lwyddo, drwy reoli ariannol gofalus, i ganfod y £113.5 miliwn o refeniw yr oedd yn rhaid ei gwtogi eleni, heb dorri gwasanaethau, gan barhau i gynnal ein cyllideb gyfalaf hefyd ar gyfer 2010/11.

Mae sawl gwedd i’r hyn a wnaethom hyd yn hyn ac mae hynny’n dangos pa mor gymhleth yw’r heriau a wynebwn. Yn y tymor byr, mae’n hollbwysig gwneud popeth yn y modd mwyaf effeithlon posibl, drwy reoli ein cyllid cyhoeddus yn dynn, er mwyn ceisio osgoi toriadau mympwyol. Ond rydym yn gweithio yr un mor galed fel y gallwn, yn y tymor hwy, wynebu’r her o newid a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus fel y byddant yn well, yn fwy cynaliadwy ac yn ymateb yn llawnach i anghenion pobl Cymru.

 

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hailwampio mewn modd sylfaenol ac mae’r gwaith o adolygu gwasanaethau naill ai’n digwydd ar hyn o bryd neu wedi ei gwblhau mewn gwasanaethau cymdeithasol, addysg, llywodraeth leol, y GIG yng Nghymru, adfywio economaidd a Chyrff a Noddir gan y Cynulliad ym maes yr amgylchedd. Rôl y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi, yr wyf i’n ei gadeirio, yw cefnogi’r adolygiadau hyn drwy ganolbwyntio ar ffyrdd trawsbynciol o arbed ar gostau a gwella gwasanaethau.

 

Trwy’r gyfres o Uwchgynadleddau Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd eleni a’r llynedd, gwelais drosof fy hun y cyd-ymrwymiad i weithio gyda’n gilydd er mwyn darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus. Mae dros 90 o arweinwyr ac uwch reolwyr o bob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus yn cyfrannu at yr agenda Effeithlonrwydd ac Arloesi a sicrhawyd momentwm cryf sydd yn helpu i sicrhau manteision gwirioneddol i’r gwasanaethau cyhoeddus.

 

Y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi oedd un o’r camau ffurfiol cyntaf a gymerwyd mewn unrhyw ran o’r DU i ymateb i’r heriau ariannol a wynebwn. Cafodd y Bwrdd ei lansio ar ddechrau 2010 ac mae’n gweithio er mwyn galluogi pethau i ddigwydd gan hybu enillion effeithlonrwydd ac arloesi mewn gwasanaethau. Drwy hyn cefnogir adolygiadau’r sectorau wrth i’w canfyddiadau ddod yn hysbys.

 

Er enghraifft:

  • Mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol a nifer o gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn rhan o raglen ‘cyfnewidcymru’. Bwriad y rhaglen hon yw symleiddio prosesau caffael. Ar sail y gwaith da hwn, cyhoeddodd y Tasglu Caffael Cydweithredol yn ddiweddar ei adolygiad ‘Prynu’n Gallach mewn Cyfnod Anoddach’ ac mae’r argymhellion yn awr yn cael eu dilyn, gan ganolbwyntio ar safoni, symleiddio a rhannu sgiliau a thechnoleg er mwyn cryfhau gallu.

  • Mae asedau’r sector cyhoeddus yn cael eu mapio’n drylwyr drwy gyfrwng cronfa ddata newydd o eiddo. O ddeall y sylfaen asedau bydd modd mynd ati’n fwy strategol i wneud defnydd o adeiladau’r sector cyhoeddus at y dyfodol, gan gynnwys cyd-leoli a chyfuno safleoedd. Yn yr un modd, yn sgil cyhoeddi Protocol Trosglwyddo Tir mae’r broses a fu gynt yn gymhleth a chostus pan fyddai ar gyrff cyhoeddus angen trosglwyddo neu gael gwared ar dir, bellach yn cael ei symleiddio a’i rhesymoli.

  • Mae gwahanol gyrff hefyd yn manteisio ar gyfleoedd sydd ar gael i Gymru gyfan ym maes TGCh, sef yr hyn a welir yn strategaeth TGCh y sector cyhoeddus, megis system band eang fwy effeithiol ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae dull mwy strategol hefyd yn cael ei ddatblygu i hyrwyddo mwy o gyfannu ar systemau, swyddogaethau a gweithgareddau TGCh, gan ddechrau gyda gohirio sefydlu canolfannau data newydd.

Rydym yn cefnogi ymdrechion i symleiddio a rhesymoli prosesau busnes yn y gwasanaethau cyhoeddus, gan adeiladu ar lawer o’r arferion da sy’n digwydd yn barod ledled Cymru er mwyn gwella effeithlonrwydd a sicrhau, os gwelir unrhyw wastraff, fod hwnnw’n cael ei ddileu.

 

Er mwyn gwneud ein gwasanaethau corfforaethol yn fwy effeithiol ac effeithlon a chefnogi’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau, mae’r gwaith newydd ddechrau ar gynllun peilot i rannu gwasanaethau yn y Gogledd. Yn y cynllun hwn fe ystyrir y perthnasau a’r cydweithio posibl rhwng llywodraeth leol, y GIG a’r heddlu.

 

Yn ogystal â chefnogi’r enillion effeithlonrwydd y gellir eu gwneud trwy wella prosesau busnes y gwasanaethau cyhoeddus, mae gwaith ar y gweill hefyd gyda rhanddeiliaid allanol i helpu’r gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni canlyniadau yn fwy effeithiol ar gyfer pobl, gan ganolbwyntio i ddechrau ar bedwar maes allweddol:

  • hyrwyddo annibyniaeth a lles poblogaeth sy’n heneiddio;

  • canfod gwell ffyrdd o wella’r cyfle y mae teuluoedd agored i niwed yn ei gael mewn bywyd;

  • sicrhau bod gennym lai o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; a

  • mynd i’r afael â cham-drin domestig.

Mewn cydweithrediad â phartneriaid, nod y gwaith hwn yw gweld beth sy’n gweithio orau, helpu cyrff i ddeall a dadansoddi manteision ariannol ymyrraeth gynnar yn y meysydd allweddol hyn, ac annog pawb i fabwysiadu’r arferion gorau. Mae ymchwil ar y ddau faes cyntaf a enwyd eisoes wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriedir cyhoeddi astudiaethau pellach yn y meysydd allweddol eraill yn y dyfodol.

 

Mewn cyfnod mor heriol, mae angen cefnogaeth ar yr arweinwyr eu hunain yn y gwasanaethau cyhoeddus fel y gallant reoli newid ymhlith holl weithlu’r gwasanaethau cyhoeddus. Hyd yn hyn, mae dros gant o arweinwyr eisoes wedi cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau gyda’r bwriad o ddysgu a datblygu, gan gynnwys seminarau arbenigol a chyrsiau rheoli newid.

 

Rydym yn gwerthfawrogi’r bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus ac rydym wedi buddsoddi ynddynt dros gyfnod maith. Maent yn cynnig sgiliau ac ymroddiad i helpu pobl Cymru, yn enwedig mewn cyfnod anodd fel hyn. Yn ystod taith ‘Mae’r Gymuned yn Cyfri’ yr haf diwethaf, cefais gyfle i gwrdd â llawer o wahanol staff o’r sector cyhoeddus a gwrando arnynt a gwelais ymrwymiad a brwdfrydedd gwych gan bawb. Bydd rhai o’r pethau a wnaethom gyda’n partneriaid, fel llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr awdurdodau lleol a Chyngres Undebau Llafur Cymru, yn fodd i helpu i warchod swyddi a gwasanaethau mewn llywodraeth leol.

 

Mae sefydliadau yn y gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio’n galed er mwyn dod i ben ar adeg pan fo’r adnoddau’n dynn, gan geisio osgoi diswyddiadau gorfodol. Gwneir hyn trwy gyfrwng gwell strategaethau recriwtio, hyfforddi a datblygu a thrwy gynlluniau i ddileu swyddi’n wirfoddol.

 

Er na wyddom eto faint yn union o swyddi fydd yn cael eu colli yn y sector cyhoeddus, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi’r rhai all fod ar y clwt. Cydnabu’r Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi hyn yn gynnar a than arweiniad y bwrdd fe ddatblygwyd ymateb arloesol o’r enw ‘Addasu’. Cynllun newydd yw hwn i helpu gweithwyr y sector cyhoeddus a gollodd eu swyddi i ddychwelyd at waith ac ennill sgiliau newydd i gael hyd i waith, gan adeiladu ar sail llwyddiant cynlluniau ProAct a ReAct sydd yn agored i’r sector preifat a’r trydydd sector ac sydd wedi helpu miloedd o bobl yn ystod y dirwasgiad. Mae hefyd yn cynnig cymhorthdal i gwmnïau sy’n cyflogi pobl nad oes gwaith ar eu cyfer mwyach.

 

Rydym wedi cydnabod y gall gweithio o fewn cyllideb lai olygu newidiadau pwysig yn y modd y mae’r rhai o’n partneriaid yn gweithio. Efallai y bydd angen buddsoddi’n benodol yn y tymor byr i reoli’r newid hwn. Dyna pam rydym wedi sefydlu pecyn gwerth £14 miliwn ar gyfer 2011/12  i gynorthwyo yn y cyfnod pontio, fel y gellir datblygu a chyflawni gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon ac effeithiol. Mae tua £5 miliwn eisoes wedi’i ddyrannu ar gyfer rhaglen ‘Addasu’.

 

Yn fwy diweddar hefyd, rwyf wedi cyhoeddi pedwerydd cylch y Gronfa ‘Buddsoddi i Arbed’. Ers ei sefydlu yn 2009, mae’r Gronfa eisoes wedi buddsoddi tua £37 miliwn mewn 42 o brosiectau. Bydd y cylch diweddaraf yn ailfuddsoddi’r £3.6 miliwn a gafwyd trwy arbedion a sicrhaodd prosiectau blaenorol.

 

Yn y Datganiad hwn, rwyf wedi rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaethom tuag at lunio ymateb Cymru i’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae’r ymateb yn seiliedig ar effeithlonrwydd ac arloesi, gan ganolbwyntio ar gynnal a gwella gwasanaethau. Yn fy Natganiad blaenorol y mis diwethaf ar y Gyllideb Derfynol, eglurais sut rydym yn gwarchod budd-daliadau cynhwysol a gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ein ffordd ni o fynd ati yw ceisio gwarchod y gwasanaethau cyhoeddus lle bynnag y bo’r modd heb wneud dim byd byrbwyll (a gorfod gwneud tro pedol wedyn) sef yr hyn a welsom yn digwydd mewn mannau eraill. Trwy warchod gwasanaethau yn y modd hwn, rwyf yn ffyddiog fod gennym rywbeth i’w gynnig i liniaru rhywfaint ar effeithiau gwaethaf y toriadau y bydd yn rhaid i Gymru eu hwynebu yn ei chyllideb. Ni all Cymru ddianc rhag y toriadau ac ni allwn addo dim, ond yma yng Nghymru rydym yn dilyn ein trywydd arbennig ni ac yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy gefnogi’r gwasanaethau cyhoeddus fel y byddant yn cydweithio mewn modd effeithlon ac effeithiol.

 

Rhannu’r dudalen hon