Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Tynnwyd fy sylw at gyfathrebu a fu yn y dyddiau diwethaf rhwng y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a gweision sifil yn ei is-adran.  Dengys yr e-byst i’r Gweinidog ofyn i’r gwasanaeth sifil roi gwybodaeth breifat iddo am fuddiannau ariannol nifer o Aelodau’r Siambr hon.  Roeddynt yn ymwneud â thaliadau’r PAC oedd wedi’u talu i’r unigolion hynny.  Amgaeaf yr e-byst  perthnasol gyda’r datganiad hwn.

Yn fy marn i mae’r ceisiadau am wybodaeth yn amhriodol ac yn dangos diffyg doethineb, ac mae’r ffaith iddynt gael eu gwneud o gwbl yn annerbyniol imi fel Prif Weinidog.  O ganlyniad, rwyf wedi gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ymadael â’r llywodraeth.

Gresynaf orfod gwneud y penderfyniad hwn a hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o’r cyfraniad y mae Alun Davies yn ddi-os wedi’i wneud at waith y llywodraeth yn ystod ei gyfnod yn ei swydd.