Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AC, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd am wastraff plastig ac, yn benodol, y defnydd o blastig untro, yn dangos pa mor bwysig yw mynd i'r afael â'r mater hwn. Fel Llywodraeth, rydym, felly, yn croesawu'r adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a nododd fod nifer o feysydd allweddol lle y mae angen gweithredu.

A minnau'n Ddirprwy Weinidog yn y maes hwn, roeddwn am amlinellu'r camau yr ydym yn eu cymryd, a sut yr ydym yn bwriadu adeiladu ar y cynnydd yr ydym eisoes wedi ei wneud yng Nghymru ar y mater hwn.  

Yn gyntaf, rwyf am fynd i'r afael â'r ffaith bod rhaglen ddogfen y BBC War on Plastic wedi dod o hyd i wastraff plastig o Gymru ar safle gwastraff anghyfreithlon yn Asia. Mae'n amlwg nad yw hynny’n dderbyniol. Rwyf yn falch bod yr awdurdod lleol perthnasol wedi gweithredu ar fyrder i sicrhau nad yw gwastraff yn cael ei allforio bellach y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd. Byddaf yn ysgrifennu hefyd at ein holl awdurdodau lleol eraill i ofyn iddynt edrych ar eu trefniadau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddeunydd o fannau eraill yng Nghymru yn cyrraedd safleoedd gwastraff anghyfreithlon.

Er mwyn cael ateb hirdymor i'r mater hwn, rhaid inni wneud llawer mwy na dim ond mynd i'r afael â faint o blastig sy'n cyrraedd safleoedd tirlenwi neu sy'n llygru cynefinoedd y byd; rhaid inni hefyd ddefnyddio llai o adnoddau a pharhau i ddefnyddio pethau cyhyd ag y bo modd. Dyma pam mai ein nod yw newid i economi gylchol. Mae'n rhaid inni weithio i gasglu deunyddiau yn y ffordd orau er mwyn iddynt gael eu hailgylchu a'u bwydo'n ôl i mewn i'n heconomi.

Mae ailgylchu'n hanfodol ac mae'n bwysig bod gan y cyhoedd yng Nghymru hyder nad dim ond cael ei waredu y mae'r deunydd y maent yn ei ailgylchu yn eu cartrefi. 

Yr hyn sydd i gyfrif am ein llwyddiant wrth drawsnewid y sefyllfa dros yr 20 mlynedd diwethaf ‒ o fod yn genedl a oedd yn ailgylchu llai na 5%, i wlad sy'n ailgylchu 63% o wastraff trefol ei hawdurdodau lleol ‒ yw’n buddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith. Mae hyn yn golygu bod  rhyw 95% o wastraff trefol Cymru yn cael ei brosesu yn y DU, gyda'r rhan fwyaf ohono'n cael ei brosesu yma yng Nghymru.

Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion i fynd ymhellach. Yn achos gwastraff busnes, byddwn yn gweithredu'r darpariaethau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) i'w gwneud yn ofynnol i ddeunyddiau gael eu casglu ar wahân er mwyn iddynt gael eu hailgylchu, ac er mwyn sicrhau nad yw deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn cael eu gwastraffu. Bydd hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n gwahardd busnesau a'r sector cyhoeddus rhag cael gwared ar wastraff bwyd mewn carthffosydd.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod yn rhaid inni wneud mwy nag ailgylchu er mwyn mynd i'r afael â gwastraff plastig. Dyna pam yr ydym eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiad ar werthu eitemau plastig untro sy'n cael eu taflu'n aml; gan gynnwys gwellt yfed, ffyn troi a ffyn gwlân cotwm, cytleri plastig untro a deunydd cludo bwyd a chwpanau polystyren. Rydym wrthi hefyd yn ystyried camau i helpu naill ai i leihau faint o eitemau plastig untro sy'n cael eu defnyddio neu, os ydynt yn cael eu defnyddio, i sicrhau eu bod yn cael eu gwaredu mewn ffordd briodol. 

Er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sy'n gysylltiedig â sbwriel, rydym wrthi'n datblygu Rhaglen Sbwriel newydd a fydd yn arwain at Gynllun Sbwriel newydd ar gyfer Cymru gyfan. Er mwyn helpu i ddatblygu a gweithredu'r rhaglen hon, rwyf yn sefydlu grŵp newydd a fydd yn manteisio ar yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gan amrywiaeth eang o sectorau er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy a hirhoedlog i atal sbwriel. 

Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod bod angen inni gydweithio ag eraill i sicrhau newid ehangach. Dyna pam yr aethom ati i ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill ar ddiwygio'r drefn ar gyfer deunyddiau pacio. Yn y DU, rydym yn cynhyrchu 11.6 miliwn o dunelli o wastraff deunyddiau pacio bob blwyddyn. Mae'r cynigion hyn, i gyflwyno Cyfrifoldeb Estynedig ar Gynhyrchwyr mewn perthynas â deunyddiau pacio, ac i wneud cynhyrchwyr yn gyfrifol am eu deunyddiau pacio eu hunain ar ddiwedd eu hoes, yn allweddol er mwyn mynd i'r afael â phroblem gwastraff deunyddiau pacio. Ein nod yw nid yn unig ysgogi cynhyrchwyr i ddefnyddio mwy o ddeunyddiau pacio y gellir eu hailgylchu, ond hefyd leihau faint o ddeunyddiau pacio sy'n cael eu defnyddio, gan arwain at leihad dramatig ym maint y gwastraff a gynhyrchir.

Hefyd, mae'n hymgynghoriad ar y cyd ar Gynllun Dychwelyd Ernes yn cynnig mesurau i sicrhau bod mwy o ddeunyddiau o safon uchel, gan gynnwys plastigau, yn cael eu casglu mewn ffordd sydd wedi'i defnyddio'n llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r byd i leihau sbwriel ac i osgoi gwastraff plastig. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ystyried yr ymatebion i'r ymgyngoriadau hyn ac rwy'n bwriadu rhoi diweddariad i Aelodau yn yr hydref. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyflwyno treth ar unrhyw ddeunyddiau plastig sydd â llai na 30% o'u cynnwys wedi'i ailgylchu, ac rydym hefyd, ar yr un pryd, yn cadw'r opsiwn yn agored inni gymryd camau penodol ar wahân yng Nghymru. 

Bydd plastig yn parhau i gael ei gynhyrchu, serch hynny, a bydd yn chwarae rôl bwysig mewn meysydd allweddol. Rwyf, felly, yn rhoi blaenoriaeth i helpu busnesau a dinasyddion i ddefnyddio plastig yn fwy effeithlon ac i'w ailddefnyddio pryd bynnag y bo modd. Mae hyn yn rhan allweddol o’r Gronfa Buddsoddi yn yr Economi Gylchol a lansiwyd gennyf yn ddiweddar. Mae'r Gronfa hon yn werth £6.5 miliwn a bydd yn helpu ac yn  cymell busnesau yng Nghymru i arloesi er mwyn ailddefnyddio gwastraff plastig. Bydd hefyd yn cefnogi'r broses o newid i economi gylchol.

Ar yr un pryd, rydym yn parhau i gyflwyno mentrau i osgoi defnyddio plastig pan fo hynny’n bosibl. Mae'n menter Cenedl Ail-lenwi yn annog pobl ledled Cymru i ail-lenwi eu poteli diodydd drwy drefnu bod dŵr yfed yn hawdd i’w gael, a hynny'n rhad ac am ddim. 

Gan mai fi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes hwn, rwy'n benderfynol o weld Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad wrth weithredu ar wastraff.  Rydym wedi cyflawni cryn dipyn hyd yma, ac wrth inni adeiladu ar y gwaith hwnnw, mae'n bwysig ein bod yn hoelio sylw ar fwy na rheoli gwastraff yn unig. Mae'n bwysig hefyd, wrth inni geisio sbarduno economi fwy cylchol, fod y gwaith hwnnw'n seiliedig ar ein llwyddiannau hyd yma ym maes ailgylchu ‒  llwyddiannau sy'n cael eu cydnabod yn fyd-eang.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cyhoedd yn galw arnom i weithredu'n gynt a hefyd gais y Pwyllgor inni weithredu mewn ffordd strategol. Byddaf, felly, yn datblygu strategaeth ddiwastraff ar ei newydd wedd ac yn ymgynghori arni yn ddiweddarach eleni er mwyn gwireddu'r uchelgais yr ydym i gyd yn ei rannu. Mae’n huchelgais o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 yn parhau mor gryf ag erioed.