Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y broses o sefydlu Gweithgor dan gadeiryddiaeth annibynnol. Bwriad y gweithgor yw datblygu agenda gyffredin ar gyfer diwygio i ddarparu'r llywodraeth leol gref sy'n hanfodol er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus integredig o ansawdd da i gymunedau ledled Cymru.

Derek Vaughan ASE fydd cadeirydd y gweithgor a bydd yr aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, Undeb Llafur, busnes a'r trydydd sector.

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl', cytunodd Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen â'r cynlluniau ar gyfer uno cynhwysfawr fel yr amlinellwyd yn y papur, ar y sail y bydd llywodraeth leol yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn diwygio.

Bydd y gweithgor yn datblygu ein ffocws cyffredin ar symud ymlaen i ddiwygio mewn ffordd sy'n helpu i gryfhau gwasanaethau llywodraeth leol, ac sy'n gwella rôl llywodraeth leol wrth lunio lle a datblygu uchelgeisiau ein cymunedau. Wrth wneud hynny, rydym yn cydnabod bod gan lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru (ynghyd â Chynulliad Cenedlaethol Cymru) swyddogaethau neilltuol wrth lywodraethu Cymru. Bydd y broses hon yn ceisio datblygu dealltwriaeth gyffredin o'r swyddogaethau neilltuol hynny a’r hyn maent yn ei olygu i'r naill a'r llall.

Tasg graidd y Gweithgor yw datblygu agenda gyffredin ar  gyfer diwygio sy'n sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth gwasanaethau lleol drwy: strwythurau a phrosesau priodol – boed hynny'n gydweithio, rhannu gwasanaethau neu uno'n wirfoddol – i gyd o fewn fframwaith atebolrwydd democrataidd ac wedi’u grymuso gan swyddogaethau, pwerau a hyblygrwydd ychwanegol, y fframwaith ariannol priodol ac offer neu gymorth arall sydd ei angen ar gyfer newid.

Mae'r prif faterion y bydd y gweithgor yn rhoi sylw iddynt yn cynnwys:

  • Strwythurau a chydweithio – edrych am gyfleoedd i symleiddio ac integreiddio gweithgarwch; sefydlu'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i waith rhanbarthol pellach; amlinellu'r materion allweddol y gallai awdurdodau a fydd o bosibl yn uno eu defnyddio i brofi eu hachos dros newid; a chynghori ar y camau ymarferol ac unrhyw gymorth sydd ei angen i wneud cynnydd.
  • Pwerau a hyblygrwydd – nodi pwerau a hyblygrwydd penodol a fyddai'n cefnogi llywodraeth leol i gyflawni ei huchelgeisiau, ac ystyried a yw'r trefniadau presennol ar gyfer datblygu polisïau yn sicrhau bod llais llywodraeth leol yn cael ei chlywed a bod ei barn a’i buddiannau’n cael eu hystyried yn briodol mewn penderfyniadau.
  • Dinasyddiaeth weithgar – nodi ffyrdd y mae modd grymuso cymunedau i fod yn rhan fwy ystyrlon o benderfyniadau lleol, cynghori ar sicrhau mwy o amrywiaeth yng nghynrychiolaeth llywodraeth leol ac ystyried sut y gallwn gyflawni hynny a datblygu’r capasiti ymysg aelodau etholedig.
  • Newid gwasanaethau a'r sefyllfa ariannol – canolbwyntio ar ddatblygu'r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau llywodraeth leol oherwydd eu gwerth cyhoeddus.
  • Parch o'r ddwy ochr a rhannu cyfrifoldebau – ystyried sut y gellir datblygu parch o’r ddwy ochr rhwng cynrychiolwyr etholedig yn lleol ac yn genedlaethol a sicrhau bod hyn wedi’i ymwreiddio’n gadarn, sicrhau mwy o gysondeb a dealltwriaeth well o'r rolau a'r cyfrifoldebau perthnasol.

Bydd y gweithgor yn gallu defnyddio'r dystiolaeth sylweddol ar ddiwygio a chyflawni'n effeithiol a ddatblygwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd felly yn canolbwyntio ar benderfynu beth i'w wneud mewn ymateb i'r dystiolaeth honno ac nid ar ddarparu tystiolaeth ychwanegol sylweddol ei hun.

Y canlyniad fydd cynllun pragmatig ar gyfer newid, a luniwyd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac a fydd yn cael ei weithredu ar y cyd rhyngddynt.

Bydd gwaith y gweithgor yn parhau am flwyddyn, gan ddod i ben erbyn haf 2019.

Daw mwyafrif aelodau’r gweithgor o lywodraeth leol, a bydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Undeb Llafur, busnesau a'r trydydd sector:

  • Cadeirydd Annibynnol – Derek Vaughan
  • Chwe arweinydd o Lywodraeth Leol Cymru:
    • Y Cyng. Debbie Wilcox (Arweinydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC))
    • Y Cyng. Andrew Morgan (Llywydd, CLlLC)
    • Y Cyng. Hugh Evans (Arweinydd y Cylch Annibynnol, CLlLC)
    • Y Cyng. Emlyn Dole, (Arweinydd Cylch Plaid Cymru, CLlLC)
    • Y Cyng. Peter Fox, (Arweinydd Cylch y Ceidwadwyr, CLlLC)
    • Y Cyng. Rob Stewart (Dirprwy Arweinydd, CLlLC)
  • Gweinidog Llywodraeth Cymru – Alun Davies (mae’n bosibl y caiff Ysgrifenyddion eraill y Cabinet eu gwahodd i fod yn bresennol, gan ddibynnu ar y pwnc)
  • Cynrychiolydd Undeb – Bethan Thomas (Unsain)
  • Cynrychiolydd Busnes – Michael Plaut (CBI Cymru)
  • Cynrychiolydd Trydydd Sector – Gaynor Richards (Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot).

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.