Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd yn dda gennyf gael y cyfle i gymryd rhan, a hefyd siarad, yn y Gynhadledd Lefel Uchel ar Degwch Iechyd a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn Ljubljana, Slovenia (11 Mehefin) a'i Bwyllgor Rhanbarthol ar gyfer Ewrop yn Copenhagen wedyn (16 Medi).

Roedd y digwyddiadau proffil uchel hyn yn canolbwyntio ar gynnig atebion i leihau anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau bod ystyriaethau tegwch iechyd yn ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau ar bolisïau cenedlaethol ar draws y gwahanol sectorau. Hefyd, roedd yn gyfle imi ddysgu o brofiadau gwledydd eraill a rhannu ein profiadau ni yma yng Nghymru â Gweinidogion Iechyd o bob rhan o Ewrop.

Yn ystod y gynhadledd yn Ljubljana, lansiwyd Pecyn Cymorth y WHO ar gyfer Polisïau Tegwch Iechyd yn Ewrop, sydd â'r nod o ddarparu atlas tegwch iechyd rhyngweithiol, yn ogystal â phecynnau cymorth eraill i helpu gwledydd i hyrwyddo tegwch iechyd o fewn eu cenhedloedd eu hunain. Mae'r pecyn yn amlygu tueddiadau mewn statws; yr amodau angenrheidiol; a'r camau gweithredu y mae'n rhaid eu cymryd i sicrhau tegwch o ran iechyd pobl. Mae'n cynnig pum amod ymarferol ar gyfer sicrhau tegwch o’r fath, sef:

  1. dylai pawb gael mynediad at wasanaethau iechyd fforddiadwy o safon
  2. sicrwydd incwm a diogelwch cymdeithasol
  3. ac amodau byw da a diogel
  4. a dylid adeiladu cyfalaf cymdeithasol a dynol
  5. sicrhau amodau gweithio a chyflogaeth dda

O ganlyniad i’r gynhadledd, cyhoeddwyd Datganiad Ljubljana ar degwch iechyd. 

Yn dilyn ei lwyddiant, gofynnwyd imi gyfrannu at drafodaeth ar degwch iechyd yn 69ain Pwyllgor Rhanbarthol Ewrop y WHO a gynhaliwyd yn Copenhagen (16 Medi), lle y mabwysiadwyd yn ffurfiol y penderfyniad i ‘gyflymu'r cynnydd tuag at sicrhau bod pawb yn cael bywyd iach a ffyniannus, gan wella tegwch o ran iechyd pobl, heb adael neb ar ôl yn Rhanbarth Ewrop y WHO’.

Mae egwyddorion y ddau ddatganiad hyn yn ategu'r camau yr ydym yn eu cymryd yma i wella tegwch o ran iechyd pobl Cymru, ac mae’r egwyddorion hefyd yn gydnaws â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Mae swyddfa ranbarthol y WHO wedi cyhoeddi ei hadroddiad ar Statws Tegwch Iechyd (HESR), sef adolygiad cynhwysfawr o statws a thueddiadau ym maes anghydraddoldebau iechyd, gan nodi'r amodau sy'n hanfodol er mwyn i bawb allu cael bywyd iach yn Rhanbarth Ewrop y WHO. Yn ystod y ddau ymweliad, cefais y cyfle i drafod ag uwch swyddogion y WHO, sut y gallai Cymru fod yn un o'r cenhedloedd cyntaf i gynhyrchu ei hadroddiad ei hun ar Statws Tegwch Iechyd (HESR), er mwyn rhannu'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu ynglŷn â datblygu atebion ar lefel leol, genedlaethol, ac Ewropeaidd wrth fynd ati i sicrhau iechyd, llesiant a ffyniant i bawb. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith yn y maes cyffrous hwn, a byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am unrhyw ddatblygiadau i'r Aelodau maes o law.